Peredur fab Efrawg
Chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw Peredur fab Efrawg (teitl Cymraeg Canol, Historia Peredur vab Efrawc). Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant. Dwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Iarlles y Ffynnon a Geraint ac Enid.
Crynodeb o'r chwedl
golyguMae'r chwedl yn cyfateb i'r chwedl anorffenedig Perceval ou le Conte du Graal gan yr awdur Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylchg o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12g. Ceir y testun hynaf yn Llawysgrif Peniarth 4 (rhan o lawysgrif gyfansawdd Llyfr Gwyn Rhydderch), o tua diwedd y 13g. Ceir testun hefyd yn Llyfr Coch Hergest a llawysgrifau eraill, diweddarach. Mae'n amlwg fod y testun sydd gennym heddiw yn anghyflawn.
Yn y chwedl mae Peredur yn fab i iarll. Lladdwyd yr iarll a chwech brawd Peredur wrth frwydro, ac oherwydd hynny mae ei fam yn ei fagu heb wybodaeth o arfau. Mae'n cyfarfod tri marchog, ac o ganlyniad mae'n marchogaeth ar hen geffyl esgyrniog gyda basged yn lle cyfrwy ac yn mynd i lys Arthur. Yno, mae'n cyfafod Cai, sy'n ei wawdio ac yn ei yrru ar ôl marchog sydd wedi sarhau'r frenhines Gwenhwyfar. Gorchfyga Peredur y marchog, ei ladd a chymeryd ei farch a'i arfau.
Mae wedyn yn cael cyfres o anturiaethau, gan yrru'r marchogion y mae wedi eu gorchfygu i lys Arthur. Mae'n cyfarfod â dau ewythr iddo; mae'r cyntaf yn ei rybuddio i beidio â holi ystyr unrhyw beth a wêl, tra yn neuadd yr ail gwêl Peredur y Waywffon Waedlyd a dysgl a gludir gan ddwy forwyn gyda phen wedi ei dorri arni. Ymddengys fod y pen yn cymryd lle y Greal Santaidd yn stori Chretien. Treulia Peredur bedair blynedd ar ddeg gydag ymerodres Caergystennin.
Llyfryddiaeth
golyguTestunau
golygu- Historia Peredur vab Efrawc - gol. gyda rhagymadrodd a nodiadau gan Glenys Witchard Goetinck (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976). Adargraffiad 2012: ISBN 9780708326206
- Y Tair Rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.
Darllen pellach
golygu- Rachel Bromwich, 'Dwy chwedl a thair rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1976)
- Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1