Pridd (drama)
Drama Gymraeg gan Aled Jones Williams ydy Pridd.[1]. Llwyfannwyd yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013.
Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | Aled Jones Williams |
Cyhoeddwr | Theatr Genedlaethol Cymru Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 2013 |
Pwnc | drama |
ISBN | 978 1 84527 471 9 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Disgrifiad byr
golyguMonolog gan y cymeriad Alwyn Tomos, neu 'Handi Al' i blant y fro, sydd yma, wrth iddo orfod wynebu ffeithiau trasig ei fywyd, ymhell o gomedi ei ddiddanu.
‘Handi Al’, y clown a’r diddanwr plant, ‘ffwli CRB checked’. Methiant a meddwyn, ond un na allwch chi mo’i gasáu, er gwaetha’r geiriau garw a’i chwantau cnawdol.
"Er bod Pridd yn barhad themataidd o'r hyn sydd wedi bod yn greiddiol i theatr Aled trwy gydol ei yrfa, mae yma hefyd ddatblygiad arddulliadol arwyddocaol", yn ôl yr adolygydd Gareth Llyr Evans.[2]
Cymeriadau
golyguHandi Al - clown
Cynyrchiadau nodedig
golygu2010au
golyguCyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013 gydag Owen Arwyn yn portreadu'r prif gymeriad dan gyfarwyddwyd Sara Lloyd.[3] Cynllunydd y cynhyrchiad oedd Ruth Hall; goleuo Elanor Higgins; sain Dyfan Jones.[2] Fe enillodd Owen wobr Perfformiad Orau yn yr iaith Gymraeg yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014.[4]
Yn ôl yr adolygydd theatr Paul Griffiths, roedd "...portread Owen Arwyn mor drydanol â’r ‘lectrig o sws’ gyntaf, a gafodd gan ei wraig ddolefus, Gwenda. Portread ddaeth â dagrau wrth gerdded nôl am ganol Caerdydd – nid dagrau o dristwch, ond dagrau am ddiwedd rhywbeth – fel diwedd gyrfa Robert Deiniol yn Panto, Gwenlyn Parry, neu ddiwedd cyfnod Leni, yn nrama Dewi Wyn Williams, roedd yma ymdeimlad terfynol iawn i’r gwaith."[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pridd ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru
- ↑ 2.0 2.1 Rhaglen Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Pridd. 2013.
- ↑ Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams] – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
- ↑ Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru'n mynd 'o nerth i nerth' BBC Cymru 27.1.14
- ↑ "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-27.