Pobloedd brodorol
Enw ar grwpiau o fodau dynol sydd yn frodorol i ardal ddaearyddol benodol yw pobloedd brodorol neu bobloedd cynfrodorol. Term hynod o ddadleuol ydyw, sydd yn aml yn dibynnu ar gyd-destun academaidd, cyfreithiol, cymdeithasol, neu wleidyddol. Fel arfer, mae pobl frodorol cyfeirio at y bobl—boed yn llwyth, grŵp ethnig, neu genedl—sydd wedi byw mewn ardal am yr oes hiraf, ac sydd yn dal i oroesi yno.[1] Yn ei ystyr gyffredin a chwmpasog, mae'r enw felly yn cynnwys nifer fawr o bobloedd wahanol ar draws y byd, beth bynnag yw'r sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol, ddemograffig, ac economaidd gyfoes. Yn fwyfwy, defnyddir diffiniad cyfyngedig o'r term i ddisgrifio pobloedd a fu'n byw ar dir cyn dyfodiad goresgynwyr, gwladychwyr a mewnfudwyr, ac sydd yn dal i uniaethu â'r hunaniaeth ddiwylliannol, cymdeithasol, ac hanesyddol unigryw honno er gwaethaf grymoedd allanol. Mae'r ystyr hon yn neilltuol i bobloedd a fu'n hanesyddol ddarostynedig i goncwest filwrol, imperialaeth a threfedigaethu, difeddiant a dadleoli, ac yn aml erledigaeth hiliol ac hil-laddiad, anffawd sydd naill ai yn parhau neu sydd yn dangos ei effeithiau hyd heddiw. Fel rheol, byddai'r bobloedd hynny bellach yn lleiafrif demograffig o fewn mamwlad eu hunain, a châi eu hunaniaeth a ffordd o fyw unigryw eu bygythio gan dra-arglwyddiaeth y gymdeithas wladychol, yn ogystal ag effeithiau globaleiddio. Cydnabyddir pobloedd brodorol yn ôl y diffiniad hwn gan gyfreithiau a chyfundrefnau rhyngwladol er mwyn gwarchod eu hunaniaeth ac etifeddiaeth a pharchu'n swyddogol eu perthynas â'r tir, yn aml gyda'r nod o wneud iawn am gam-driniaeth hanesyddol y bobloedd honno. Mae rhai fframweithiau cyfreithiol yn cydnabod hawliau grŵp pobl frodorol i hunanbenderfyniad, tir, ac adnoddau naturiol, tra bo eraill yn canolbwyntio ar ddiogelu'r unigolyn brodorol rhag gwahaniaethu ar sail ei ethnigrwydd, a sicrhau cyfeloedd iddo fe neu iddi hi ymddiwylliannu i'r brif gymdeithas.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Who are the indigenous and tribal peoples?". www.ilo.org. 22 July 2016.