Y Diliau
Grŵp pop-gwerin ysgafn a oedd yn boblogaidd yn yr 1960au a’r 1970au oedd Y Diliau. Ffurfiwyd y grŵp yn 1964. Roedd yr aelodau gwreiddiol, sef Meleri Evans (llais a gitâr), Mair Robbins (née Davies, llais) a Lynwen Jones (llais a gitâr), yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, gyda Meleri Evans yn ferch i’r gwleidydd a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1964 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin, Pop Cymraeg |
Iaith wreiddiol | Cymraeg, Saesneg |
- Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar Y Diliau
Darlledwyd rhaglen ar y grŵp ar raglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru ar Llun 31 Mai 2021.[1]
Gyrfa
golyguRhyddhawyd record gyntaf Y Diliau dan yr enw syml ‘Caneuon Y Diliau’ ar label Cymreig enwog Qualiton ym 1965.
EP pump trac oedd y record gyntaf, ac fe ryddhawyd cyfres o EPs eraill ganddynt dros y degawd canlynol ar labeli Qualiton, Dryw, Cambrian a Sain. Yna, ym 1978 daeth unig albwm y grŵp, sef Tân neu Haf, ar label Gwerin.
Llwyddodd Y Diliau i recriwtio rhai o fawrion y genedl fel ffans, ac ar glawr eu pedwaredd record, i label Dryw yn 1970, dywedodd Ryan Davies iddo gael ei swyno mewn cyngerdd yn Llundain gan grŵp y Womenfolk, ac na “chlywodd leisiau yn asio mor berffaith i’w gilydd” a chredai na chlywai hynny fyth chwaith, ond yna clywodd Y Diliau."[2]
Roedd y Diliau yn brysur iawn yn perfformio ar draws Cymru gan gynnwys cyngerdd fawr enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Aled a Reg, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Mari Griffith a'r Derwyddon i gynulleidfa o 3,000 o bobl gyda Ryan Davies yn arwain.[3]
Roedd seren byd rygbi’r 70au, Barry John, hefyd yn hoff iawn o’r Diliau ac ef fu’n eu canmol ar glawr eu record yn 1972, gan ddweud mai “un o bleserau mawr bywyd yw eistedd, ymlacio ac ymollwng i swyn a chyfaredd eu cynghanedd…”[2]
Bu iddynt ymddangos ar raglenni cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg fel Hob y Deri Dando, a Disc a Dawn yn yr 1960au ac eraill yn yr 1970au.
Casgliad Goreuon y Diliau
golyguAr 21 Mai 2021 rhyddhau casgliad cyflawn Y Diliau ar ffurf digidol gan Recordiau Sain o'r enw 'Y Diliau y Casgliad Cyflawn The Complete Collection'.[2]
Disgyddiaeth
golygu- Caneuon y Diliau [EP] (Recordiau Qualiton QEP4043, [1966])
- Dwli ar y Diliau [EP] (Qualiton QEP4051, [1966])
- Ambell Dro [EP] (Recordiau Cambrian CEP436, 1969)
- Rho Dy Law [EP] (Recordiau'r Dryw WRE1081, 1970)
- Daeth Dei yn ôl [EP] (Dryw WRE1096, 1970)
- Rebel [EP] (Dryw WSP2007, 1971)
- ’72 [EP] (Dryw WRE1121, 1972)
- Blas ar y Diliau [EP] (Sain 35, 1973)
- Tân Neu Haf (Gwerin SYWM216, 1979)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Sgwrs efo aelodau Y Diliau, Meleri, Gaynor, Lynwen a Mair; hefyd Chris Merrick Hughes, drymar Adam & The Ants yn trafod ei gysylltiadau Cymreig". BBC Radio Cymru. 31 Mai 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Rhyddhau casgliad cyflawn Y Diliau". Y Selar. 27 Mai 201.
- ↑ "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
Dolenni allanol
golygu- Y Diliau ar Wici Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol oddi ar erthygl gan Pwyll ap Siôn oddi ar lyfr Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru
- Rheswm i Gredu' ar raglen Disc a Dawn
- Y Diliau ar ffrwd gerddoriaeth Spotify