Picellwr wynebwyn

Leucorrhinia dubia
Picellwr wynebwyn
Gwryw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Libellulidae
Genws: Leucorrhinia
Rhywogaeth: L. dubia
Enw deuenwol
Leucorrhinia dubia
(Vander Linden, 1825)

Gwas neidr bychan yw'r Picellwr wynebwyn (Lladin: Leucorrhinia dubia; Saesneg: white-faced darter) sy'n perthyn i'r genws Leucorrhinia o fewn y teulu Libellulidae. Ei gynefin yw tiroedd mawnog gogledd Ewrop hyd at Siberia. Fe'i ceir hefyd ar fynydd-dir rhai rhannau o'r Alpau a'r Pyreneau. Ychydig sydd i'w cael yng ngwledydd Prydain, ond mae'r boblogaeth fwyaf o Bicellwr wynebwyn yn Ucheldir yr Alban.

Mae ar ein adain rhwng Mai ac Awst.

Disgrifiad

golygu

Maint abdomen y Picellwr wynebwyn yw 21–27 mm ac mae'r adain ôl yn 23–28 mm o hyd.[2] Mae gan yr oedolyn gwryw gorff du gyda marciau coch ac oren ar yr abdomen a'r thoracs, sy'n tywyllu wrth iddo fynd yn hŷn.[3] Marciau melyn-golau sydd gan y gweision ieuanc. Mae gan yr hen a'r ifanc, fodd bynnag, rannau gwyn ar flaen y pen a cheir clwt o frown ar fonyn yr adenydd.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Clausnitzer, V. (2009). "Leucorrhinia dubia". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2011.2. International Union for Conservation of Nature. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. 2.0 2.1 Brooks, Steve & Richard Lewington (2002) Field Guide to the Dragonflies and Damselflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.
  3. "White-faced Darter". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.

Dolen allanol

golygu