Prifysgol Cenedlaethol An-Najah
Prifysgol cyhoeddus, anllywodraetho yw Prifysgol Genedlaethol An-Najah ( Arabeg: جامعة النجاح الوطنية) sydd wed'i lleoli yn Nablus, yng ngogledd y Lan Orllewinol, Palesteina. Fe'i llywodraethir gan fwrdd o ymddiriedolwyr ac mae gan y brifysgol 22,000 o fyfyrwyr a 300 o ddarlithwyr, mewn 19 cyfadran. Hi yw'r brifysgol fwyaf ym Mhalesteina.
Enghraifft o'r canlynol | prifysgol |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1977 |
Sylfaenydd | Hassan Hammad |
Aelod o'r canlynol | Agence universitaire de la Francophonie |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Nablus, Tulkarm |
Gwefan | http://www.najah.edu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth yn brifysgol lawn ym 1977, a hynny drwy siarter.
Hanes
golygu- 1918: Fe'i sefydlwyd fel ysgol gynradd (Ysgol An-Najah Nabulsi) yn addysgu ei disgyblion lleol ac o dramor.
- 1941: Enwyd y sefydliad yn Goleg An-Najah.
- 1965: Daeth yn sefydliad hyfforddi athrawon, gyda'r hawl i ddyfarnu graddau prifysgol canolradd.
- 1977: Esblygodd yn brifysgol lawn, Prifysgol Genedlaethol An-Najah gyda Chyfadran y Celfyddydau a Chyfadran Gwyddorau ac ymunodd â Chymdeithas Prifysgolion Arabaidd (AARU) fel aelod llawn.
- 1978: Cafodd Cyfadrannau Economeg, Gwyddorau Gweinyddol, Gwyddorau Addysg a Pheirianneg eu creu.
- 1981: Sefydlwyd Rhaglen gradd meistr gyntaf mewn rheoli cwricwla yng Nghyfadran y Gwyddorau Addysg a derbyniwyd An-Najah fel aelod yn Undeb Prifysgolion y Byd.
- 1984:Ceuwyd y brifysgol am 4 mis gan fyddin Israel [1]
- 1985: Ehangwyd cwmpas astudiaethau uwch i gynnwys meysydd newydd gan gynnwys Cemeg, Astudiaethau Islamaidd ac Addysg.
- 1994: Sefydlwyd y Gyfadran Fferylliaeth; cyflwynwyd cyfadrannau a chanolfannau gwyddonol arbenigol newydd, gan gynnwys y Rhaglen Academaidd ar gyfer Astudio Ymfudo Anwirfoddol (APSIM); y Sefydliad Astudiaethau Dŵr ac Amgylcheddol; y Ganolfan Astudiaethau, Ymgynghori a Gwasanaethau Technegol; a'r Deorydd Busnes a Thechnoleg.
- 1995: Sefydlwyd Cyfadran y Gyfraith.
- 1997: Llofnodwyd cytundeb gyda chyfarwyddwr cyffredinol UNESCO i sefydlu Cadeirydd UNESCO ar Hawliau Dynol a Democratiaeth. Yn yr un flwyddyn, lansiodd y brifysgol y Rhaglen Arabeg ar gyfer Siaradwyr Brodorol.
- 1998: Penderfynodd Bwrdd yr ymddiriedolwyr sefydlu'r Ganolfan Cynllunio Trefol a Rhanbarthol (CURP).
- 1999: Sefydlwyd y Gyfadran Meddygaeth mewn cydweithrediad â phrifysgolion Al-Quds ac Al-Azhar. Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cymunedol hefyd yn gwasanaethu'r gymuned leol.
- 2000: Ar 25 Mehefin 2000, gosododd Yasser Arafat y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Peirianneg a Thechnoleg Munib Masri ar y Campws Newydd. Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd y Gyfadran Meddygaeth Filfeddygol a nifer o raddau uwch, gwyddonol gan gynnwys Peirianneg Gyfrifiadurol, Ystadegau, yr Economi a Datblygu Amaethyddol.
- 2001: Sefydlwyd y Gyfadran Technoleg Gwybodaeth. Cwblhawyd y gwaith o adeiladu Coleg Technoleg Hisham Hijjawi a chroesawodd y Coleg ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Hydref.
- 2003: Lansiwyd gorsaf radio "Llais An-Najah" gan helpu i gryfhau'r cysylltiadau â'r gymuned leol ac i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy. Sefydlwyd y Ganolfan Polau Barn ac Astudiaethau Arolygon, y Ganolfan Addysg Barhaus (CEC) a'r Ganolfan Mesur a Gwerthuso (MEC) hefyd.
- 2004: Sefydlwyd y Gyfadran Optometreg a'r Gyfadran Nyrsio.
- 2005:
- Sefydlu Palas Al-Qasem yn Beit Wazan i wasanaethu fel Canolfan Cynllunio Trefol a Rhanbarthol.
- Sefydlu'r Gyfadran Anrhydeddau ac Uned Cadwraeth ac Ailadeiladu Pensaernïol.
- Lansiwyd Gwobr An-Najah am Ymchwil Wyddonol ym maes gwyddoniaeth a'r dyniaethau.
- Sefydlwyd dwy raglen meistr wyddonol: Hwsmonaeth Anifeiliaid ac Ynni Glân a Rhesymoli Defnydd.
- 2006:
- Sefydlwyd Sefydliad Meddygaeth Fforensig fel cangen o'r Gyfadran Meddygaeth.
- Sefydlwyd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr An-Najah
- Sefydlodd ei Ardderchowgrwydd, Mahmoud Abbas, Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina gampws newydd y brifysgol. Cyflwynwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i'r Arlywydd Abbas.
- 2007: Sefydlodd y brifysgol y canlynol:
- Canolfan Ieithoedd.
- Lab Cyfrifiadurol ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg.
- Clinig Deintyddol.
- Clinig Prostheteg ar yr Hen Gampws.
- Sefydliad Rhagoriaeth TG Corea-Palesteina
- Clinig Llygaid y Gyfadran Optometreg.
- 2008:
- Achredwyd y Gyfadran Meddygaeth fel cyfadran annibynnol gan Weinyddiaeth Addysg ac Addysg Uwch Palesteina.
- Caffaelwyd ysbytai Al-Zakat yn Nablus., a'i addasu'nysbyty addysgu ar gyfer myfyrwyr meddygaeth a nyrsio; bydd yr ysbyty yn gwasanaethu rhanbarth cyfan o ogledd y Lan Orllewinol mewn cydweithrediad â Gweinidogaeth Iechyd Palesteina.
- Agorwyd mosg yn Awst 2008.
- Agorwyd adeiladau Chwaraeon ar y campws newydd ym mis Tachwedd 2008.
Corff myfyrwyr
golyguMae'r mwyafrif o'r myfyrwyr yn Balesteiniaid, ond mae yna fyfyrwyr ac athrawon o bob cwr o'r byd hefyd. Ymhlith yr ieithoedd a siaredir ar y campws mae Arabeg, Hebraeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg.
Cyfadran
golyguYn y 2010au roedd Ansam Sawalha, a oedd yn ddeon cyfadran fferylliaeth, y fenyw Palesteinaidd gyntaf i gael ei henwi yn Oriel Anfarwolion Menywod mewn Gwyddoniaeth yn 2011. Anrhydeddwyd Sawalha am ei gwaith yn sefydlu'r Ganolfan Rheoli Gwenwyn a Gwybodaeth Cyffuriau gyntaf yn Nhiriogaethau Palesteina yn 2006.[2][3]
Erbyn 2020au roedd gan y brifysgol un-deg-chwech o gyfadrannau gwyddonol a chyfadrannau'r dyniaethau . Mae An-Najah yn cynnig hyfforddiant israddedig ym meysydd meddygaeth, peirianneg, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a'r gwyddorau naturiol, yn ogystal â chyrsiau astudio graddedig yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.
- Mae'r cyfadrannau gwyddonol yn cynnwys:
- Cyfadran Gwyddoniaeth
- Cyfadran Peirianneg
- Cyfadran Technoleg Gwybodaeth
- Cyfadran Amaeth
- Cyfadran Meddygaeth Ddynol
- Cyfadran Optometreg
- Cyfadran Fferylliaeth
- Cyfadran Meddygaeth Filfeddygol
- Cyfadran Nyrsio
- Cyfadran Addysg Gorfforol [ <span title="The material near this tag is possibly inaccurate or nonfactual. (December 2014)">amheus</span> ]
- Mae'r Cyfadrannau'r Dyniaethau yn cynnwys:
- Cyfadran y Celfyddydau
- Cyfadran y Celfyddydau Cain [ <span title="The material near this tag is possibly inaccurate or nonfactual. (December 2014)">amheus</span> ]
- Cyfadran y Gyfraith Islamaidd ( Shari'a )
- Cyfadran y Gyfraith
- Cyfadran Economeg a Gwyddorau Gweinyddol
- Cyfadran y Gwyddorau Addysg
- Cyfadran Astudiaethau Graddedig .
Cydweithredu a chyfnewid tramor
golyguMae gan y brifysgol sawl partner-brifysgol, gan chwyddo nifer y myfyrwyr cyfnewid yn sylweddol fel canran o'r myfyrwyr tramor yn An-Najah. Caiff gweddil y myfyrwyr tramor eu denu i An-Najah gan gyrsiau mewn Arabeg ar gyfer tramorwyr a gynigir gan y brifysgol.
Gefeillio
golyguMae gefeillio rhwng Prifysgol Genedlaethol An-Najah a sawl undeb myfyrwyr gwledydd Prydain:
- Undeb Myfyrwyr Prifysgol Essex; er 1991
- Undeb Myfyrwyr Prifysgol Manceinion; er 2006, er gwaethaf gwrthwynebiad sylweddol. Cynhaliwyd ymgyrch eang iawn yn 2007 i naill ai ganslo'r gefeillio, neu i gael Undeb An-Najah i lofnodi datganiad yn gwrthwynebu terfysgaeth, ond trechwyd yr ymgyrch yn drwm pan ddaeth i bleidlais.
- Undeb myfyrwyr Ysgol Economeg Llundain.
Partneriaid
golygu- Fachhochschule Darmstadt (Prifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Darmstadt), Darmstadt, yr Almaen
- Rhaglen Dwyrain Canol Prifysgol McGill (MMEP) mewn Cymdeithas Sifil ac Adeiladu Heddwch. Bob blwyddyn, mae 2500 o fyfyrwyr israddedig An-Najah yn cymryd rhan mewn rhaglenni gwirfoddoli sy'n cael eu rhedeg trwy Ganolfan Gwasanaethau Cymunedol yr MMEP yn Nablus.
Sefydliadau cysylltiedig y Lan Orllewinol
golygu- Sefydliad Khodori, Tulkarm
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o brifysgolion Palestina
- Addysg yn nhiriogaethau Palestina
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Middle East International No 256, 9 Awst 1985, Publishers Lord Mayhew, Dennis Walters MP; Daoud Kuttab p. 5
- ↑ "Dr. Ansam Sawalha, the First Palestinian Scientist in the Women in Science Hall of Fame". An-Najah National University. 8 Mai 2011. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2014.
- ↑ "Women in Science Hall of Fame- 2011". Embassy of the United States Amman Jordan. U.S. Department of State. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2011. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2014.