Pier y Mwmbwls

pier rhestredig Gradd II yn Y Mwmbwls

Mae Pier y Mwmbwls yn bier Fictoraidd 835 troedfedd/ 225 medr o hyd a gafodd ei adeiladu ym 1898. Fe'i lleolir yng nghornel de-ddwyreiniol Bae Abertawe ger pentref y Mwmbwls, Abertawe, Cymru.

Pier y Mwmbwls
Mathpier Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Mwmbwls Edit this on Wikidata
SirY Mwmbwls, Y Mwmbwls Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr7.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5697°N 3.9803°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Llwybr cerdded ar Bier y Mwmbwls
Llwybr llithro'r bad achub

Hanes golygu

Adeiladu golygu

Cynlluniwyd y pier gan W. Sutcliffe Marsh ac fe'i hyrwyddwyd gan John Jones Jenkins o Rheilffordd Rhondda a Bae Abertawe. Agorodd y pier ar y 10 Mai, 1898 ar gost o £10,000. Dyma oedd cyrchfan gorllewinol y rheilffordd gyntaf yn y byd ar gyfer teithwyr, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls; roedd hefyd yn gyrchfan amlwg ar gyfer stemar olwyn y "White Funnel", gan fynd â thwristiaid ar hyd Afon Hafren a Môr Hafren.

Yn ei hanterth golygu

Derbyniodd "The Amusement Equipment Company" (AMECO) drwydded i weithredu o'r pier o'r 1 Hydref, 1937. Rhannwyd y pier yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond cafodd AMECO y rhydd-ddaliad ym 1957, gan ail-ddatblygu'r cyfleuster, gan ychwanegu man glanio i gychod. Adeiladwyd arcêd newydd ar du blaen y pier ym 1966. Gwariodd AMECO rhwng £25,000 a £30,000 yn flynyddol ar gynnal a chade ac i osod gwaith dur newydd rhwng 1975 a 1985.[1].

Ail-agor golygu

Caewyd y pier ar y 1 Hydref, 1987 am weddnewidiad o £40,000 a fyddai'n rhoi dur newydd o amgylch y fynedfa. Ail-agorwyd y pier ar ddydd Gwener y Groglith, 1988.

Erbyn heddiw, defnyddir y pier ar gyfer pysgota a thwristiaeth, am ei fod yn cynnig golygfeydd panoramig o Fae Abertawe gyda Goleudy'r Mwmbwls ar y naill ochr a Phort Talbot ar yr ochr arall. Mae'r pier bellach yn eiddo i'r teulu Bollom.

Defnyddir y tir ger y pier fel canolfan adloniant sy'n cynnwys bariau, tŷ bwyta, rinc sglefrio iâ (a agorwyd yn 2006) ac arcêd adloniant.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Seaside Piers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-20. Cyrchwyd 2009-06-07.

Dolenni allanol golygu