Morfydd Clark

actores a aned yn 1990

Actores o Gymraes yw Morfydd Clark (ganwyd 17 Mawrth 1989).[1][2][3] Mae'n adnabyddus am ei rhannau film fel Maud yn Saint Maud, Dora Spenlow yn The Personal History of David Copperfield, a mewn cyfresi teledu fel Mina Harker yn Dracula, Sister Clara yn His Dark Materials, a Galadriel yn The Lord of the Rings: The Rings of Power.

Morfydd Clark
Ganwyd17 Mawrth 1989 Edit this on Wikidata
Sweden Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Ganed Clark yn Sweden, ond symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 2 mlwydd oed[4]. Mae hi'n rhugl yn Gymraeg a Saesneg, ac yn gallu siarad ychydig bach o Swedeg. Ar ôl cael trafferth gyda dyslecsia ac ADHD, gadawodd yr ysgol pan oedd hi'n 16 oed.[5]

Yn 2009 fe'i derbyniwyd i gynhyrchiad Theatr Gerdd Ieuenctid Prydain o According to Brian Haw[6] ac i Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru, cyn mynd i hyfforddi yng Nghanolfan Ddrama Llundain. Gadawodd yn ei thymor olaf i chwarae rôl y teitl yn nrama Saunders Lewis, Blodeuwedd, gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae hi wedi ymddangos yn Violence and Son yn theatr y Royal Court, Llundain, fel Juliet yn Romeo and Juliet yn theatr y Crucible, Sheffield, ac yn Les Liaisons Dangereuses yn y Donmar Warehouse, Llundain.[7] Chwaraeodd hi Frederica Vernon yn ffilm Whit Stillman Love & Friendship.[8]

Yn 2016 ymddangosodd yn y ffilm The Call Up[9] ac fel Cordelia yn King Lear yn The Old Vic, Llundain.[10] Yn 2017 serennodd yn Interlude In Prague.[11][12] a phortreadodd Catherine Dickens yn The Man Who Invented Christmas. Ym mis Rhagfyr 2019 roedd si (a gadarnhawyd yn gynnar yn 2020) y byddai Clark yn portreadu fersiwn iau o’r cymeriad Galadriel yng nghyfres The Lord of the Rings ar Amazon Prime.[13]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014 Two Missing Eva Ffilm fer
2014 Madame Bovary Camille
2014 Falling, TheThe Falling Charron, PamelaPamela Charron
2016 Pride and Prejudice and Zombies Darcy, GeorgianaGeorgiana Darcy
2016 Love & Friendship Vernon, FredericaFrederica Vernon
2016 National Theatre Live: Les Liaisons Dangereuses Volanges, CécileCécile Volanges
2016 Call Up, TheThe Call Up Shelly
2016 Prevailing Winds, TheThe Prevailing Winds Anna Ffilm fer
2017 Interlude in Prague Lubtak, ZuzannaZuzanna Lubtak
2017 Man Who Invented Christmas, TheThe Man Who Invented Christmas Dickens, KateKate Dickens
2019 Crawl Keller, BethBeth Keller
2019 Personal History of David Copperfield, TheThe Personal History of David Copperfield Spenlow, DoraDora Spenlow Chwareodd Clara Copperfield hefyd, mam y prif gymeriad, ar ddechrau'r ffilm
2019 Saint Maud Maud
2019 Eternal Beauty Jane ifanc

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014 New Worlds Amelia Cyfres deledu fer
2014 Poet in New York, AA Poet in New York Wickwire, NancyNancy Wickwire Ffilm deledu
2015 Arthur & George Mary Pennod: "1.1"
2018 Alienist, TheThe Alienist Bell, CarolineCaroline Bell Pennod: "Silver Smile"
2018 City and the City, TheThe City and the City Stark, YolandaYolanda Stark Penodau: "Breach", "Orciny"
2018 Patrick Melrose Hickman, DebbieDebbie Hickman Pennod: "Bad News", "Some Hope"
2018 Outsiders Mari Ffilm deledu
2019 His Dark Materials Sister Clara Cyfres deledu
2020 Dracula Harker, MinaMina Harker Cyfres deledu fer
2022 The Lord of the Rings: The Rings of Power Galadriel Cyfres deledu[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Morfydd Clark on Anya". Theatr y Sherman. 9 Hydref 2017. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
  2. Snow, Georgia (19 Medi 2015). "Morfydd Clark: 'Don't get too anxious about your work'". The Stage. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  3. Hewis, Ben (12 Ionawr 2016). "Rising Star: Morfydd Clark". WhatsOnStage.com. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  4. "Morfydd Clark interview: Her sexual awakening performances have critics in raptures". The Independent. Tachwedd 2016. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  5. Williams, Holly (1 Ionawr 2017). "Rising stars of 2017: actor Morfydd Clark". The Guardian. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2017.
  6. "According to Brian Haw (2009) | British Youth Music Theatre".
  7. Khan, Jessica (2 Medi 2015). "Morfydd Clark Joins LES LIAISONS DANGEREUSES at Donmar This Winter". Broadway World. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  8. Robey, Tim (26 Mai 2016). "Love & Friendship shows just how funny Jane Austen can be - review". The Telegraph. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  9. McNamara, Fred. "The Call Up". Starburst. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-20. Cyrchwyd 23 Medi 2016.
  10. BWW news desk (26 Mai 2016). "Jane Horrocks, Celia Imrie & Morfydd Clark to Join Glenda Jackson in The Old Vic's KING LEAR". Broadway World. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  11. Khan, Jessica (24 Mawrth 2016). "Stage Stars Samantha Barks and Morfydd Clark Join INTERLUDE IN PRAGUE Film". Broadway World. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  12. Grater, Tom (4 Ebrill 2016). "'Interlude In Prague' starts shoot, adds cast". Screen Daily. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.
  13. "'Lord of the Rings' Series Taps Morfydd Clark as Young Galadriel (EXCLUSIVE)". Variety. 18 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 10 Mawrth 2020.
  14. Kroll, Justin (December 17, 2019). "'Lord of the Rings' Series Taps Morfydd Clark as Young Galadriel". Variety. Cyrchwyd December 17, 2019.

Dolenni allanol golygu