Y Derwyddon (band)

Band canu pop a gwerin ysgafn Cymraeg o'r 1960au hwyr

Grŵp pop a gwerin ysgafn yn yr 1960au oedd Y Derwyddon.

Y Derwyddon
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
peidied drysu gyda'r grŵp o'r 2000au Derwyddon Dr Gonzo

Bu iddynt ymddangos ar raglen gerddoriaeth Gymraeg Hob y Deri Dando yn 1969, a gellid tybio, sawl tro arall. Roeddynt yn weithgar yn perfformio mewn cyngherddau ar draws Cymr gan gynnwys cyngerdd fawr enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Aled a Reg, Y Pelydrau, Tony ac Aloma, Mari Griffith, Y Diliau a mwy gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.[1]

Aelodau golygu

Gwelir i Nick Carter ganu'r gitâr fâs a Derek Boote ar y gitâr wrth recordio record Dyma 'Nhw.[3]

Ymddengys y cyfansoddwyd y caneuon gan gan Dafydd Idris Edwards a'r geiriau gan Meredydd W. Owen.

Disgyddiaeth golygu

  • Y Derwyddon - Dyma 'Nhw [EP 7"] (Qualiton, QEP 4049; 1967).

Caneuon: Anghofia'th Yfory; Awel Fain Y Gwynt; Hwiangerdd i Blentyn Lliw; Machlud Yr Haul; Gwynfyd Yr Haf; Y Bai[4]

  • Y Derwyddon - [EP 7"] (Cambrian – CEP 417; 1968).

Caneuon: Jac O Dŷ Coch; Cyrchu Gwraig[5]; Heulwen Haf; Llanw Serch[6]

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
  2. "Hoff Faledi Dafydd Idris". Sianel Youtube CAGC. 29 Mar 2021.
  3. "Y Derwyddon Dyma 'Nhw". Discogs. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  4. "Y Derwyddon Dyma 'Nhw". Discogs. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  5. "Cyrchu Gwraig". Apple Music. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  6. "Y Derwyddon - Y Derwyddon". Discogs. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.