Pafiliwn Pontrhydfendigaid
Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid, a elwir hefyd yn Pafiliwn Pantyfedwen yn neuadd gyngerdd fawr yn mhentref bychan Pontrhydfendigaid ger Tregaron yng Ngheredigion. Gelwir hi hefyd yn Pafiliwn Bont ar lafar, gyda thalfyriad enw Pontrhydfendigaid i "Bont".
Enghraifft o'r canlynol | neuadd gyngerdd |
---|---|
Lleoliad | Pontrhydfendigaid |
Rhanbarth | Ystrad-Fflur |
Hanes
golyguRhodd oedd y Pafiliwn gwreiddiol gan Syr David James Pantyfedwen yn y 1960au. Ganwyd Syr David James yn Llundain yn 1887 lle’r oedd y teulu yn cynnal busnes llaeth yn ardal Westminster. Bu’r blynyddoedd cynnar i'w frawd ac yntau yn gyfnod o iechyd bregus ac, o ganlyniad, penderfynodd y teulu symud yn ôl i Geredigion i’r lle yr oeddent wedi ymfudo ohono rai blynyddoedd ynghynt. Sefydlwyd cartref newydd ym Mhantyfedwen, tŷ ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid. Dyna'r rheswm dros enw'r Pafiliwn. Roedd David James yn ŵr busnes llwyddiannus iawn gan agor y 'super cinema' gyntaf yn Llundain (y Palmadium yn ardal Palmers Green) gyda lle i fwy na 2,000 o bobl eistedd. Roedd yn Gristion cadarn a bu'n cefnogi'r iaith a'r diwylliant Gymraeg yn frwd ac yn hael, gan sefydlu Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn 1957. Bu farw yn 1967 ychydig fisoedd cyn agoriad swyddogol swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth ar Stryd y Farchnad, Aberystwyth yn 1968, sy'n dal i sefyll ac yn swyddfa i'r Ymddiriedolaeth.[1]
Pinaclau Pop 1968
golyguMewn erthygl yn y Selar yn 2020, meddai'r canwr Huw Jones iddo gredu mai yng nghyngerdd fawr Pinaclau Pop ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 y clywyd y term "y byd pop Cymraeg" am y tro cyntaf. Mae'r erthygl yn cynnwys tameidiau o'i hunangofiant, 'Dwi Isio Bod yn Sais ...'. Ymysg y grwpiau oedd yno i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969 oedd; Dafydd Iwan, Heather Jones, Y Diliau, Hogia Llandegai, Y Derwyddon ac eraill.[2]
Addasu ac Ail-agor
golyguWedi cyfnod hesb bu i'r Pafiliwn ail-agor yn 2006-07. Agorwyd y Pafiliwn ar ei newydd wedd ar ôl i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru gefnogi gwaith adnewyddu.
Fe gafodd grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un. Cynhaliwyd Eisteddfodau Sir yr Urdd, gweithgareddau Ffermwyr Ifanc, cystadleuaeth Cân i Gymru, Gŵyl Ddathlu 50 Cymdeithas yr Iaith, yr Ŵyl Gerdd Dant ac arddangosfeydd yno.
Bu i'r pafiliwn gau dros dro yn 2013 wedi i'r cwmni oedd yn rhedeg y Pafiliwn, Pafiliwn Cyf., ddod i ben yn wirfoddol yn 2013 oherwydd nad oeddynt yn gallu talu dyledion o £80,000 i'r banc.[3]
Heddiw
golyguMae'r Pafiliwn yn dal ar agor heddiw ac yn cynnal cynadleddau, gweithgareddau a chyngherddau mawr a bach a gan gynnwys 'Sioe Bont'.[4]
Defnydd
golyguPafiliwn Bont yw lleoliad Eisteddfodau Pantyfedwen Pontrhydfendigaid yn flynyddol ym mis Mai. Mae Pafiliwn Bont yn lleoliad amlbwrpas, sydd wedi'i leoli yng nghanol Cymru, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau, o logi cynadleddau i gynhyrchu teledu a gigs. Y prif ystafell yw'r awditoriwm gyda lle i dros 2000 o bobl.[5] Gall y neuadd ddal 2,200 o bobl a cheir 3 ystafell gyfarfod, gyda digon o le parcio i hyd at 300 o geir, ac 20 bws.[6]
Dolenni allanol
golygu- Pafiliwn Bont tudalen Facebook
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dechreuadau a Hanes Yr Ymddiriedolaeth". Gwefan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ "Dwi Isio Bod yn Sais ..." Y Selar. 2020. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ "Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod". BBC Cymru Fyw. 10 Ebrill 2013.
- ↑ "Sioe Bont yn llwyddo yn Pafiliwn Bont 2022". BroCaron 360. 2022.
- ↑ "Pafiliwn Pontrhydfendigaid". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ "Pafiliwn Bont". Gwefan Conferences UK. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.