Peter Baynham
Digrifwr, perfformiwr a sgriptiwr ffilm o Gymru yw Peter Baynham (ganwyd 28 Mehefin 1963).
Peter Baynham | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1963 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, sgriptiwr, sgriptiwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, actor, morwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Baynham yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd ac fe'i magwyd yn ardaloedd Canton, Llanedern a Llysfaen. Fe yw'r ail blentyn o bedwar, mae ganddo frawd hyn a brawd a chwaer iau. Aeth i ysgol gynradd St Mary yn Canton cyn mynychu ysgol uwchradd Lady Mary RC yn Cyncoed (Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi erbyn hyn).
Roedd yn fachgen swil yn yr ysgol a ddim yn rhan o'r criw poblogaidd, a dim diddordeb mewn chwarae rygbi. Yn 14 oed penderfynodd ei fod am weld y byd, ac ar ôl cael 8 lefel O, gadawodd yr ysgol i ymuno a'r Llynges Fasnach.[1]
Graddiodd Baynham o goleg morwrol Fleetwood a gwasanaethodd yn y llynges am bum mlynedd. Yn ei 6 mis cyntaf fe deithiodd i Dde Affrica, Japan, Hong Kong, Taiwan a Maleisia. Efallai mai fe yw'r unig ddigrifwr i ddal trwydded i lywio tancer olew.[2] Cafodd ei ddiswyddo oherwydd toriadau i adran amddiffyn y llywodraeth a daeth adre i Gaerdydd gan gymryd swydd rhan amser ar gwch hwylio yn Monte Carlo. Symudodd i Lundain i fyw gyda'i frawd Charles a gweithiodd mewn swydd gwerthu ar y ffôn. Fe wnaeth gwrs theatr ac yn 1987 gwelodd hysbyseb am weithdy comedi byrfyfyr. Yn dilyn hynny gadawodd ei swydd gwerthu i ddod yn ddigrifwr stand-up hunangyflogedig.[1]
Gyrfa
golyguMae Baynham wedi cydweithio yn aml gyda Armando Iannucci, Chris Morris a Steve Coogan. Cafodd ei glywed gyntaf ar slotiau DJ radio cynnar gyda Morris, yn aml yn gohebu o du allan y stiwdio. Mae gwaith arall yn cynnwys y gyfres "llyfr comics mewn fformat radio" The Harpoon, a'r comedi sefyllfa animeiddiedig I Am Not an Animal. Mae wedi ymddangos ar y cylch stand-up fel Mr Buckstead, y bardd seicotig a chwaraeodd y dyn "Too Gorgeous" ar gyfres o hysbysebion Pot Noodle yng nghanol y 1990au, ymgyrch a chyd-ysgrifennodd gyda Iannucci. Cydweithiodd gyda Stewart Lee a Richard Herring gan ymddangos fel y cymeriad Cymreig di-raen "Peter" ar eu cyfres comedi Fist of Fun yn 1995/6.
Yn 2006 cyd-ysgrifennodd y ffilm Borat gyda'r brif seren Sacha Baron Cohen, Anthony Hines a Dan Mazer, a chafodd yr awduron enwebiad ar gyfer Oscar yn 2007. Cyd-ysgrifennodd y ffilm Alan Partridge: Alpha Papa a ryddhawyd yn 2013, ymddangosiad cyntaf y cymeriad Alan Partridge ar y sgrîn fawr.[3]
Gwaith
golyguFel perfformiwr mae wedi ymddangos yn y rhaglenni canlynol:
- The Chris Morris Music Show (Sioe radio)
- Fist of Fun (Cyfres radio a theledu)
- Lee and Herring (Cyfres radio)
- The Harpoon (Cyfres radio)
- Junkies (Fideo rhyngrwyd)
- The Day Today
- Friday Night Armistice a Saturday Night Armistice fel ei hun
- This Morning with Richard Not Judy fel ei hun
- I'm Alan Partridge
- Brass Eye
- The 99p Challenge (Cyfres radio)
- Look Around You
- Red Dwarf
Fel sgriptiwr, mae wedi cyfrannu i'r rhaglenni a ffilmiau canlynol:
- The Harpoon (cyfres radio) (1991–1994)
- The Day Today (1994)
- Knowing Me, Knowing You with Alan Partridge (1994–95)
- In the Red (cyfres radio) (1995)
- Saturday Night Armistice (1995–1999)
- Brass Eye (1997–2001)
- I'm Alan Partridge (1997–2002)
- Bob and Margaret (1998–2001)
- Big Train (1998–2002)
- Jam (cyfres deledu) (2000)
- I am Not an Animal (2004)
- Monkey Dust (2003–2005)
- Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan (2005)
- Brüno (2009)
- Arthur (2011)
- Arthur Christmas (2011)
- Hotel Transylvania (2012)
- Alan Partridge: Alpha Papa (2013)
- Grimsby (2016)
- Borat Subsequent Moviefilm (2020)
- Ron's Gone Wrong (2021)[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Mari Risolo. Peter's long and winding road to comedy success (en) , Western Mail, 3 Mawrth 1997. Cyrchwyd ar 11 Chwefror 2016.
- ↑ BBC – Comedy – People A-Z – Peter Baynham
- ↑ Nathan Bevan. Welsh writer Pete Baynham tells how Alan Partridge made it to the big screen (en) , WalesOnline, 10 Awst 2013. Cyrchwyd ar 10 Chwefror 2016.
- ↑ Ritman, Alex (12 October 2017). "Fox, Locksmith Animation Unveil 'Ron's Gone Wrong'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 17 February 2018.
- N'Duka, Amanda (12 October 2017). "20th Century Fox & Locksmith Animation Slate 'Ron's Gone Wrong' As First Project". Deadline. Cyrchwyd 17 February 2018.