Nicola Benedetti
Mae Nicola Joy Nadia Benedetti CBE (g. 20 Gorffennaf 1987) yn unawdydd ffidil o'r Alban. Enillodd wobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC pan oedd yn 16 oed. Mae hi'n gweithio gyda cherddorfeydd yn Ewrop ac America yn ogystal â Alexei Grynyuk, ei chyfeilydd rheolaidd. Ers 2012, mae hi wedi chwarae ffidil gan Gariel Stradivarius. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain Gŵyl Ryngwladol Caeredin pan gafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr yr Ŵyl ar 1 Hydref 2022.[1][2]
Nicola Benedetti | |
---|---|
2024 | |
Ganwyd | 20 Gorffennaf 1987 West Kilbride |
Label recordio | Deutsche Grammophon |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fiolinydd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Gwobr/au | MBE, Gwobr 100 Merch y BBC, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, The Queen's Medal for Music, CBE, BBC Young Musician, Classic Brit Awards |
Gwefan | http://www.nicolabenedetti.co.uk/ |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Benedetti yng Ngorllewin Kilbride, Gogledd Swydd Ayr, yr Alban, i dad o'r Eidal a mam o dras Eidalaidd ac Albanaidd.[3] Dechreuodd chwarae'r ffidil yn bedair oed gyda gwersi gan Brenda Smith. Yn wyth oed, daeth yn arweinydd Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr.[4] Yn naw oed, roedd eisoes wedi llwyddo yn ei harholiad gradd wyth, tra'n mynychu Ysgol Wellington. Ym mis Medi 1997, dechreuodd astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin yng nghefn gwlad Surrey, Lloegr.
Ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf (1998), chwaraeodd unawd yng nghyngerdd blynyddol yr ysgol yn Neuadd Wigmore, a pherfformiodd yn Llundain a Pharis fel unawdydd yn Concerto Ffidil Dwbl Bach gydag Alina Ibragimova. Chwaraeodd mewn cyngerdd coffa yn Abaty Westminster i ddathlu bywyd a gwaith Yehudi Menuhin.
Yn 2000, bu'n cystadlu yng Nghystadleuaeth Menuhin fel cystadleuydd iau.
Mae gan Nicola chwaer hŷn, Stephanie, sydd hefyd yn chwarae'r ffidil.
Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC
golyguYn mis Mai 2004, pan oedd yn 16 oed, enillodd Benedetti gystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, gan berfformio Concerto Ffidil Cyntaf Karol Szymanowski yn y rownd derfynol yn Neuadd Usher yng Nghaeredin, gyda Cherddorfa Symffoni Albanaidd y BBC.[5][6] O ganlyniad i ennill y wobr, daeth yn gyntaf yn adran gerddoriaeth gwobr Top Scot ym mis Rhagfyr 2005.[7]
Benedetti Foundation
golyguYn 2019, ffurfiodd Benedetti'r Benedetti Foundation. Ers 2019, mae'r elusen wedi gweithio gyda mwy na 75,000 o bobl o bob oed a 105 gwlad gwahanol yn cymryd rhan. Yn 2024, roedd eu fideos ar Youtube wedi cael eu chwarae mwy na 6.5 miliwn o weithiau.
Bywyd personol
golyguRoedd Benedetti mewn perthynas â'r sielydd Almaenig Leonard Elschenbroich, y cyfarfu ag ef yn Ysgol Gerdd Yehudi Menuhin. Er bod y berthynas wedi dod i ben, maent yn parhau i fod yn ffrindiau da.[8]
Yn mis Mai 2024, adroddodd y wefan Slipperdisc bod Benedetti wedi cael plentyn.[9]
Anrhydeddau a gwobrau
golygu- Yn 2007, derbyniodd doethuriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Caledonian Glasgow.
- Yn 2010, derbyniodd doethuriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Heriot-Watt.
- Yn 2011, derbyniodd gradd anrhydeddus gan Brifysgol Caeredin.
- Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2013, cafodd ei gwneud yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) "Am wasanaeth i gerddoriaeth ac i elusen". [10]
- Yn 2013, derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Caerlŷr.
- Yn 2015, cafodd ei rhestru ar BBC 100 Women
- Yn 2017, cyflwynwyd iddi Fedal Gerddoriaeth y Frenhines. Benedetti oedd y ieuengaf o'r deuddeg person i dderbyn y wobr ers ei sefydlu yn 2005. [11]
- Yn 2017, cafodd ei hethol yn gymrawd anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol Caeredin.[12]
- Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2019 cafodd ei gwneud yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) "Am wasanaeth i gerddoriaeth".
- Yn 2019 derbyniodd wobr Medal Frenhinol gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin am wella bywydau plant difreintiedig yr Alban trwy Sistema Scotland a’r Big Noise Orchestras.[13]
- Yn 2020, derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Efrog.
- Yn 2022, enillodd Gwobr Grammy am yr unawd offerynnol clasurol gorau.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Nicola Benedetti to become our next festival director".
- ↑ Carrell, Severin; Khomami, Nadia (1 Mawrth 2022). "Nicola Benedetti becomes first woman and first Scot to lead Edinburgh international festival" (yn Saesneg). Guardian Media Group. The Guardian.
- ↑ "Nicola Benedetti". Scotland is the Place. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-29.
- ↑ Nicola Benedetti, interviewed during BBC Radio 3 broadcast of 2012 BBC Proms (5 August 2012)
- ↑ Macleod, Angus (6 Mai 2004). "McConnell bows to pressure over young musician". The Times. Times Newspapers Limited.
- ↑ "Violinist, 16, wins musical title". BBC News (yn Saesneg). 2 Mai 2004. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
- ↑ "Rankin the toast of Scotland as fans sing his praises". Living Scotsman.
- ↑ "Benedetti: I've never stopped loving my former boyfriend". HeraldScotland (yn Saesneg). Glasgow. 5 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2024.
- ↑ "SlipperDisc". SlipperDisc.
- ↑ "Violinist Nicola Benedetti receives Order of the British Empire". Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-20.
- ↑ Davis, Lizzie (23 Mai 2017). "Nicola Benedetti awarded Queen's Medal for Music". Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-12-05.
- ↑ "RSE Welcomes 60 New Fellows" (yn en) (Press release). https://www.rse.org.uk/rse-welcomes-60-new-fellows/. Adalwyd 28 Mawrth 2017.
- ↑ "Royal Medals". Royal Society of Edinburgh (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
- ↑ Kennedy, Kara (30 Mehefin 2022). "Yet another string added to Benedetti's bow with RCS president role". The Herald (yn Saesneg). Glasgow. t. 3.
- ↑ "Benedetti selected to receive 2023 city award". The Herald (yn Saesneg). Glasgow. 17 Hydref 2023. t. 3.