Nicholas Desmond John Smith

gwleidydd Cymreig ac AS Blaenau Gwent

Mae Nicholas Desmond John (Nick) Smith (ganwyd 14 Ionawr 1960) yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig sydd wedi cynrychioli Blaenau Gwent fel Aelod Seneddol ers etholiad cyffredinol 2010. Rhwng 1998 a 2006 bu'n gynghorydd Bwrdeistref Camden.[1]

Nicholas Desmond John Smith
Ganwyd14 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodJenny Chapman Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Smith yng Nghaerdydd yn fab i William Thomas Smith ac Alma Anne ei wraig. Cafodd ei fagu yn Nhredegar, lle derbyniodd ei addysg yn yr ysgol gyfun leol cyn mynychu Prifysgol Coventry lle graddiodd BA mewn Hanes, Gwleidyddiaeth a Pherthnasau Rhyngwladol. Ym 1991 fe enillodd gradd MSc mewn Economeg a Newid Cymdeithasol o Goleg Birbeck, Prifysgol Llundain.[2]

Yn 2014 priododd ei gyd Aelod Seneddol Llafur Jennifer Chapman, AS Darlington (2010 - cyfredol)[3] mae ganddo ddwy ferch o briodas flaenorol.

Gyrfa golygu

Cyn cael ei ethol bu Smith yn gweithio fel trefnydd i'r Blaid Lafur ac fel trefnydd i elusennau. Rhwng 1989 a 1991, bu'n drefnydd etholaethol i Frank Dobson, AS Holbourn a St Pancras. Rhwng 1991 a 1993 bu'n drefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Rhwng 1993 a 1998 bu'n gweithio ym Mhencadlys Llafur yn Llundain lle fu'n gyfrifol am ddatblygu ymgyrch cynyddu aelodaeth y blaid. Rhwng 1998 a 2000 bu'n gweithio fel ymgynghorydd ar ymgyrchu rhyngwladol gan wneud gwaith i'r Blaid Democrataidd yn yr UDA a Sefydliad Democratiaeth San Steffan. Rhwng 2005 a 2006 bu'n Ysgrifennydd i grŵp Aelodau Senedd Ewrop y Blaid Lafur.

Rhwng 2000 a 2004 bu'n Rheolwr ymgyrchoedd i'r Gymdeithas er Atal Creulondeb i Blant a rhwng 2006 hyd ei ethol yn 2010 bu'n gyfarwyddwr polisi Coleg Brenhinol Therapyddion Llefaredd ac Iaith.

Gyrfa wleidyddol golygu

Etholwyd Smith yn gynghorydd Llafur dros Ward King's Cross ar Gyngor Bwrdeistref Camden ym 1998 gan gael ei ail ethol yn 2002. Gwasanaethodd fel aelod o Gabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am faes addysg o 2003. Ymneilltuodd o'r cyngor yn 2006 pan symudodd i Frwsel i weithio yn Senedd Ewrop.[4]

Yn 2007 cafodd ei ddethol yn darpar ymgeisydd Llafur yn etholaeth Blaenau Gwent. Bu Blaenau Gwent yn un o gadarnleoedd sicraf y Blaid Lafur, bu Michael Foot cyn Arweinydd y Blaid Lafur yn AS dros yr etholaeth a thros Glyn Ebwy, y cyn etholaeth a ragflaenodd Blaenau Gwent yn yr un ardal; bu Aneurin Bevan, un o arwyr Llafur hefyd yn AS dros Glyn Ebwy. Yn etholiad Cyffredinol 1997 roedd gan Llew Smith AS mwyafrif o dros 70%. Pan gyhoeddodd Llew Smith ei benderfyniad i beidio sefyll eto yn etholiad 2005 cododd anghydfod rhwng y Blaid Lafur lleol a'r Blaid Lafur canolog, roedd yr aelodau lleol am ddewis yr Aelod Cynulliad Peter Law fel olynydd i Llew Smith ond roedd y blaid ganolog yn mynnu bod yr ymgeisydd yn cael ei dethol o restr menywod yn unig. Safodd Law fel ymgeisydd plaid Annibynnol Llais Pobl Blaenau Gwent gan gipio'r etholaeth. Ar farwolaeth Law llwyddodd Dai Davies i gadw'r sedd i Lais y Bobl mewn isetholiad yn 2006. Bu'r ymgyrch rhwng Smith a Davies yn un fudur gyda Davies yn galw Smith yn Gynnyrch Llafur Newydd Blair a Smith yn ymateb trwy honni bod Davies yn gwneud dim ond taflu baw.[5]

Llwyddodd Smith i gipio Blaenau Gwent yn ôl i'r gorlan Llafur yn etholiad Cyffredinol 2010. Ers cael ei ethol mae Smith wedi ymgyrchu yn gryf ar achosion yn ymwneud a gofal plant a cham drin plant. Mae o wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Weinidog Cysgodol am Waith a Phensiynau a'r Ysgrifennydd Tramor Cysgodol[6]. Ers mis Medi 2015 bu'n gwasanaethu fel y Gweinidog Cysgodol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.[7]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. ‘SMITH, Nicholas Desmond John’, Who's Who 2016, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2016; online edn, Oxford University Press, 2015 ; online edn, Nov 2015 accessed 8 Jan 2016 (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus)
  2. Gwefan Nick Smith bio [1] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Ionawr 2015
  3. ‘CHAPMAN, Jennifer’, Who's Who 2016, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2016; online edn, Oxford University Press, 2015 ; online edn, Nov 2015 accessed 8 Jan 2016(mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus)
  4. Camden New Journal Friday 10th June, 2005 Smith goes to Brussels [2] Archifwyd 2011-06-12 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Ionawr 2016
  5. Wales on line (Western Mail) 29 Ebrill 2010 Let’s stop the mud-slinging, says Labour candidate [3] adalwyd 8 Ionawr 2016
  6. BBC Democracy Live Nick Smith MP [4] adalwyd 8 Ionawr 2016
  7. My parliament Nick Smith MP [5][dolen marw] adalwyd 8 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Dai Davies
Aelod Seneddol Blaenau Gwent
2010 – deilydd
Olynydd:
deilydd