Ed Holden

Rapiwr a bît-bocsiwr o Gymro
(Ailgyfeiriad o Mr. Phormula)

Mae Ed Holden (ganed tua 1984)[1] neu i roi ei enw llwyfan, Mr Phormula yn rapiwr, bît-bocsiwr, perfformiwr yng Nghymru ac y Deyrnas Unedig. Mae'n rhedeg ei stiwdio recordio ei hun, Stiwdio Panad[2] yn Llanfrothen, Gwynedd.

Ed Holden
FfugenwMr Phormula Edit this on Wikidata
Ganwyd1980s Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfrothen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethrapiwr, beatboxer Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mrphormula.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Holden yn Llanelwy a magwyd yn Llanerchymedd ac yna Amlwch, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones.[angen ffynhonnell] Yn 21 oed rhoddodd gorau i'w swydd mewn canolfan alwadau er mwyn mynd yn gerddor, cynhyrchydd a pherfformiwr llawn amser. Bydd hefyd yn rhoi gwersi rapio a bît bocsio mewn ysgolion a chlybiau.

Mae Holden/Mr Phormula wedi chwarae rhan flaenllaw yn y Sôn Roc Gymraeg ers canol yr 2000au.

Dechreuodd ei ddiddordeb yn y Sîn Roc Gymraeg pan oedd yn 17 oed a cyflwynodd Aaron Elias o'r grŵp Pep Le Pew, gasét o fiwsig Cymraeg iddo. Dyma oedd y tro cyntaf i Holden glywed rap yn y Gymraeg. Yn ôl wefan Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch Dydd Miwsig Cymru 2018, "Wnes i wrando ar y cassette a clywed rap yn yr iaith Gymraeg am y tro cynta’ erioed, wow! Felly wnes i ymuno efo’r band a dyna be gychwynodd fy ngyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg."[3] Wedi'r profiad yma, ymunodd Holden gyda grŵp Pep le Pew o Borthmadog ar ddechrau'r Mileniwm.

Roedd yn aelod o grŵp rap chwaraeus, Genod Droog oedd yn cynnwys unigolion sydd wedi mynd ymlaen i chwarae rhan amlwg ym mywyd cerddoriaeth a diwylliant Cymru gan gynnwys y prifardd Aneirin Karadog, y cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Dyl Mei, a'r cyflwynydd ar Radio Cymru, Gethin Evans.

Mae hefyd wedi perfformio efo Derwyddon Dr Gonzo - band boblogaidd a dylwanwadol arall.

Ers diwedd y Genod Droog, mae ef wedi parhau i berfformio a chyfansoddi. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.

Yn 2012 daeth y person gyntaf i berfformio yn y Gymraeg yng ngwobrau MOBO yn y Liverpool Arena.[1]

Stiwdio Panad

golygu

Sefydlodd Holden Stiwdio Panad yn Llanfrothen. Mae Stiwdio Panad yn fan cynhyrchu i ddeunydd gwreiddiol Holden a “Panad Productions”.

Disgograffi

golygu
  • 2023 – Mr Phormula – AWDL (Artist With Dual Language) albwm – "another landmark in Welsh hip hop"[4]
  • 2022 – Mr Phormula / Lord Willin – Roads (sengl) – ar label Bard Picasso[5]
  • 2017 – Mr Phormula – Llais / Voice
  • 2017 – Mr Phormula – Cwestiynau / Questions (sengl)
  • 2016 – Mr Phormula – Llwybrau EP
  • 2016 – Mr Phormula – Un Ffordd EP
  • 2014 - Mr Phormula – Be ti’n Gweld EP
  • 2014 - Mr Phormula – Cymud (albuwm)
  • 2013 - Sleepbeggar – Me leaving me EP (prosiect ar y cyd)
  • 2012 - Mr Phormula – Minority EP
  • 2011 - Y Bwgan – Recordiau coch (cynhyrchu trac a chasgliad)
  • 2010 - Mr Phormula – Forward thinking albwm
  • 2009 - Pen-Ta-Gram – Twisted Tongues abwm (prosiect ar y cyd)
  • 2009 - Barddoniaeth boced-din – Raps heddiw publication
  • 2008 - Genod Droog – Ni oedd Y Genod Droog albwm
  • 2008 - Dybl L - Gesha pwy sy nôl?' (prosiect ar y cyd)
  • 2008 - Y Diwygiad – HYMN 808 albwm (prosiect ar y cyd)

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Rapper Mr Phormula to make history with first Welsh rap at MOBO awards. Wales Online (21 Hydref 2012).
  2. http://www.mrphormula.com/hafan/
  3. http://cymraeg.gov.wales/DyddMiwsigCymru/Cyfweliadau/ed-holden/?lang=cy[dolen farw]
  4. (Saesneg) Williams, Tomos (26 Gorffennaf 2023). AWDL by Mr Phormula - Review. Wales Arts Review. Adalwyd ar 11 Awst 2024.
  5.  Sengl gyntaf Mr Phormula ar label newydd. Y Selar (20 Chwefror 2022). Adalwyd ar 11 Awst 2024.