Protocolau Henaduriaid Seion
Mae Protocolau Henaduriaid Seion (Rwsieg: Протоколы сионских мудрецов, Protokoly Sionskij Mudretsov, a dalfyrrir hefyd fel Сионские протоколы, Sionskie Protokoly; Saesneg: The Protocols of the Elders of Zion) yn destun gwrth-semitig. Yn 1921 profwyd ei fod yn ffugiad. Ym 1935 ym mhapur newydd The Times cafodd ei wadu eto. Ac yn 1999 darganfuwyd ei fod yn aseiniad a wnaed gan yr heddlu tsarist i Matvei Golovinski.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, antisemitic trope, literary forgery, hoax |
---|---|
Awdur | Matvei Golovinski |
Cyhoeddwr | Znamya, Pavel Krushevan, Sergei Nilus |
Rhan o | gwrth-Semitiaeth |
Iaith | Rwseg, Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1903 |
Genre | antisemitic trope |
Lleoliad cyhoeddi | Ymerodraeth Rwsia |
Prif bwnc | Jewish conspiracy theory, international Jewish conspiracy |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir teitl arall, llawnach; Протоколы собраний ученых сионских мудрецов; Protocolau Cyfarfodydd Henuriaid Dysgedig Seion; The Protocols of the Meetings of the Learned Elders of Zion.
Hanes
golyguCyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1903 yn Rwsia tsaraidd, a'i nod oedd cyfiawnhau'n ideolegol y pogromau a ddioddefwyd gan yr Iddewon. Y testun, a ystyrir yn dwyll hanesyddol,[2] fyddai trawsgrifiad o gyfarfodydd tybiedig "doethion Seion", lle maent yn manylu ar gynlluniau cynllwyn Iddewig, a fyddai'n rheoli symudiadau Seiri Rhyddion a chomiwnyddol, wedi'u lledaenu ar draws y cenhedloedd y Ddaear, a byddai iddo'r pwrpas o gyflawni pŵer byd. Protocolau Henuriaid Seion yw cyhoeddiad gwrth-Semitaidd enwocaf a mwyaf eang ei ddosbarthiad yn y cyfnod cyfoes. Mae ei honiadau am Iddewon yn parhau i gylchredeg hyd heddiw, yn enwedig ar y Rhyngrwyd.
Yn 1905 cyhoeddwyd ei argraffiad cyflawn o Protocolau Henaduriaid Seion.[3]
Cyd-destun
golyguMae'r Protocolau yn ddogfen ffug sy'n honni ei bod yn ffeithiol. Dengys tystiolaeth destunol na ellid bod wedi ei chynhyrchu cyn 1901: mae'r ddogfen yn cyfeirio at lofruddiaethau Umberto I, brenin yr Eidal a William McKinley, Arlywydd yr UDA, er enghraifft, fel pe bai'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio ymlaen llaw.[4] Mae teitl argraffiad cyntaf Sergei Nilus a ddosbarthwyd yn eang yn cynnwys y dyddiadau "1902-1903", ac mae'n debygol bod y ddogfen wedi'i hysgrifennu mewn gwirionedd ar yr adeg hon yn Rwsia.[5] Mae Cesare G. De Michelis yn dadlau iddo gael ei gynhyrchu yn y misoedd ar ôl cyngres Seionaidd Rwsiaidd ym mis Medi 1902, a'i fod yn wreiddiol yn barodi o ddelfrydiaeth Iddewig a olygwyd ar gyfer cylchrediad mewnol ymhlith gwrthsemitiaid hyd nes y penderfynwyd ei lanhau a'i gyhoeddi fel pe bai'n real. Mae hunan-wrthddywediadau mewn tystiolaethau amrywiol yn dangos bod yr unigolion dan sylw - gan gynnwys cyhoeddwr cychwynnol y testun, Pavel Krushevan - wedi cuddio gwreiddiau'r testun yn fwriadol ac wedi dweud celwydd amdano yn y degawdau wedi hynny.[6][7]
Os yw lleoliad y ffugiad yn Rwsia 1902-1903 yn gywir, yna fe'i hysgrifennwyd ar ddechrau cyfres o pogromau gwrth-Iddewig yn yr Ymerodraeth Rwsiaidd, lle lladdwyd miloedd o Iddewon neu ffoi o'r wlad, gyda nifer bach yn gwneud Aliyah ac ymsefydlu yn yr Yishuv yn y tir a ddaeth, maes o law yn Israel a Phalesteina. Roedd llawer o'r bobl y mae De Michelis yn amau eu bod yn ymwneud â'r ffugiad yn uniongyrchol gyfrifol am ysgogi'r pogromau.[8]
Er gwaethaf tystiolaeth mai ffug oedd y Protocolau fe'i hyrwyddwyg gan y Natsiaid a ffasgwyr eraill. Ymysg hyrwyddwyr llai amlwg oedd y diwydiannydd a chynhyrchydd ceir, Henry Ford a gyhoeddodd gyfieithiad gyda chyd-destun Americanaidd i'r llyfr yn 1920 o dan y teitl The International Jew.[9]
Camp ei lwyddiant
golyguMae llwyddiant a hirhoedledd y cyhoeddiad yn rannol gan ei fod yn defnyddio ystrywiau sy'n anodd eu mesur ac yn apelio at ragfarn cynhenid nifer o bobl. Mae felly'n gallu llithro i wahanol ddamcaniaethau gydgynllwyniol dros canrif wedi ei gyhoeddi.
Yn ôl Daniel Pipes,
The book's vagueness—almost no names, dates, or issues are specified—has been one key to this wide-ranging success. The purportedly Jewish authorship also helps to make the book more convincing. Its embrace of contradiction—that to advance, Jews use all tools available, including capitalism and communism, philo-Semitism and antisemitism, democracy and tyranny—made it possible for The Protocols to reach out to all: rich and poor, Right and Left, Christian and Muslim, American and Japanese.[10]
Noda Pipes bod y Protocolau yn pwysleisio themâu cylchol gwrth-semitiaeth cynllwyniol: "Mae Iddewon bob amser yn cynllunio", "Mae Iddewon ym mhobman", "Mae Iddewon y tu ôl i bob sefydliad", "Iddewon yn ufuddhau i awdurdod canolog, yr Henuriaid cysgodol", ac "Iddewon yw yn agos at lwyddiant.”[11]
Fel ffuglen yn y genre llenyddiaeth, dadansoddwyd y traethawd gan Umberto Eco yn ei nofel Foucault's Pendulum (1988):
"Mae pwysigrwydd mawr The Protocols yn y ffaith ei fod yn caniatáu i wrthsemitiaid ymestyn y tu hwnt i'w cylchoedd traddodiadol a dod o hyd i gynulleidfa ryngwladol fawr, proses sy'n parhau hyd heddiw. Roedd y ffugiad yn gwenwyno bywyd cyhoeddus lle bynnag yr ymddangosai; roedd yn "hunan-gynhyrchu; glasbrint a ymfudodd o un cynllwyn i'r llall."[12]
Damcaniaethau cynllwyn cyfoes
golyguYn ôl yr Holocaust Encyclopedia mae'r cyhoeddiad yn, "The Protocols of the Elders of Zion is the most notorious and widely distributed antisemitic publication of modern times. Its lies about Jews, which have been repeatedly discredited, continue to circulate today, especially on the internet. The individuals and groups who have used the Protocols are all linked by a common purpose: to spread hatred of Jews."[13]
Mae'r Protocolau yn parhau i fod ar gael yn eang ledled y byd, yn enwedig ar y Rhyngrwyd.
Ystyrir yn eang bod y Protocolau yn ddylanwadol yn natblygiad damcaniaethau cynllwynio eraill, ac mae'n ailymddangos dro ar ôl tro mewn llenyddiaeth gynllwynio gyfoes. Mae syniadau sy'n deillio o'r Protocolau yn cynnwys honiadau bod yr "Iddewon" a ddarlunnir yn y Protocolau yn orchudd i'r Illuminati,[1] Seiri Rhyddion, Priordy Sion neu, ym marn David Icke, "endidau all-ddimensiwn".[14] Yn ei lyfr A bydd y gwir yn eich rhyddhau (1995), haerodd Icke fod y Protocolau yn ddilys ac yn gywir.[15]
Mae'r Protocolau yn debyg i ddamcaniaeth cynllwyn Ewrabia.[16][17][18]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Freund, Charles Paul (February 2000), "Forging Protocols", Reason Magazine, http://www.reason.com/news/show/27585.html, adalwyd 2008-09-28.
- ↑ John Cull, Nicholas; Holbrook Culbert, David; Welch, David (2003). Propaganda and mass persuasion: a historical encyclopedia, 1500 to the present. ABC-CLIO. tt. p.323. ISBN 1576078205.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ Nodyn:Ref-notícia
- ↑ De Michelis 2004, tt. 62–65.
- ↑ De Michelis 2004, t. 65.
- ↑ De Michelis 2004, tt. 76–80.
- ↑ De Michelis, Cesare. The Non-Existent Manuscript. tt. passim.
- ↑ Hadassa Ben-Itto, The Lie that Wouldn't Die: The Protocols of The Elders of Zion, p. 280 (London: Vallentine Mitchell, 2005). ISBN 0-85303-602-0
- ↑ "The Protocols of the Elders of Zion". Yad Vashem. 2021. Cyrchwyd 19 Hydref 2023.
- ↑ Pipes 1997, t. 85.
- ↑ Pipes 1997, tt. 86–87.
- ↑ Eco, Umberto (1990), Foucault's Pendulum, London: Picador, p. 490.
- ↑ "Protocol of the Elders of Zion". Holocaust Encyclopedia. Cyrchwyd 19 Hydref 2023.
- ↑ Miren, Frankie (20 January 2015). "The Psychology and Economy of Conspiracy Theories". Vice. Cyrchwyd 9 December 2019.
- ↑ Offley, Will (29 February 2000). "David Icke And The Politics Of Madness Where The New Age Meets The Third Reich". Political Research Associates. Cyrchwyd 9 December 2019.
- ↑ Zia-Ebrahimi, Reza (2018). "When the Elders of Zion relocated to Eurabia: conspiratorial racialization in antisemitism and Islamophobia". Patterns of Prejudice 52 (4): 314–337. doi:10.1080/0031322X.2018.1493876. https://kclpure.kcl.ac.uk/ws/files/80805599/When_the_Elders_of_ZIA_EBRAHIMI_Accepted1September2017_GREEN_AAM.pdf.
- ↑ Bangstad, Sindre (2022). "Western Islamophobia: The origins of a concept". Routledge Handbook of Islam in the West (arg. 2). Routledge. ISBN 978-0-429-26586-0.
The “Eurabia” theory is a conspiracy theory directly analogous to the twentieth-century antisemitic forgery The Protocols of the Elders of Zion.
- ↑ Meer, Nasar (2014). Key Concepts in Race and Ethnicity (arg. Third). SAGE Publications Ltd. tt. 70–74.
These assessments have led Matt Carr (2011, p. 14) to note the ways in which ‘Eurabia bears many of the essential features of the invented antisemitic tract, the Protocols of the Elders of Zion, in its presentation of European Muslims as agents in a conspiracy of world domination.
Dolenni allanol
golygu- Protocols of the Elders of Zion ar wefan Holocaust Encyclopedia
- The Protocols of the Elders of Zion sianel Youtube amgueddfa Yad Vashem, 2021