Môr-wennol fach

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Morwennol fechan)
Môr-wennol fach
Sterna albifrons

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Sternula[*]
Rhywogaeth: Sternula albifrons
Enw deuenwol
Sternula albifrons
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.

Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.

Is-rywogaethau golygu

Ceir tair is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.

Cymru golygu

Ar un adeg roedd y fôr-wennol fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.

Teulu golygu

Mae'r fôr-wennol fach yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Chroicocephalus bulleri Chroicocephalus bulleri
 
Chroicocephalus cirrocephalus Chroicocephalus cirrocephalus
 
Gwylan Bonaparte Chroicocephalus philadelphia
 
Gwylan Hartlaub Chroicocephalus hartlaubii
 
Gwylan Saunders Chroicocephalus saundersi
 
Gwylan arian Chroicocephalus novaehollandiae
 
Gwylan benddu Chroicocephalus ridibundus
 
Gwylan benfrown De America Chroicocephalus maculipennis
 
Gwylan benfrown India Chroicocephalus brunnicephalus
 
Gwylan ylfinfain Chroicocephalus genei
 
Gwylan yr Andes Chroicocephalus serranus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
 
Sternula albifrons albifrons

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Môr-wennol fach gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.