Mwstwr yn y Clwstwr (panto)

Pantomeim Cymraeg gan Gwmni Theatr Cymru o 1979 yw Mwstwr yn y Clwstwr neu Mwstwr y Clwstwr. Dyma'r wythfed pantomeim Cymraeg i'r cwmni gyflwyno ers 1971. Cyfansoddwyd y gwaith gan Ann Llwyd [Ellis Jones] a Dilwyn Roberts.[1]

Mwstwr yn y Clwstwr
Dyddiad cynharaf1979
AwdurAnn Llwyd [Ellis Jones]
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
CyfarwyddwrAlan Clayton
CyfansoddwrDilwyn Roberts

Disgrifiad byr

golygu

Sioe wedi'i osod yn y gofod.

Cefndir

golygu

Dilwyn Roberts, cyfansoddwr a cyfarwyddwr cerdd y panto, sy'n hel atgofion ar ei wefan : "Ddechrau mis Hydref [1979], derbyniodd Emyr [Gari Williams] alwad ffôn gan Wilbert Lloyd Roberts ynglŷn â phantomeim 1979-80. Cwrddon ni â Wilbert a’r cyfarwyddwr newydd, Alan Clayton. Roedd Alan wedi cyfarwyddo sawl drama i Gwmni Theatr Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â dramâu i HTV. Ysgrifennwyd y sgript gan Ann Llwyd Elis Jones. Yn ymuno ag Emyr yn y cast roedd y criw o actorion oedd ym mhantomeim 1978-79, Eli Babi. Chwarae'r dyn drwg unwaith eto oedd [Ifan] Huw Dafydd, Marion Fenner oedd y Forwyn a Sioned Mair oedd un o'r cariadon. Hefyd yn ymddangos fel cymeriad roedd cyfarwyddwr y panto llynedd, Grey Evans. Y wynebau newydd yn y cast oedd Gwen Ellis, Siân Wheldon a Dilwyn Young Jones."[1]

Cymeriadau

golygu
  • Abram Cadabram[2]
  • Cai
  • Serian
  • Y Brenin Lwni
  • Aderyn
  • Grisial
  • Micos
  • Mrs Lloerig

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Cast y sioe Mwstwr yn y Clwstwr (1979) Archifau Gwynedd.

Llwyfannwyd y panto am y tro cyntaf yn Theatr Gwynedd yn Rhagfyr 1979. Cyfarwyddwr Alan Clayton; cynllunydd Martin Morley; cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts; cast:

"Yn ôl adolygydd y Daily Post, Roy Owen, roedd y sioe, "Out of this World". Canmolodd y setiau, y sain, y gwisgoedd, y goleuo, y coreograffi ac hefyd y gerddoriaeth. Cyfeiriwyd at Emyr [Gari Williams] fel "seren y sioe", Bu pythefnos o berfformiadau ym Mangor fel arfer, gyda thaith arall o amgylch Cymru i ddilyn, gan ddechrau yn Harlech ar Ionawr 5ed. Wedi 73 o berfformiadau, daeth y daith i ben ym Mhwllheli ar Chwefror 23ain 1980. Hwn oedd trydydd pantomeim Emyr a’r olaf am gyfnod."[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Hanes Emyr ac Elwyn Pen 04 (1979 -1981)". Hanes Emyr ac Elwyn Pen 04 (1979 -1981) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
  2. "Pantos Cwmni Theatr Cymru". BBC Cymru Fyw. 2014-12-23. Cyrchwyd 2024-09-12.