Pelen neu fynen fechan a wneir o grwst choux yw proffiterol[1] (Ffrangeg: profiterole, sef ffurf fachigol ar profit, "elw") sydd yn tarddu o goginiaeth Ffrainc. Gellir ei ystyried yn ffurf fer, gron ar yr éclair. Melysfwyd ydyw gan amlaf yn cynnwys hufen neu gwstard, ond ceir hefyd proffiterolau gyda llenwad sawrus megis cig neu gaws.[2]

Proffiteroliau hufen gyda saws siocled.

Fel arfer câi proffiterolau eu chwistrellu gyda hufen chwip neu gwstard (crème pâtissière), neu weithiau hufen iâ, a'u gweini gyda saws siocled poeth a siwgr eisin. Gellir hefyd torri'r proffiterolau mewn hanner er mwyn eu llenwi. Weithiau dodir caen o siocled neu garamel ar ben pob un proffiterol.

Adeiladir tŵr o broffiterolau i wneud croquembouche, pwdin poblogaidd i ddathlu priodasau yn Ffrainc. Defnyddir proffiterolau hefyd i wneud teisen o'r enw saint-honoré.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "profiterole".
  2. 2.0 2.1 Alan Davidson, The Oxford Companion to Food (Rhydychen: Oxford University Press, 2006), t. 653.