North Wales Weekly News

Papur newydd Saesneg wythnosol yw'r North Wales Weekly News sy'n cael ei ddosbarthu ar hyd arfordir Gogledd Cymru o Abergele i Lanfairfechan, gan gynnwys Dyffryn Conwy. Mae'n cael ei argraffu ar safle yng Nghyffordd Llandudno gyda swyddfa yn Llandudno, Sir Conwy. Roedd yn bapur anniybnnol yn y gorffennol ond erbyn hyn mae'n rhan o'r grwp Trinity Mirror, cyhoeddwyr y Daily Post a sawl papur newydd arall, gan cynnwys y Daily Mirror.

North Wales Weekly News
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
LleoliadGogledd Cymru Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiBae Colwyn Edit this on Wikidata
PencadlysBae Colwyn Edit this on Wikidata

Chwaer-bapurau

golygu

Mae ei chwaer-bapurau yn y rhanbarth yn rhan o'r is-gwmni 'Trinity Mirror North West & North Wales Limited' ac yn cynnwys:

  • Abergele Visitor
  • Bangor and Anglesey Mail
  • Caernarfon Herald
  • Denbighshire Visitor
  • Flintshire Chronicle
  • Holyhead and Anglesey Mail
  • Rhyl Visitor
  • Wrexham Chronicle

Mae'r papurau hyn yn rhannu erthyglau ond gyda erthyglau lleol ar gyfer y papurau unigol hefyd. Yn ogystal â'r papurau uchod mae'r grwp yn cyhoeddi Yr Herald Cymraeg yn wythnosol fel math o atodiad yn y Daily Post, ond cysgod o'r hen Herald ydyw, gyda dim ond 4 tudalen.

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato