Cyfrifoldeb y wladwriaeth i atal amlygiad tocsig
Mae gan pob gwladwriaeth gyfrifoldeb i atal amlygiad tocsig; hynny yw, sicrhau nad yw ei thrigolion yn cyffwrdd neu'n anadlu cemegolion gwenwynig all effeithio ar iechyd pobl. Mae cyfraith hawliau dynol rhyngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau gymryd camau gweithredol i atal unigolion a chymunedau rhag dod i gysylltiad â sylweddau gwenwynig. Mae hefyd yn gysyniad cyfreithiol er mwyn atal dod i gysylltiad â gwenwyn a chlefydau. Mae'r gwenwyn a'r cemegolion a ystyrir yn docsig yn cynnwys: llygredd, cemegau diwydiannol gwenwynig megis arsenig, plwm, arian byw ac asbestos, plaladdwyr, gwastraff niwclear a gwastraff biolegol fel firysau.
Math o gyfrwng | cysyniad cyfreithiol |
---|---|
Math | rhwymedigaeth |
Yn Hydref 2019, cyflwynodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wenwyn adroddiad i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y ddyletswydd i atal cemegolion gwenwynig rhag dod i gysylltiad â phobol yn enwedig plant. Gosododd sylfaen gyfreithiol i genhedloedd a chyfrifoldeb cenhedloedd y byd i ddilyn canllawiau a rheoliadau'r Adroddiad.[1] Mae'r ddyletswydd hon yn deillio o'r hawliau dynol canlynol: yr hawl i fywyd, yr hawl i iechyd, urddas ac uniondeb corfforol; yr hawl i wybodaeth a'r hawl i amgylchedd iach; yn ogystapl â chydraddoldeb a mynediad at ateb effeithiol. Fodd bynnag, mae dull atal yn eithriad i lawer o endidau, gan arwain at fygythiadau dirfodol i fywyd ac iechyd, megis iechyd atgenhedlol.[2]
Yn 2020 cafwyd adroddiad arall, sef y Dyletswydd i atal amlygiad i'r firws sy'n gyfrifol am COVID (2020), a ehangodd y cysyniad i heintiau firws ayb. Cymhwysodd y Rapporteur Arbennig i atal amlygiad i COVID-19 yn yr adroddiad hwn. Mae'n canmol rhai gwladwriaethau a busnesau am gynnal eu dyletswydd a'u cyfrifoldeb i atal dod i gysylltiad â'r coronafirws.
“ |
Dylid parchu bywyd pob person. Bydd yr hawl hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith ac, yn gyffredinol, o eiliad y caiff person ei genhedlu. Ni chaiff neb ei amddifadu yn fympwyol o'i fywyd. - Erthygl 4.1 o Gonfensiwn America ar Hawliau Dynol |
” |
Gwledydd Prydain
golyguY ddeddf berthnasol yw Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, 2002; Offerynnau Statudol y DU 2002; nac oes 2677; Rheoliad 7 a ellir ei ddarllen yma.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i reoli amlygiad i ddeunyddiau peryglus yn y gweithle yn ddigonol. Dyma'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (the Control of Substances Hazardous to Health Regulations; COSHH).[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ ohchr.org; adalwyd 18 Mai 2023.
- ↑ documents-dds-ny.un.org; Archifwyd 2023-05-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Mai 2023; teitl: Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar y goblygiadau i hawliau dynol y rheolaeth amgylcheddol gadarn a gwaredu gwastraff a sylweddau peryglus; adalwyd 18 Mai 2023.
- ↑ hse.gov.uk; adalwyd 18 Mai 2023.