Plas Glyn-y-weddw
Adeiladwyd Plas Glyn-y-weddw yn 1857 ar gyfer Elizabeth Jones Parry, gweddw Syr Love Jones Parry, o blasty Madryn. Serch hynny, meddir na fuodd hi erioed wedi cysgu noson yno, ac wedi ei marwolaeth hi yn 1883 a’i mab Thomas Love Duncombe Jones Parry ym 1891,[1] prynwyd y Plas gan Solomon Andrews, gŵr busnes o Gaerdydd a oedd yn edrych i ddatblygu pen gorllewinol tref Pwllheli fel man a fyddai'n denu ymwelwyr.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad |
---|---|
Lleoliad | Llanbedrog |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llanbedrog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mwyn ychwnaegu at gyfleusterau, prynodd Andrews y Plas er mwyn ei droi'n oriel gelf, a hynny tua 1896. Roedd gerddi deniadol a sylweddol gyda rhodfeydd coediog hefyd yn atyniad i ymwelwyr. Roedd lluniau gan rai o brif fesitri celf dros y canrifoedd yno, wedi eu prynu gan Andrews, ond wrth edrych ar y gyfoeth honedig a restrwyd yng nghatalog yr oriel, rhaid amau dilysrwydd enwau'r artistiaid; dichon mai copïau oeddynt ar y cyfan.
I gludo ymwelwyr yno, datblygodd Andrews dramffordd a ddefnyddid gynt i gludo cerrig a'i hail agor fel tramffordd ar gyfer tramiau a dynnid gan geffylau, hynny yn 1897. Fe alwyd y dramffordd yn Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog a bu'n rhedeg nes i orlanw'r môr ei difetha ym 1927.[2]
Cӓewyd yr oriel ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd a bu merched Byddin Tir y Merched yn aros yn y Plas. Wedi i'r rhyfel orffen, gwerthodd y teulu Andrews y tŷ a’r gerddi a bu mewn perchnogaeth breifat am dros 30 mlynedd.
Yn ystod y cyfnod yma cafodd yr adeilad ei droi yn fflatiau preswyl ond erbyn diwedd yr 1970'au roedd yn prysur ddadfeilio. Prynodd yr artist Gwyneth ap Tomos a’i gŵr Dafydd y Plas yn 1979 a diolch i’w gwaith caled achubwyd yr adeilad rhag mynd yn adfail. Ail agorwyd oriel gelf yma ganddynt yn 1984.[3] Erbyn hyn, mae'r Plas a'r tiroedd o'i amgylch yn eiddo i ymddiriedolaeth, ac yn agored yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd.