Mynydd Llangyndeyrn

bryn (263m) yn Sir Gaerfyrddin

Mae Mynydd Llangyndeyrn yn gopa mynydd a geir ger Pontyberem, yng Nghwm Gwendraeth rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin; cyfeiriad grid SN482132. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 93 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Caiff y mynydd ei adnabod fel safle o Werth Gwyddonol Arbennig.

Mynydd Llangyndeyrn
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr263 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8°N 4.2°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN4823913274 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd172 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Llangyndeyrn Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ceir yma hefyd ambell safle hanesyddol bwysig: dwy siambr gladdu, meini hirion a chylchoedd cerrig o'r Oes Efydd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd Menter Cwm Gwendraeth ar y cyd gyda Cadw a'r Comisiwn Cefn Gwlad yn ceisio gwarchod y lle drwy ei ddatblygu, a chafwyd nawdd o £200,000 i wneud hynny. Bydd tua 50 o wartheg duon Cymreig yn pori yno. Gellir gwled ar y mynydd, ymhlith eraill: Ffa'r Gors, Grug Clochog, Clochdar y Cerrig a Thelor y Gwair - a glöyn byw prin iawn o'r enw Brith y Gors.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 263 metr (863 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 22 Rhagfyr 2007.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu