Pab yr Eglwys Gatholig o 625 hyd 638 oedd Honorius I (bu farw 12 Hydref 638). Ef oedd y degfed pab a thrigain yn ôl cyfrif y Fatican.[1] Ychydig degawdau wedi ei farwolaeth, cafodd ei gondemnio'n heretic.

Pab Honorius I
Ganwydc. 585 Edit this on Wikidata
Campania Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 638 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddpab Edit this on Wikidata
TadPetronius Edit this on Wikidata

Ni wyddys am ei fywyd cyn iddo ddod yn bab, ond yn ôl y Liber Pontificalis roedd yn hanu o Campania yn ne'r Eidal ac yn fab i'r conswl Petronius. Wedi marwolaeth Pab Boniffas V, cafodd Honorius ei ethol yn Esgob Rhufain ar 27 Hydref yn y flwyddyn 625. Ceisiodd Honorius i efelychu cenadaethau'r Pab Grigor I. Estynodd yr ymgyrch i Gristionogi Ynysoedd Prydain ac Iwerddon: cyflwynodd y paliwm i Honorius, Archesgob Caergaint a Paulinus, Esgob Efrog, anogodd y Cristnogion Celtaidd i dderbyn litwrgi Rhufain a dyddiad y Pasg, a danfonodd Sant Birinus (yn hwyrach Esgob Dorchester) yn gennad i Deyrnas Wessex.[2] Yn yr Eidal, ymdrechodd i achub pensaernïaeth y Rhufeiniaid ac adnewyddu adeiladau Cristnogol, gan gynnwys eglwys Sant'Agnese fuori le mura. Llwyddodd i ailgymodi Istria i Rufain wedi i'r dalaith honno hollti yn sgil Sgism y Tri Chabidwl, er ni ddaeth Honorius â therfyn i'r ddadl fawr honno. Ad-drefnodd cynghorau'r Eglwys yn Sbaen wedi i deyrnas y Fisigothiaid droi'n Babyddol.[3]

Prif ddigwyddiad ei deyrnasiad oedd y ddadl ynghylch Monoffysyddiaeth a Monotheletiaeth. Yn y flwyddyn 634, galwodd Sergius, Patriarch Caergystennin a phennaeth yr Eglwys Dwyreiniol, ar derfyn i'r ddadl gan gynnig athrawiaeth "un ewyllys". Ymatebodd y Pab Honorius gan gyfeirio at gyffes ffydd Cyngor Calcedon (451) sy'n cytuno â'r farn Fontheletaidd taw un natur ac felly un ewyllys sydd gan yr Iesu. Datganodd Honorius taw dyna oedd diwedd y ddadl. Parháodd yr anghydfod ar ôl marwolaeth Honorius, ac yn 680 galwyd Trydydd Cyngor Caergystennin gan yr Eglwys Ddwyreiniol i ddatrys y cwestiwn. Penderfynodd y Cyngor taw dwy ewyllys sydd gan Iesu Grist, a chafodd Honorius ei anathemeiddio am ei athrawiaeth Fonothelitaidd. Cadarnháodd y Pab Leo II y condemniad hwn yn 682, gan gyhuddo Honorius o ddysgeidiaeth yn groes i'r traddodiad apostolaidd. Cafodd etifeddiaeth y ddadl oblygiadau yn yr Eglwys Gatholig dros fil o flynyddoedd yn ddiweddarach: sonir am heresi'r Pab Honorius gan y clerigwyr a'r diwinyddion a wrthwynebodd athrawiaeth anffaeledigrwydd y Pab yng Nghyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Er y gollfarn swyddogol yn ei erbyn, mae gan Honorius ei amddiffynwyr hyd heddiw. Dadleua sawl diwinydd ac ysgolhaig taw annoeth ac nid hereticaidd oedd ei ddysgeidiaeth, gan nodi ei iaith amwys.[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Honorius I ar wefan Esgobaeth y Pab. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) "Pope Honorius I" yn y Catholic Encyclopedia (1913). Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Honorius I. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
  4. (Saesneg) M. Jean-Andre Perlant. "The Sullied Reputation of a Holy Pope", The Francinta Messenger (Mehefin 1994). Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.