Consuriwr a pherfformiwr teledu Seisnig oedd Newton Edward Daniels, oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Paul Daniels (6 Ebrill 193817 Mawrth 2016).[1][2] Daeth i enwogrwydd byd-eang drwy ei gyfres deledu The Paul Daniels Magic Show, a ddarlledwyd ar y BBC rhwng 1979 a 1994.

Paul Daniels
FfugenwPaul Daniels Edit this on Wikidata
GanwydNewton Edward Daniels Edit this on Wikidata
6 Ebrill 1938 Edit this on Wikidata
South Bank Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Wargrave Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Redcar & Cleveland College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, dewin, ysgrifennwr, game show host Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PriodDebbie McGee Edit this on Wikidata
PlantMartin Daniels Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pauldaniels.co.uk/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Daniels yn South Bank, Middlesbrough, yn fab i Handel Newton Daniels a Nancy Lloyd.[3] Roedd ei deulu o dras Cymreig.[4][5] Roedd Handel (adwaenid fel Hugh) yn dafluniwr sinema Theatr yr Hippodrome ac yn gyn-weithiwr yn Imperial Chemical Industries (ICI) yn Wilton.[6]

Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Sir William Turners ar Coatham Road yn Coatham, Redcar, cafodd ei swydd gyntaf fel clerc iau yn swyddfa'r trysorydd yng Nghyngor Eston, yna gwasanaethodd fel milwr dan orfod yn Bataliwn 1af, y Green Howards, yn ystod ei wasanaeth milwrol ac fe'i gosodwyd mewn garsiwn yn Hong Kong, cyn hyfforddi fel cyfrifydd yn llywodraeth leol. Hyd yn oed yn ddyn ifanc roedd ei wallt yn teneuo a byddai'n honni fod hwn yn weithred 'hud'. Byddai Daniels yn gwisgo wig am ran fwyaf o'i yrfa teledu.[7] Ar ôl gweithio fel clerc iau ac yna archwiliwr yn llywodraeth leol, ymunodd a'i rieni yn y busnes groser yr oedden nhw'n rhedeg ar y pryd. Yn ddiweddarach fe sefydlodd ei siop ei hun – ar un adeg fel siop symudol – ond rhoddodd y gorau i hyn yn y pendraw er mwyn dilyn ei yrfa fel consuriwr.

Gyrfa adloniant golygu

Cychwynnodd ddiddordeb Daniels mewn consurio yn 11 mlwydd oed pan, yn ystod gwyliau, darllenodd lyfr How to Entertain at Parties. Fe ddywedodd "O'r foment yna, mae'n saff i ddweud mai'r unig beth oeddwn am wneud mewn bywyd oedd dod yn gonsuriwr proffesiynol". Dechreuodd berfformio hud fel hobi, weithiau yn difyrru mewn partïon neu glybiau ieuenctid ac yn ddiweddarach perfformiodd sioeau ar gyfer ei gyd-filwyr yn ystod ei wasanaeth milwrol.[8] Ar ôl dychwelyd i fywyd allan o'r lluoedd arfog, fe ddatblygodd ei gonsurio drwy berfformio mewn clybiau yn y nosweithiau a gweithio yn ei fusnes groser yn ystod y dydd. Ar un adeg bu'n gweithio gyda'i wraig gyntaf Jackie o dan yr enw 'The Eldanis', anagram o Daniels. Yn ystod y cyfnod hwn yn gweithio'r clybiau y datblygodd ei ymadrodd adnabyddus, "You'll like this ... not a lot, but you'll like it." Fe ddywedodd ei fod wedi meddwl am y llinell hon wrth weithio mewn clwb yn Bradford fel ffordd o ddelio gyda heclwr.[9]

Daeth trobwynt mawr yng nghyrfa Daniels yn 1969 pan gynigiwyd tymor haf iddo yn Newquay. Penderfynodd werthu ei fusnes groser a throi ei law at yrfa llawn amser fel consuriwr. Fe ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf ar y sioe dalent hir-hoedlog Opportunity Knocks yn 1970, lle ddaeth yn ail. Fe welodd y cynhyrchydd teledu Johnnie Hamp y sioe a chynnig rhan reolaidd i Daniels ar sioe The Wheeltappers and Shunters Social Club, ar gyfer Granada Television, oedd yn cael ei gyflwyno gan Bernard Manning.[10]

Yn 1977 cafodd Daniels sioe ei hun ar ITV, Paul Daniels' Blackpool Bonanza ar nos Sul. Ei gyfres gyntaf i'r BBC oedd For My Next Trick, lle fyddai Daniels yn ymddangos gyda sawl consuriwr arall a'r gantores Faith Brown. Arweiniodd hyn at Daniels i gyflwyno ei gyfres deledu ei hun, The Paul Daniels Magic Show, ar BBC1 o 1979 hyd 1994. Yn ogystal â dangos triciau hud a lledrith fel adloniant pur, roedd yn cynnwys darn rheolaidd (y "Bunko Booth") lle'r oedd yn datgelu'r triciau twyllo'r stryd. Roedd hefyd yn atgynhyrchu'r math o ganlyniadau oedd wedi creu argraff ar ymchwilwyr y paranormal a pharaseicolegwyr mewn darn o'r enw Under Laboratory Conditions, gan ddangos ei amheuaeth o'r honiadau yn y maes yma.

Serennodd Daniels yn sioe lwyfan ei hun, It's Magic, yn theatr Prince of Wales, Llundain o 10 Rhagfyr 1980 hyd 6 Chwefror 1982. Ar y pryd, hwn oedd un o'r sioeau hud a redodd hiraf yn Llundain. Erbyn hyn roedd yn gweithio yn barod gyda'i ddarpar wraig, Debbie McGee, a byddai ei rhan fel cynorthwyydd yn dod yn rhan fawr o'i act. Fe weithiodd hi gydag e yn gyntaf ar ei sioe tymor haf, yn Great Yarmouth yn 1979.

Yn ogystal â'i sioe gonsurio fe gyflwynodd nifer o gyfresi teledu arall yn ystod y 1980au a'r 1990au, yn cynnwys tair sioe gwis BBC1: Odd One Out, Every Second Counts a Wipeout, a'r rhaglen blant Wizbit (hefyd ar y BBC), am gonsuriwr o'r enw Wizbit a chwningen o'r enw Woolly, oedd yn byw yn Puzzleopolis.

Yn 2001 roedd Daniels a McGee yn ganolbwynt un o benodau'r gyfres ddogfen BBC When Louis Met..., wedi ei gyflwyno gan Louis Theroux. Fe ymddangosodd Daniels ar sioe Da Ali G Show mewn gwisg Ali G, a chafodd ei gyfweld gan Caroline Aherne fel ei chymeriad Mrs Merton. Yn 2004, ymddangosodd y cwpl yn sioe realaeth Channel 5, The Farm, ac yn 2006, ymddangosodd y ddau ar sioe ITV, The X Factor: Battle of the Stars. Nhw oedd y cyntaf i gael eu pleidleisio oddi ar y sioe, ar ôl canu "Let Me Entertain You" gan Robbie Williams. Fe wnaeth y ddau ymddangosiad gwadd ar bennod o Wife Swap yn gynnar yn 2007, lle wnaeth McGee gyfnewid lle gyda'r newyddiadurwraig a chyflwynydd Vanessa Feltz.

Yn Awst 2011, wrth ffilmio golygfa ar gyfer ITV. Sooty, trawyd Daniels gyda phizza a daflwyd gan y pyped Sooty. Cafodd ddarn o bizza yn ei lygaid ac roedd rhaid iddo alw mewn i ysbyty bwthyn i'w olchi allan.[11] Ar 10 Hydref 2012, ymddangosodd Daniels a McGee ar All Star Mr & Mrs, ITV. Yn 2013, teithiodd Daniels a Debbie McGee gyda'i sioe 'First Farewell Tour'.[12]

Roedd Daniels yn adnabyddus am fynegi barn ddi-flewyn-ar-dafod ar ystod o bynciau, yn cynnwys gwleidyddiaeth, materion cyfoes yn ogystal ar gonsurio, adloniant a'i gyd enwogion.

Gwobrau golygu

Cafodd Daniels wobr y "Great Lafayette Award" yng Ngŵyl Consurio Ryngwladol Caeredin yn 2011.[13]

Daniels oedd derbynnydd cyntaf gwobr Maskelyne, rhoddwyd gan y Magic Circle yn 1998 am wasanaethau i Gonsurio Prydeinig.[14]

Enillodd Daniels y wobr fawreddog "Magician of the Year" gan Academy of Magical Arts yn 1982, y consuriwr cyntaf o du allan i'r Unol Daleithiau i'w dderbyn[15] Fe wnaeth rhifyn arbennig Y Pasg o sioe Paul Daniels Magic Show ennill y wobr Golden Rose of Montreux yng Ngŵyl Ryngwladol Teledu yn y Swistir yn 1985.

Daliadau golygu

Roedd Daniels yn gefnogwr o'r Blaid Geidwadol.[16] Yn 1992, honnodd The Sun fod Daniels wedi bygwth gadael y Deyrnas Unedig petai'r Blaid Lafur yn ennill Etholiad cyffredinol 1992 (rhan o erthygl "If Kinnock wins today will the last person to leave Britain please turn out the lights"). Fe wawdiwyd Daniels yn ddiweddarach am barhau i fyw yn y DU wedi i Lafur ennill  Etholiad cyffredinol 1997, er fod polisïau'r Blaid Lafur wedi newid yn sylweddol yn y pum mlynedd ers 1992 gan bortreadu ei hun fel "New Labour". Fe wnaeth The Sun hyd yn oed annog eu darllenwyr i bleidleisio i Lafur yn 1997.[17] Ers hynny fe eglurodd Daniels ei safbwynt ar ei wefan, gan ddweud:

Wnes i ddim dweud hynny o gwbl. Roedd hynny wedi ei greu gan newyddiadurwr o ogledd ddwyrain Lloegr a wnaeth 'olygu' yr ateb i'w gwestiwn ei hunan: 'Os fyddai Llafur yn ennill yr etholiad a fyddech chi'n gadael y wlad?' a wnes i ateb, "OS oedd Llafur yn dod mewn a mynd nôl i be wnaethon nhw y tro diwethaf oedden nhw mewn llywodraeth, gyda chyfraddau llog dros 20% a threth incwm yn 93%, oedd yn wir be wnaethon nhw, yna fydd rhaid mi YSTYRIED gadael y wlad". Ar y pryd roeddwn o'n prynu ty newydd yn y wlad yma. Yn ffodus, roedd gan New Labour, Tony Blair, a roedd ei dad yn AS Ceidwadol, a fe wnaeth e barhau polisiau Ceidwadol...Rwy'n amau'n fawr a fyddwn i byth yn gadael y wlad yma. Mae gen i ormod o gariad wedi ei glymu gyda fy nheulu yn y DU.[18]

Fodd bynnag nid oedd Daniels yn gwbl gywir am hyn: Ni etholwyd Leo Blair, tad Tony Blair, yn aelod seneddol erioed ond roedd yn ymgeisydd Ceidwadol a chadeirydd ei gymdeithas Geidwadol lleol.[19]

Roedd yn ddiystyriol o gonsuriwr lledrith modern. Fe ddisgrifiodd David Blaine fel "ddim yn wreiddiol iawn".[3]

Yn rhan olaf ei fywyd roedd Daniels yn gwrthod cynadleddau consurio yn y DU am eu bod "...wedi ei difetha i fi gyda malais a chenfigen...nawr dim ond cynadleddau dramor dwi'n mynd iddo lle, i fod yn onest, rwy'n cael fy nhrin gyda pharch a chwrteisi ac mae gen i lwyth o ffrindiau consurio dramor."[20]

Yn 2001 fe wnaeth Daniels ddatgan nad oedd ganddo lawer o gydymdeimlad gyda'r digartref oherwydd, yn ei eiriau e, "O'n i'n ceisio bod y gorau o hyd, i ddod o flaen y dyn arall. A galla'i ddim dweud pam, o'n i'n gwybod mod i'n gallu ... Welais i Peter Stringfellow ar y teledu unwaith, ac mae gan y ddau ohonon ni ychydig, ond dim llawer, o gydymdeimlad a'r digartref, am fod y ddau ohonom wedi dod o gefndir tlawd iawn, ond wedi codi oddi ar ein pen-ôl a gweithio'n galed".[3]

Ar bwnc cyfiawnder troseddol, mae wedi datgan "gwnewch nhw ofn y gosb ... pan glywais fod Ian Huntley wedi ceisio lladd ei hun – mi fyddwn i wedi ei helpu. Does dim os neu oni bai gyda Huntley. Gyda fe, ni fyddwn wedi dweud wrtho beth oedd canlyniad ei dreial, fe fyddai wedi mynd i gysgu a byth dihuno".[21]

Roedd hefyd yn diystyru dynwaredwyr modern – "Rwy ddim yn meddwl llawer o ddynwaredwyr modern chwaith. Anghofiwch Alistair McGowan."[22]

Ar newyddiaduraeth – "Rwy ddim wir yn deall pam fod rhaid i newyddiaduraeth fod mor gas, mor goeglyd a busneslyd".[22]

Fe ddywedodd fod Anne Robinson wedi ei gasáu ers y twyll yn rhifyn arbennig o sioe Calan Gaeaf yn 1987.[22]

Yn 1997 fe dwyllwyd Daniels gan Chris Morris ar ei sioe ddychan, Brass Eye. Dywedodd Daniels fod Morris yn "just nasty."[22]

Ar system etifeddol Tŷ'r Arglwyddi: "Mae gan yr arglwyddi etifeddol, yr Arglwyddi go iawn, yr wybodaeth enetig felly maen nhw'n gwybod beth i basio a'r hyn i atal. Rwy'n credu fod y genyn yn pasio mwy na nodweddion corfforol. Mae'n fwy na addysgu sy'n gwneud yr Arglwyddi yn well am wneud y math yma o benderfyniadau na gadael hi i'r Tŷ Cyffredin. Mae e fel greddf anifail. Weithiau mae'r boneddigion yn ymddwyn yn ffôl, ond mewn amser o ryfel a reiat mae ganddynt yr wybodaeth, y cred, cryfder arweiniol a greddf sydd ddim yn berchen i lowyr...".[22]

Roedd Daniels yn wadwr newid hinsawdd.[23]

Yn 2011, fe ysgrifennodd ar Twitter nad oedd yn ystyried fod gan y term "Paki" ystyr hiliol a chyhuddodd y rhai oedd yn gwrthwynebu'r farn o fod yn rhy wleidyddol gywir.[24]

Bywyd personol golygu

Priododd Daniels ei wraig gyntaf, Jacqueline Skipworth (ganwyd 1942), yn 1960, pan oedd hi yn 17 a fe yn 21. Cafodd y ddau dri mab: Gary, Paul and Martin. Weithiau fe ymddangosodd Martin ar The Paul Daniels Magic Show a roedd tad Paul, Hughie yn gwneud propiau i'r sioe yn aml, fel y bocsys pren ar gyfer y tric lledrith Selbit Sawing.

Priododd Daniels ei ail wraig, ei gynorthwyydd hir-dymor, Debbie McGee, ar 2 Ebrill 1988 yn Swydd Buckingham. Cyfarfu'r cwpl yn Llundain yn Mai 1979 yn ystod ymarferion ar gyfer sioe tymor yr haf Daniels yn Great Yarmouth y flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd e'n 40 a hithau'n 20 mlwydd oed. Fe aeth McGee ymlaen i weithio gyda Daniels yn ei sioe haf Bournemouth yn 1980 a'i sioe lwyfan It's Magic yn Llundain, cyn cael cynnig rhan ei gynorthwyydd yn ei gyfres deledu hirhoedlog. Daeth ei perthynas yn fwy sefydlog nes iddo ofyn i'w phriodi yn 1987. Yn gynnar yn eu priodas roedden nhw'n byw mewn ty yn Denham oedd unwaith yn berchen i Roger Moore. Yn 1998 fe symudodd y cwpl i dy ar lannau'r Afon Tafwys yn Wargrave, Berkshire.[25][26]

Yn 2007, cymerodd Daniels rhan yn y rhaglen Coming Home ar BBC Wales yn edrych ar hanes ei linach Cymreig.[27][28]

Roedd Daniels yn noddwr Theatr a Sinema Regal yn Tenbury Wells a roedd wedi chwarae yn y lle nifer o weithiau, yn fwyaf diweddar ar Nos Galan Gaeaf 2014 fel rhan o'i daith "Back... Despite Popular Demand".

Roedd ganddo Isuzu Trooper ar gyfer cludo propiau a deunydd i'w sioeau gyda rhif cofrestru personol 'MAG1C'. Roedd hefyd yn gyrru Toyota Prius ar gyfer defnydd personol. Yn ystod ei fywyd bu'n berchen ar dri Bentley a Ferrari.[29]

Roedd Daniels yn cadw gwefan sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol, blog a phodlediadau. Mae'r blog yn cynnwys cofnodion dyddiadur a sylwadau ddydd-i-dydd ar ystod y bynciau.[30]

Yn Chwefror 2009, ymddangosodd Daniels a McGee yng nghylchgrawn Closer gyda llun yn ail-greu hysbyseb Armani oedd yn portreadu David Beckham a'i wraig Victoria.[31]

Yn Ionawr 2011, fe werthwyd wig oedd yn berchen i Daniels ar eBay am £1,100.[32]

Yn 2012, fe dorrodd Daniels ei fynegfys a blaen ei fys modrwy, mewn damwain gyda llif gron, mewn sied yng nghardd ei gartref yn Wargrave. Gyrrodd ei hun i'r ysbyty yn Henley-on-Thames, lle ail-lynwyd ei fys.[33][34]

Salwch a marwolaeth golygu

Ar 20 Chwefror 2016, gwnaed datganiad gan deulu Daniels fod ganddo diwmor ymennydd anwelladwy.[35] Wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty, a gan na fod unrhyw driniaeth ar gael a fyddai'n ymestyn ei fywyd, penderfynodd fynd adre i'w gartref ar ddechrau Mawrth 2016 [36] a bu farw ychydig wythnosau yn ddiweddarach yn 77 mlwydd oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Scotland the Brave" Archifwyd 2009-02-03 yn y Peiriant Wayback..
  2. 2.0 2.1 Magician Paul Daniels dies aged 77 (en) , BBC News, 17 Mawrth 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 Brooks, Libby (12 Chwefror 2001).
  4. "BBC One – Coming Home, Series 2, Paul Daniels" (yn Saesneg). BBC. 17 April 2008. Cyrchwyd 20 February 2016.
  5. "Daniels discovers he's a Welsh wizard". walesonline.co.uk (yn Saesneg). 26 Tachwedd 2006. Cyrchwyd 8 August 2023.
  6. Ellis-Petersen, Hannah; Elgot, Jessica (17 March 2016). "Paul Daniels, TV magician, dies aged 77". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 March 2016.
  7. "Setting the Record Straight" Archifwyd 2007-03-01 yn y Peiriant Wayback..
  8. "How Paul got into showbusiness" Archifwyd 2009-02-02 yn y Peiriant Wayback..
  9. (Saesneg) "Now, that's MAG 1C".
  10. (Saesneg) "Now, that's MAG 1C".
  11. Paul Daniels injured in Sooty pizza-throwing accident (en) , Telegraph.co.uk, 3 Awst 2011.
  12. "First Farewell Tour" Archifwyd 2014-02-02 yn y Peiriant Wayback.. pauldaniels.co.uk. 
  13. Edinburgh Magic Fest will reappear next year! (en) , Edinburgh Reporter, 26 Gorffennaf 2011.
  14. Dawes, EA and Bailey, M: Circle Without End: The Magic Circle 1905–2005, page 89.
  15. "Academy of Magical Arts @ Magic Castle Magician of the Year". 
  16. "Celebrity X Factor – News".
  17. Are you still here? (en) , BBC News, 21 Mai 2001.
  18. "Frequently Asked Questions". Paul Daniels Magic World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-23. Cyrchwyd 2 Chwefror 2014.
  19. Wheeler, Brian. The Tony Blair story (en) , BBC News, 10 Mai 2007.
  20. "interview with Paul Daniels" Archifwyd 2008-08-28 yn y Peiriant Wayback.. magicbunny.co.uk. 
  21. Douglas, Ian (28 September 2006).
  22. 22.0 22.1 22.2 22.3 22.4 "Paul Daniels Interview". pennybroadhurst.com.
  23. "Paul Daniels: 'most of the time we live in heaven' - video".
  24. Lefort, Rebecca. Paul Daniels accused of racism after 'Paki' tweet (en) , The Telegraph, 19 Chwefror 2011.
  25. Tyrrel, Rebecca (August 2000).
  26. "Debbie McGee Chats to Us about Her Celebrity Wedding to Paul Daniels" Archifwyd 2009-02-02 yn y Peiriant Wayback..
  27. 20:00 (17 April 2008).
  28. Journal, Carmarthen (17 July 2013).
  29. "Private Number Plates? Archifwyd 2014-02-05 yn y Peiriant Wayback.
  30. "Paul Daniels" Archifwyd 2011-04-24 yn y Peiriant Wayback..
  31. "The secret to our fabulous marriage? Archifwyd 2012-02-20 yn y Peiriant Wayback.
  32. Magician Paul Daniels sells wig on eBay for £1,100 (en) , BBC News, 24 Ionawr 2011.
  33. Paul Daniels' finger reattached after saw accident (en) , BBC News, 21 Ionawr 2012.
  34. Holehouse, Matthew. Paul Daniels chops off finger with circular saw while building props , The Telegraph, 21 Ionawr 2012. Cyrchwyd ar 6 Mawrth 2016.
  35. "Paul Daniels 'diagnosed with incurable brain tumour'"] (en) , BBC News, 20 Chwefror 2016.
  36. Owens, Nick. Legendary magician Paul Daniels quits hospital and goes home to die so he can be with his family (en) , Mirror.co.uk, 6 Mawrth 2016.

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

Clipiau fideo golygu