Pentref bychan ym mhlwyf Llandaf ger Caerdydd oedd Pwll-coch. Mae bellach yn rhan o gymuned Treganna. Fe'i lleolid ger y gyffordd rhwng Windway Road a'r brif ffordd o Gaerdydd i Drelái (sef yr A4161 neu Heol Ddwyreiniol y Bont-faen), nid nepell o Bont Elái.

Pwll-coch
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreganna Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.48°N 3.22°W Edit this on Wikidata
Map
 
Arwydd tafarn y Tŷ Pwll Coch

Pwll yn Afon Elái oedd y 'Pwll Coch' gwreiddiol y dywedir iddo lenwi â gwaed wedi Brwydr Sain Ffagan yn 1648.[1] Yn sgil gwaith sythu ar gwrs yr afon (y 'new cut') nid yw'r pwll bellach yn bodoli. Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ardal Lecwydd yn Nhreganna hefyd yn cymryd ei henw o'r pwll.

Hyd at ran olaf y 19g, roedd Pwll-coch yn rhan o dreflan Trelái. Fe'i lleolid ar gyrion gorllewinol Cimdda Llandaf ('Ely Common' neu 'Llandaff Common' yn Saesneg), sy'n cyfateb yn fras i ardal fodern Parc Fictoria. Daeth Pwll-coch yn rhan o Dreganna pan ymgorfforwyd yr ardal honno'n rhan o Gaerdydd yn 1875. Ni ddaeth gweddill Trelái yn rhan o Gaerdydd tan 1922.

Pobl, masnach a diwydiant

golygu
 
Beddi'r teuluoedd Thomas a Jonas yn Llandaf

Hyd at ganol y 19g, nodweddid Pwll-coch gan fferm, tafarn (Tŷ Pwll Coch, a gaeodd yn 2012) ac ychydig o fythynnod. Yno hefyd yr oedd gweithdy'r teulu Jonas, seiri coed a seiri olwynion nodedig.[2] Roedd Elizabeth Jonas (1806–1865) yn wraig fusnes amlwg ac yn gefnogwr brwd i Fethodistiaeth Wesleaidd yn Nhrelái a Chaerdydd. Priododd â John Thomas (1804–1842), bragwr o Drelái. Ar ôl ei farwolaeth annhymig daliodd hi ati i redeg y Castle Brewery yng Nghaerdydd am dros ugain mlynedd. (Yn ddiweddarach, fe'i prynwyd gan gwmni Hancocks Brewery).[3] Roedd yn noddwraig hael i'r achosion Wesleaidd Cymraeg yn Nhrelái a Chaerdydd.[4] Mae Elizabeth wedi ei chladdu gyda'i gŵr a'i phlant ym mynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf; mae bedd y teulu Jonas gerllaw.[5]

Yn 1865 agorwyd melin bapur ar dir rhwng y Pwll Coch yn afon Elái a Rheilffordd De Cymru. Ond fe diddymwyd y cwmni hwn yn 1875. Aeth y felin i ddwylo Samuel Evans a Thomas Owen (ewythr a hanner brawd Owen Owen, y masnachwr enowog o Lerpwl).[6] Wedi marwolaeth Evans ailffurfiwyd y cwmni dan yr enw Thomas Owen & Co. Daliwyd ati i gynyrchu papur ar y safle hyd at 2000.[7] Mae ystâd eang o dai bellach yn cael ei chodi yno.[8]

Yn ystod y 1870au, agorodd Stephen Treseder (1834-1909) feithrinfa ym Mhwll-coch.[9] Ei henw gwreiddiol oedd 'Ely Road Nursery' ond maes o law newidiwyd hynny i 'Pwll Coch Nurseries'. Byddai'r feithrinfa'n darparu planhigion ar gyfer nifer o ystadau lleol, gan gynnwys ystâd Ardalydd Bute yng Nghastell Caerdydd.[10] Rhoddodd y blanhigfa ei henw i'r 'Pwll Coch Dahlia'.[11]

Cyfeiriadau

golygu

<cyfeiriadau/>

  1. 'Schedule of place names: N - R', Cardiff Records: volume 5 (1905), tt. 394-413. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48205 Archifwyd 2014-08-07 yn y Peiriant Wayback.
  2. 'Glamorganshire: To be sold by auction[dolen farw]', The Cambrian, 30 Tachwedd 1839.
  3. Lesley Richmond a Alison Turton (gol.),The Brewing Industry: A Guide to Historical Records, (Manchester, 1990), t. 167.
  4. T. J. Hopkins, 'Elizabeth Thomas, Glyn Teg Hall, Ely', Bathafarn, 20 (1965), 66–68.
  5. 'Memorial inscriptions: Llandaff Cathedral', Cardiff Records: volume 3 (1901), tt. 553-580. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48178 Archifwyd 2014-07-26 yn y Peiriant Wayback.
  6. Alun Eurig Davies, 'Paper-mills and paper-makers in Wales, 1700-1900', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 15.1 (1967), 1–30.
  7. Coflein: Ely Paper Mills; Ely Mills, Ely Paper Works, Ely, Cardiff.
  8. The Mill Archifwyd 2019-07-06 yn y Peiriant Wayback.
  9. Ray Desmond, Dictionary Of British And Irish Botantists And Horticulturalists (London, 1994), t. 691.
  10. 'Rural notes', The Leeds Mercury, 25 Hydref 1890.
  11. World Dahlia Directory Archifwyd 2018-12-20 yn y Peiriant Wayback.