Coll Gwynfa

arwrgerdd gan John Milton
(Ailgyfeiriad o Paradise Lost)

Cerdd hir ddiodl gan y llenor Seisnig John Milton yw Coll Gwynfa (Saesneg: Paradise Lost). Cyhoeddwyd yn gyntaf mewn 10 llyfr yn y flwyddyn 1667, ac yn yr ail argraffiad ym 1674 cafodd llyfrau 7 a 10 eu rhannu'n ddau.[1] Cyfansoddodd Milton gydgerdd, Paradise Regained ("Adferiad Gwynfa"; 1671), sy'n adrodd hanes Temtiad Crist.

Coll Gwynfa
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Milton Edit this on Wikidata
CyhoeddwrSamuel Simmons Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Rhan oIndex Librorum Prohibitorum Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1667 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1667 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganParadise Regained Edit this on Wikidata
CymeriadauSatan, Adda, Duw'r Tad, Duw'r Mab, Raphael, Mihangel, Belial, Azazel, Mammon, Moloch, Efa, Gabriel Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlundain Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Stori'r arwrgerdd Feiblaidd hon yw cwymp dyn oddi wrth ras. Tynodd Milton ar nifer o dechnegau'r hen feirdd, megis Homeros a Fferyllt: dechreuad yng nghanol y stori, ymbil ar yr awen, strwythur 12-llyfr (megis yr Aenid), a ffurf epig y gerdd. Er yr arddulliau clasurol, Cristnogaeth yw pwnc a naws Coll Gwynfa. Gwrthododd Milton yr odl, gan ddefnyddio sain a sigl y geiriau i ganu'r gerdd.[1] Prif gymeriadau'r gerdd yw Duw, Lwsiffer (Satan), Adda, ac Efa. Un o nodau pwysig y gerdd yw'r portread teg o Satan.[1] Hanes Llyfr Genesis yw prif ffynhonnell y stori, ac mae ysgolheictod Milton a'i daliadau gweriniaethol yn argannu'r gwaith.[2] Mae'n bosib taw'r gerdd Lucifer (1654), sy'n adrodd stori'r frwydr rhwng yr angylion a Duw, gan yr Iseldirwr Joost van den Vondel a ysgogodd Milton i ysgrifennu Coll Gwynfa.[3]

Paentiad William Blake o Adda ac Efa (1808)

Cafodd y gerdd ddylanwad sylweddol ar lên Lloegr, ac fe'i hystyrir yn un o gyfansoddiadau gwychaf barddoniaeth Saesneg. Y Bardd Llawryfog Dryden oedd un o'r cyfoedion cyntaf i ganmol campwaith Milton, drwy fynegi ei ddigalondid: "This man will cut us all out, and the ancients too".[4] Canrif yn hwyrach, clodforwyd perseinedd y gerdd gan y traethodwr Hazlitt.[2] Darluniodd William Blake a Gustave Doré argraffiadau yn y 19eg ganrif. Credodd y Rhamantwyr Blake a Shelley taw Satan oedd gwir arwr y gerdd, a dylid edmygu ei wrthryfel yn erbyn Gormesdeyrnas Nef.[1] Ysbrydolwyd nifer o gelfyddydweithiau gan Goll Gwynfa, gan gynnwys yr oratorio Die Schöpfung gan Hayden a'r gerdd Endymion gan Keats. Cyfieithwyd Coll Gwynfa i'r Gymraeg yn gyntaf gan William Owen Pughe a'i gyhoeddi ym 1819. Cyhoeddwyd cyfieithiad John Evans (I. D. Ffraid), eto dan yr enw Coll Gwynfa, ym 1865.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Paradise Lost. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Paradise Lost" yn The Oxford Companion to British History (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 13 Tachwedd 2016.
  3. (Saesneg) "Vondel, Joost van den" yn Columbia Encyclopedia (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar 31 Hydref 2016 ar Encyclopedia.com.
  4. (Saesneg) Anna Beer. Milton: Poet, Pamphleteer and Patriot (A& C Black, 2011).

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu