Plastigau a newid hinsawdd

Cysylltir plastig amrywiol gyda newid hinsawdd gan fod plastig yn cael ei gynhyrchu o olew, deunydd ffosil mae gwledydd y byd yn ceisio defnyddio llai ohono. Mae defnyddio olew yn rhyddhau carbon deuocsid i'r amgylchedd ac yn cyflymu newid hinsawdd. Er hyn, disgwylir i betrocemegion ddod yn ysgog'r alwad am olew byd-eang o nawr hyd at 2030. Er bod y gymuned ryngwladol yn ymdrechu i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy symud i ffwrdd o danwydd ffosil yn y sectorau ynni a chludiant, cant eu defnyddio'n eang i gynhyrchu plastig. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru'n dweud "y disgwylir y bydd petrocemegau’n gyfrifol am fwy na thraean y twf yn y galw am olew erbyn 2030 a bron i hanner y twf erbyn 2050 (mwy na morgludo a hedfan)".[1]

Plastigau a newid hinsawdd
Ffatri moldio plastig yn West Midlands, Lloegr
Enghraifft o'r canlynoleffaith amgylcheddol Edit this on Wikidata

Trwy leihau faint o ddeunyddiau plastig, gwrteithiau, dillad, pryladdwyr a glanedyddion ac ati a ddefnyddir, gellir lleihau faint o gemegau niweidiol a ddefnyddir, lleihau'r allyriadau hinsawdd, a chynorthwyo i atal y broses o newid hinaswdd.

Cyfraniad Plastig i Newid Hinsawdd golygu

Mae plastigion yn bygwth gallu’r gymuned fyd-eang i gadw’r cynnydd tymheredd byd-eang o dan 1.5°C, wrth i nwyon tŷ gwydr (GHG) gael eu hallyrru drwy gydol y cylch bywyd plastig. Yn wir, mae echdynnu, mireinio a gweithgynhyrchu plastigion i gyd yn weithgareddau carbon-ddwys. Ond, nid yr allyriadau olew a nwy ychwanegol yn unig y dylen ni boeni amdanyn nhw mewn perthynas â phlastig: mae llawer o aflonyddwr (hy cemegau) sy'n tarfu ar yr endocrin (EDCs) yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu rhai plastigau.[2]

Pan mae plastig yn cael eu gwaredu, mae llosgi gwastraff plastig yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr sylweddol i'r atmosffer, ochr yn ochr â llygryddion gwenwynig. Mae ailgylchu hefyd yn dod gyda'u cyfran o allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Y cefnforoedd golygu

 
Llygredd plastig ar arfordir Portsmouth yn 2012

Gall plastig yn y cefnforoedd hefyd ymyrryd â'u gallu i amsugno a storio carbon deuocsid, gan greu proses arall lle mae llygredd plastig yn cyfrannu at gyflymu newid yn yr hinsawdd. Mae ecosystemau amrywiol, megis y cefnfor a'r ardaloedd mynyddig, yn arbennig o agored i newid yn yr hinsawdd a llygredd plastig, ac mae'r cyfuniad o'r ddau yn ffactor straen sylweddol ar fioamrywiaeth.

Gweler hefyd golygu

  

Cyfeiriadau golygu

  1. foe.cymru; adalwyd 18 Mai 2023.
  2. foe.cymru; adalwyd 18 Mai 2023.