Panto (drama)
Drama Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Panto, a gyfansoddwyd ym 1986 fel Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun. Ystyrir y ddrama olaf hon fel un "hunangofianol" i raddau, gyda sawl un yn gresynu ei fod wedi bwrw ei chwerwedd ar bapur.[1] Ni chyhoeddwyd y ddrama yn y 1980au. Yn dilyn llwyfaniad Cwmni Whare Teg ohoni ym 1991, aeth Gwasg Gomer ati i'w hargraffu ym 1992. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1986 (cyhoeddi 1992) |
Awdur | Gwenlyn Parry |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1986 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 9780863838798 |
Tudalennau | 77 |
Disgrifiad byr
golyguDrama o fewn drama sydd yma, wrth i'r cymeriadau baratoi i lwyfannu'r pantomeim Dick Whittington And His Cat am y tro olaf. Mae'r cwmni sydd wedi bod yn teithio gyda'r cynhyrchiad, yn poeni am stad feddyliol y prif actor, Robert Deiniol; mae'n prysur ddadfeilio yn ei chwerwedd, wrth bortreadu'r 'dame' yn y sioe. Wrth i'r gynulleidfa yn y theatr go iawn, gyrraedd eu seddi, gwelir Robert Deiniol ar y llwyfan yn ei ystafell newid yn yfed wisgi, ac yn syrthio i gysgu. Felly, fe gychwyn y ddrama gyda'i gyd-actorion yn gorfod malu'r drws, er mwyn ei baratoi ar gyfer y sioe. Dadlennir bod Robert wedi bod yn cael perthynas gydag actores yn y cwmni, tu allan i'w briodas i'w wraig Angharad. Mae'r actores Sera Rees bellach yn feichiog, ac felly mae Robert wedi penderfynu gadael ei wraig ar ddiwedd y daith. Ond yn ystod y perfformiad, mae Sera yn gwahodd ei wraig Angharad i'r theatr, ac fe dry'r cyfan yn ffrae greulon.
Cefndir
golyguCafodd y ddrama ei chyfansoddi yn ystod cyfnod cythryblus ym mywyd y dramodydd. Roedd o newydd ysgaru oddi wrth ei wraig, ac wedi ail-briodi a chychwyn teulu newydd. Roedd S4C yn ei ddyddiau cynnar, a Byd Y Theatr yng Nghymru yn dechrau gwegian.[1] Yn ôl yr academydd Roger Owen, "ysgrifennodd [y ddrama] gydag onestrwydd anarbedol, bron yn bensyfrdanol, oedd i rai yn y gynulleidfa yn ymylu ar fod yn ddi-chwaeth".[1]
"Ar wahan i'r elfen hunangofianol, mae Panto hefyd yn rhyw lun o ffarwel i'r theatr i Parry; ac yn yr ystyr hynny, mae'n ddrama sy'n adleisio elfen o grochder anachubol. All neb ddadle ei fod yn mawrygu'r theatr fel cyfrwng. Yn anffodus, goramlygu'r gwirionedd trist a diraen a wna, o fywyd unigolyn yng ngwyneb y cyhoedd awtomataidd."[1]
Noda Gwenlyn Parry mai ymweliad i Theatr y Grand, Abertawe i ymweld gefn llwyfan â'r actor Ryan Davies, oedd sbardun y ddrama. Cyfaddefodd hefyd bod perthynas tu-allan-i-briodas Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Cecil Parkinson, gyda'i ysgrifenyddes Sarah Keays, wedi ei gynddeiriogi, gyda Parkinson yn dewis i aros efo'i wraig yn hytrach na chefnogi ei ysgrifenyddes feichiog.[1] "Y mae Panto [...] yn enghraifft berffaith o allu Gwenlyn Parry i greu llun sydd hefyd yn ddrychfeddwl o gyflwr emosiynol ei gymeriadau", yn ôl yr academydd Elan Closs Stephens, yn y Rhagair i'r cyhoeddiad.[3]
"Gwelsom yn Y Ffin (1973) ddau gyfaill yn cyd-adeiladu'r cwt bugail ac yna yn ei ddymchwel yn rhacs wrth i eiddigedd ddymchwel eu cyfeillgarwch. Gwelsom yn Y Tŵr (1978) ferch a bachgen yn dringo grisiau'r tŵr i fod yn ŵr a gwraig canol oed, ac yna'n dringo'r grisiau olaf i'w henaint. Hyd yn oed yn ei ddrama hir gyntaf, Saer Doliau (1966) roedd tensiwn y gweithdy rhwng yr hen a ŵyr a'r ifanc a dybia yn amlwg i'r llygad yng ngwisg ac ymarweddiad y ddau gymeriad. Yn yr un modd yn union, y mae'r pantomeim sydd yn cael ei Iwyfannu gan gymeriadau Panto yn ddelwedd o'u bywyd preifat. Pantomeim yw bywyd Robert Deiniol a thrwy ymestyniad, pantomeim chwerw-ddigrif, annwyl a thrist yw ein holl gyplysu a chyfathrachu fel pobol. Yn Panto estynnir y broses hon o greu llun ymhellach fyth. Llun Panto yw'r theatr ei hun."[3]
Mae'r ddrama yn adleisio dramâu tebyg i Chwe Chymeriad Yn Chwilio Am Awdur o waith Luigi Pirandello a The Dresser o waith Ronald Harwood. Aiff Elan Closs Stephens ymlaen i honi "y mae'n bosibl dadlau mai Panto yw drama fwyaf sgilgar Gwenlyn Parry o ran effeithiau theatrig". [3]
"Mae sgript Panto yn anodd iawn i'w darllen ac ar yr un pryd yn beryglus o rwydd. Wrth ruthro trwyddi, gwenu ar y jôcs a phasio heibio i'r cyfarwyddiadau llwyfan, cawn lai na chwarter y darlun. I'w blasu rhaid ymbwyllo, creu'r darluniau yn y meddwl, gweld y symudiadau, clywed y rhythmau'n newid, adnabod y llun. Dim ond bryd hynny y gwelwn theatr gyflawn Gwenlyn Parry - meistr y ddelwedd estynedig a bardd lluniau."[3]
Ond anghytuno'n chwyrn wnaeth yr actor Nic Ros yn ei bennod Saesneg yn y gyfrol Staging Wales: "Mae drama olaf Gwenlyn Parry Panto (Cwmni Whare Teg, 1986) yn gymysgfa ffarslyd sy'n anheilwng o'i enw. [...] Nid yw'r ddrama namyn ychydig o ddifyrwch adlonianol, ac yn feddargraff annheilwng. Gadawodd bedair drama lwyfan wych fydd yn sicrhau ei ddyfodol ar y llwyfan ac mewn print. Dylid anghofio'r ddwy ddrama olaf." [Panto a Sál][4]
Cymeriadau
golygu- Robert Deiniol - Gwr tua 54 oed
- Sera Rees - Merch tua 29 oed
- Maldwyn Evans - Gwr tua 40 oed
- Elin Wyn - Merch tua 50 oed
- Mici Tiwdor - Gwr tua 45 oed
- Angharad Jones - Merch tua 40 oed
- Dyn LIwyfan - Gwr rhwng 18 a 40 oed
- Tri dyn yn y band
- Tair merch yn dawnsio
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama ddwywaith gan Gwmni Whare Teg. Y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1986, gyda'r cast:
- Robert Deiniol - John Ogwen
- Sera Rees -
- Maldwyn Evans -
- Elin Wyn - Sue Roderick
- Mici Tiwdor -
- Angharad Jones -
- Dyn LIwyfan -
- Tri dyn yn y band
- Tair merch yn dawnsio
Llwyfannwyd y ddrama eto gan Gwmni Whare Teg ym 1991 gyda John Ogwen yn y brif ran. Y cyfarwyddwr oedd Dafydd Hywel; cast:
- Robert Deiniol - John Ogwen
- Sera Rees -
- Maldwyn Evans -
- Elin Wyn - Sue Roderick
- Mici Tiwdor -
- Angharad Jones -
- Dyn LIwyfan -
- Tri dyn yn y band
- Tair merch yn dawnsio
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Owen, Roger (2013). Gwenlyn Parry : Writers of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708326626.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Parry, Gwenlyn (1992). Panto. Gomer.
- ↑ Ros, Nic (1997). Staging Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708314197.