Gwastatir Ewrop
Gwastatir sy'n ymestyn o fynyddoedd y Pyreneau ar draws gogledd Ewrop hyd at fynyddoedd yr Wral yw Gwastatir Ewrop neu Wastatir Mawr Ewrop. De orllewin a gogledd Ffrainc a Gwlad Belg sy'n ffurfio rhan orllewinol gul y gwastatir ar hyd arfordir Cefnfor yr Iwerydd. Mae canolbarth neu ogledd y gwastatir, sy'n cynnwys yr Iseldiroedd, Denmarc, gogledd yr Almaen a Gwlad Pwyl, yn ffinio â phenrhyn Llychlyn i'r gogledd ac Ucheldiroedd Canolbarth Ewrop i'r de. Rhennir dwyrain Ewrop gan fynyddoedd Carpathia, sy'n rhoi gogledd Bwlgaria, de ddwyrain Rwmania, Moldofa, yr Wcráin, Belarws, a'r gwledydd Baltig – yn ogystal â'r Ffindir a gorllewin Rwsia – yn y gwastatir dwyreiniol, sy'n estyn i led o 2000 milltir ar ei eithaf. Terfynir i'r dwyrain gan fynyddoedd yr Wral ac yn y de ddwyrain gan y Cawcasws ar y goror rhwng Ewrop ac Asia.
Enghraifft o'r canlynol | gwastatir |
---|---|
Rhan o | y System Hercynaidd |
Yn cynnwys | Gwastatir Gogledd Ewrop, Gwastatir Gogledd Ewrop |
Hwn yw un o wastadeddau mwya'r byd sy'n rhoi i Ewrop y cyfartaledd lleiaf yn nhermau uchder tir o'r holl gyfandiroedd.[1] Dim ond ychydig o fryniau sy'n torri'r gwastadedd, yn bennaf yn y gorllewin. Tir ffermio gyda phridd ffrwythlon yw rhan mawr o'r gwastatir, a lleolir rhanbarthau o stepdiroedd, twndra, coedwigoedd a llynnoedd yn y gogledd a'r dwyrain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) European Plain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2016.