Priodas y Dywysoges Elisabeth a Philip Mountbatten

Cynhaliwyd priodas y Dywysoges Elisabeth a Philip Mountbatten ar 20 Tachwedd 1947 yn Abaty Westminster yn Llundain. Cafodd Philip ei wneud yn Ddug Caeredin ar fore'r briodas.

Dyddiad20 Tachwedd 1947
LleoliadAbaty Westminster
CyfranogwyrY Dywysoges Elisabeth
Philip, Dug Caeredin

Dyweddïad

golygu

Mae Elisabeth a Philip yn ceifnaint (third cousins) i'w gilydd yn dilyn y llinell deuluol o'r Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert. Cyfarfu'r Dywysoges Elisabeth â'r Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc ym 1934, ym mhriodas cyfnither i Philip, y Dywysoges Marina o Wlad Groeg a Denmarc â’r Tywysog George, Dug Caint, a oedd yn ewythr i Elisabeth. Bu iddynt gyfarfod eto ym 1937.[1] Wedi hynny bu cyfarfod arall yng Ngholeg y Llynges Frenhinol yn Dartmouth ym mis Gorffennaf 1939, a chwympodd Elisabeth mewn cariad â Philip, er mai dim ond 13 oed oedd hi, a dechreuon nhw gyfnewid llythyrau.[2] Mor gynnar â 1941 roedd cofnod yn nyddiadur Chips Channon yn cyfeirio at briodas ddyfodol Elisabeth a Philip: "Ef fydd ein Tywysog Cydweddog, a dyna pam ei fod yn gwasanaethu yn ein Llynges."[3] Dyweddïwyd y cwpl yn gyfrinachol ym 1946, pan ofynnodd Philip i'r Brenin Siôr VI am law ei ferch. Caniataodd y Brenin ei gais ar yr amod bydd unrhyw ddyweddïad ffurfiol yn cael ei ohirio tan ben-blwydd Elisabeth yn 21 oed y mis Ebrill canlynol.[4] Cyhoeddwyd eu dyweddïad yn swyddogol ar 9 Gorffennaf 1947.[5] Gofynnodd Philip i Elisabeth i'w briodu gyda modrwy diemwnt crwn 3-carat a oedd yn cynnwys un garreg ganolog wedi amgylchynu gan 10 diemwnt llai.[6] Cymerwyd y diemwntau o diara mam Philip, y Dywysoges Alice o Battenberg, ac fe'u defnyddiwyd hefyd i greu breichled pedairdalen i Elisabeth.[7]

Rhoddodd y Brenin ei ganiatâd ffurfiol i'r briodas yn y Cyfrin Gyngor Prydeinig, fel sydd ei angen yn ôl y Ddeddf Priodasau Brenhinol 1772. Gwnaethpwyd yr un peth yng Nghanada mewn cyfarfod Cyfrin Gyngor Canada y Brenin.[8]

Priodas

golygu

Lleoliad

golygu

Priododd y Dywysoges Elisabeth a'r Tywysog Philip am 11:30 GMT ar 20 Tachwedd 1947 yn Abaty Westminster.[9] Hi yw ddegfed aelod y Teulu Brenhinol i fod yn briod yn yr Abaty.[10]

Parti priod

golygu

Roedd gan y Dywysoges Elisabeth wyth morwyn: Y Dywysoges Margaret (ei chwaer iau), y Dywysoges Alexandra o Gaint (ei chyfnither), yr Arglwyddes Caroline Montagu-Douglas-Scott, yr Arglwyddes Mary Cambridge (ei chyfyrderes), Arglwyddes Elizabeth Lambart, Arglwyddes Pamela Mountbatten (cyfnither Philip), Margaret Elphinstone (ei chyfnither), a Diana Bowes-Lyon (ei chyfnither).[9] Y Tywysog William o Gaerloyw a'r Tywysog Michael o Gaint oedd gweision bach (page boys). Roedd y morwynion yn gwisgo blodeudorchau yn eu gwallt o rwymau gwyn bach, lilïau a London Pride, yn gwisgo satin gwyn a lamé arian".[11] Roedd y gweision bach yn gwisgo ciltiau tartan Royal Stewart.[11]

Y gwas priodas oedd yr Ardalydd Aberdaugleddau,[10] cefnder cyntaf y priodfab. Roedd yr Ardalydd yn ŵyr i'r Tywysog Louis o Battenberg a'r Dywysoges Victoria o Hesse a Rhine; ac yn or-or-ŵyr i'r Frenhines Victoria.

Gwisg briodas

golygu

Ar gyfer ei ffrog briodas, roedd angen cwponau dogni ar Elisabeth i brynu'r deunydd ar gyfer ei ffrog, a ddyluniwyd gan Norman Hartnell.[12][13] Disgrifir y ffrog fel "ffrog priodas satin duchesse gyda motiffau o lilïau seren a blodau oren." Roedd esgidiau priodas Elisabeth wedi'u gwneud allan o satin ac fe'u tociwyd ag arian a pherlau mân.[11] Gwnaeth Elisabeth ei cholur ei hun ar gyfer y briodas.[14]

Ar fore ei phriodas, oherwydd roedd y Dywysoges Elisabeth yn gwisgo ym Mhalas Buckingham cyn gadael am Abaty Westminster, fe wnaeth ei thiara torri. Cafodd gemydd y llys ei frysio i'w weithdy gan y heddlu i drwsio'r tiara. Sicrhaodd y Frenhines Elisabeth y byddai wedi trwsio mewn pryd, ac yr oedd.[15] Rhoddodd tad Elizabeth bâr o fwclis perlog iddi, a oedd yn eiddo i'r Frenhines Anne a'r Frenhines Caroline, fel anrheg briodas. Ar ddiwrnod ei phriodas, sylweddolodd Elisabeth ei bod wedi gadael ei pherlau ym Mhalas St James. Gofynnwyd i'w hysgrifennydd preifat, Jock Colville, fynd i'w hôl. Llwyddodd i gael y perlau i'r dywysoges mewn pryd ar gyfer ei phortread yn Ystafell Gerdd Palas Buckingham.[16]

Gwasanaeth priodas

golygu

Cyrhaeddodd y partïon brenhinol mewn gorymdeithiau mawr, y cyntaf gyda'r Frenhines a'r Dywysoges Margaret ac yna gorymdaith arall gyda'r Frenhines Mary.[17] Gadawodd Philip Balas Kensington gyda'i gwas priodas. Cyrhaeddodd y Dywysoges Elisabeth yr Abaty gyda'i thad, y Brenin, yng Nghoets Gwyddeleg y Wladwriaeth. [9]

Archesgob Caergaint, Geoffrey Fisher, ac Archesgob Efrog, Cyril Garbett, oedd yn gweinyddu'r seremoni. Recordiwyd a darlledwyd y seremoni gan BBC Radio i 200 miliwn o bobl ledled y byd.[13][18]

Modrwy briodas

golygu

Fel ei mam, roedd modrwy briodas y Dywysoges Elisabeth wedi'i wneud o aur Cymreig.[19][20] Cafodd y fodrwy ei chreu o graig o aur Cymreig o fwynglawdd Clogau St David, ger Dolgellau.[10] Rhoddwyd y graig hon i'r Arglwyddes Elisabeth Bowes-Lyon, a defnyddiwyd i greu ei modrwy briodas hi, ac wedi hynny modrwyau priodas ei dwy ferch.[21] Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr un graig aur i greu modrwyau priodas y Dywysoges Anne a'r Arglwyddes Diana Spencer.

Cerddoriaeth

golygu

William Neil McKie, organydd o Awstralia a Meistr Côr yr abaty, oedd cyfarwyddwr cerddoriaeth y briodas; ail-ymwelodd â'r rôl yng nghoroniad Elisabeth ym 1953.[22] Ysgrifennodd McKie motét ar gyfer yr achlysur hefyd. Canwyd Salm 67 i gerddoriaeth gan Syr Edward Cuthbert Bairstow. Yr anthem oedd "Blessed be the God and Father of our Lord Jesus Christ" gan Samuel Sebastian Wesley; yr emynau oedd "Praise, my soul, the king of heaven", a "The Lord's my Shepherd" i'r dôn Albanaidd "Crimond" gan Jessie Seymour Irvine. Dechreuodd y gwasanaeth gyda chyfansoddiad ffanffer arbennig gan Arnold Bax, a gorffennodd gyda'r "Wedding March" gan Felix Mendelssohn. Cafodd côr yr abaty eu hymuno gan gorau'r Capel Brenhinol a Chapel San Siôr, Windsor.[23]

Cyn y briodas, rhoddodd Philip y gorau i'w deitlau Groegaidd a Daneg, fel sy’n ofynnol o dan yr Act of Settlement, 1701, a drodd o Uniongrededd Gwlad Groeg i'r Eglwys Lloegr, a dechreuodd defnyddio’r teitl “Is-gapten Philip Mountbatten”, yn cymryd cyfenw teulu Prydeinig ei fam.[24] Y diwrnod cyn y briodas, rhoddodd y Brenin Siôr y teitl "Ei Uchelder Brenhinol" i Philip, ac ar fore'r briodas, 20 Tachwedd 1947, fe'i gwnaed yn Ddug Caeredin, Iarll Merioneth, a Barwn Greenwich. O ganlyniad, gan ei fod eisoes yn Farchog y Gardas, rhwng 19 a 20 Tachwedd 1947 roedd ganddo'r teitl anghyffredin "Ei Uchelder Brenhinol Syr Philip Mountbatten", ac fe'i disgrifir felly yn y Llythyrau Patent ar 20 Tachwedd 1947. Ar ôl eu priodas, cymerodd Elisabeth deitl ei gŵr a daeth yn Dywysoges Elizabeth, Duges Caeredin.

Dathliadau teuluol

golygu

Ar ôl y seremoni, aeth Elisabeth a Philip ymlaen i Balas Buckingham, lle chwifiodd y cwpl i'r torfeydd o'r balconi.

Cynhaliwyd eu brecwast priodas yn Ystafell Swper-Ddawns y Palas.[9][10] Roedd y fwydlen yn cynnwys Filet de Sole Mountbatten, Perdreau en Casserole, a Bombe Glacee'r Dywysoges Elisabeth. Chwaraewyd cerddoriaeth gan fand llinynnol Gwarchodlu'r Grenadwyr.

Pobwyd y gacen briodas swyddogol gan y siop fara o Lundain McVitie & Price.[10][25] Cacen ffrwythau oedd, wedi'i gwneud o bedair haen, gyda thaldra naw troedfedd, ac yn pwyso tua 500 pwys. Cafodd ei greu o 80 oren, 660 o wyau, a dros dri galwyn o Navy Rum. Oherwydd daeth yr Ail Ryfel Byd i ben ond dwy flynedd ynghynt, ac oedd dal dogni, cludwyd rhai o gynhwysion y gacen i Brydain o bedwar ban byd; ac felly cafodd y llysenw "The 10,000 Mile Cake". Roedd yr addurniadau'n cynnwys arfbeisiau teuluoedd y briodferch a'r priodfab, yn ogystal â monogramau unigol y briodferch a'r priodfab, a ffigurau rhew siwgr yn darlunio bathodynnau milwrol, llyngesol, â hoff weithgareddau'r cwpl. Torrodd y cwpl y gacen gyda chleddyf Mountbatten y Dug, a oedd yn anrheg briodas gan ei dad-yng-nghyfraith, y Brenin.

Derbyniodd y cwpl dros 2,500 o anrhegion priodas o bob cwr o'r byd a thua 10,000 o delegramau o longyfarchiadau.[9][13] Cafodd yr anrhegion eu harddangos yn gyhoeddus ym Mhalas St James ac roeddent ar gael i'r cyhoedd eu gweld.[10]

Y diwrnod ar ôl y briodas dychwelwyd y tusw priodas i Abaty Westminster a'i roi ar Fedd y Milwr Anhysbys;[10] cychwynnwyd y traddodiad hwn gan fam y briodferch, y Frenhines Elisabeth, yn dilyn ei phriodas.

Mis Mêl

golygu

Aeth y cwpl ar drên i Hampshire, yn gadael o Orsaf Waterloo, a threulio eu noson briodas yng nghartref ewythr y Dug Caeredin, yr Iarll Mountbatten o Burma, yn Broadlands.[10][13] Oddi yno teithiodd y cwpl i Birkhall ar Ystâd Balmoral, lle treulion nhw weddill eu mis mêl.

Er mwyn mynd ar ei gwyliau, roedd Elisabeth yn gwisgo "ffrog a chôt yn cydweddu, mewn glas niwl gydag ategolion lliw madarch" a ddyluniwyd gan Hartnell.[11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brandreth, pp. 133–139; Lacey, pp. 124–125; Pimlott, p. 86
  2. Bond, p. 10; Brandreth, pp. 132–136, 166–169; Lacey, pp. 119, 126, 135
  3. Vickers, Hugo (2000). Alice: princess Andrew of Greece. New York: St. Martin's Press. t. 317. ISBN 0-312-28886-7.
  4. Brandreth, p. 183
  5. Heald, p. 77
  6. Robinson, Katie (27 October 2017). "The Untold Story Behind Queen Elizabeth's Engagement Ring". Town & Country. Cyrchwyd 15 May 2018.
  7. Anastasiou, Zoe (6 January 2018). "This Is The Adorable Story Behind Queen Elizabeth's Engagement Ring". Harper's Bazaar. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-20. Cyrchwyd 15 May 2018.
  8. Boyce, Peter John (2008). The Queen's Other Realms: The Crown and Its Legacy in Australia, Canada and New Zealand. Sydney: Federation Press. t. 81. ISBN 9781862877009.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 60 Diamond Wedding anniversary facts, Official website of the British Monarchy, 18 November 2007, http://www.royal.gov.uk/LatestNewsandDiary/Factfiles/60diamondweddinganniversaryfacts.aspx, adalwyd 20 June 2010
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 10.6 10.7 "70 facts about The Queen and The Duke of Edinburgh's Wedding". www.royal.uk. Cyrchwyd 15 June 2018.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 "Sixty facts about a royal marriage". BBC. 18 November 2007. Cyrchwyd 15 November 2018.
  12. Hoey, p. 58; Pimlott, pp. 133–134
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 "Elizabeth II's wedding". BBC. Cyrchwyd 1 August 2018.
  14. "The Mirror".
  15. Field, pp. 41–43.
  16. Field, pp. 104–105.
  17. "ROYAL: Wedding of HRH Princess Elizabeth and Philip Mountbatten at Westminster Abbey", ITN Source, http://www.itnsource.com/shotlist//BHC_RTV/1947/11/24/BGU410270105/, adalwyd 13 January 2011
  18. Heald, p. 86
  19. "Markle's wedding ring expected to follow royal tradition of Welsh gold". Reuters. 21 March 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-21. Cyrchwyd 22 October 2018.
  20. "Gold of Royalty - British Royal Family and Welsh Gold". Clogau. Cyrchwyd 22 October 2018.
  21. Prior, Neil (27 April 2011). "Welsh gold wedding ring continues royal tradition". BBC. Cyrchwyd 22 October 2018.
  22. Wilkinson, James (2011). The Queen's Coronation: The Inside Story. Scala Publishers Ltd. t. 24. ISBN 978-1-85759-735-6.CS1 maint: ref=harv (link)
  23. "Weddings: Elizabeth, Princess (later Queen Elizabeth II) & HRH the Duke of Edinburgh", Westminster Abbey
  24. Hoey, pp. 55–56; Pimlott, pp. 101, 137
  25. Galarza, Daniela (18 May 2018). "A Brief History of British Royal Wedding Cakes". www.eater.com. Cyrchwyd 15 June 2018.