Morfil asgellog llwyd

Morfil Asgellog Llwyd
Llun y rhywogaeth
Map
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamal
Urdd: Cetartiodactyla
Teulu: Balaenopteridae
Genws: Balaenoptera
Rhywogaeth: B. physalus
Enw deuenwol
Balaenoptera physalus
(Linnaeus 1758)

Mamal sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Balaenopteridae ydy'r morfil asgellog llwyd sy'n enw gwrywaidd; lluosog: morfilod asgellog llwyd(ion) (Lladin: Balaenoptera physalus; Saesneg: Fin whale).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Affrica, Awstralia, Cefnfor yr Iwerydd, y Cefnfor Tawel, Ewrop a Chefnfor India. Ar adegau mae i'w ganfod ger arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Mewn Perygl' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Enghreifftiau o Gymru golygu

Cafwyd un ifanc wedi ei olchi i’r traeth ym Mhensarn, Abergele Ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl gwyntoedd mawr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014