Gŵyl Cyfryngau Celtaidd

Gŵyl flynyddol crwydrol ar gyfer cynnyrch cyfryngau (ffilm, teledu, radio, cyfryngau cymdeithasol) yn yr ieithoedd Celtaidd neu o'r gwledydd Celtaidd a chan gynnwys Galisia. Arferid ei alw'n Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Nod Gŵyl Cyfryngau Celtaidd (Saesneg: Celtic Media Festival), a elwid gynt yn Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd mewn ffilm, teledu, radio a'r cyfryngau newydd. Mae’r ŵyl yn ddathliad blynyddol dros dri diwrnod o ddarlledu a ffilm o’r Alban, Iwerddon, Cymru, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw (a chynhwysir Galisia hefyd er nad yw ei hiaith yn iaith Geltaidd). Sefydlwyd yr ŵyl yn 1980 yn dilyn gweledigaeth yr Albanwr Michael Russell. Mae pencadlys y sefydliad yn Trongate 103 Glasgow G1 5HD.[1]

Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
Enghraifft o'r canlynolgŵyl ffilm Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1980 Edit this on Wikidata
Lleoliadcenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.celticmediafestival.co.uk/ Edit this on Wikidata
 
Mike Russell sylfaenydd yr Ŵyl, ac yn hwyrach Aelod Senedd yr Alban i'r SNP (2019)

Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 1980, ar ynysoedd De Uist a Benbecula yn yr Alban. Cynhaliwyd y 30ain ŵyl ym mis Mawrth 2009 yng Nghaernarfon, Cymru. Cynhaliwyd y 40fed ŵyl yn Avimore, yr Alban. Mae’r ŵyl yn cyflwyno Gwobrau Torch i enillwyr 26 categori gwahanol. Cânt eu cyflwyno i raglenni o’r Gwledydd a’r Rhanbarthau Celtaidd ym mhob iaith leiafrifedig Geltaidd yn ogystal â Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Galiseg.[2]

Mae’r ŵyl hefyd yn cyflwyno Torch Aur i enillydd Gwobr Ysbryd yr Ŵyl – ffilm neu raglen deledu yn gyfan gwbl neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd sy’n crisialu ysbryd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Yn 1999 cyflwynwyd categorïau ar gyfer cynnyrch radio.[2]

Gelwid yr Ŵyl yn wreiddiol yn 1980 yn Festival of Celtic Ffilm[1] yna am sawl degawd yn Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd[3] Newidiwyd enw'r ŵyl i well adlewyrchu natur ac ehangder y diwydiant i Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd nes yr 2010au.

Ymddengys i'r trefnwyr cynnar greu The Association for Film and Television in the Celtic Countries.[4] Cedwir peth o archifau'r Ŵyl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fel rhan o archif y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.[4]

Hanes arwrol

golygu

Yng ngwanwyn 1979 roedd Michael Russell yn gweithio fel Cyfarwyddwr Sinema Sgire yn Ynysoedd Allanol Heledd. Cinema Sgire oedd yr unig gyfrwng yn yr Alban ar gyfer cynhyrchu fideo yn yr iaith Aeleg, ni chafodd yr un ei wneud gan y BBC na’r cwmnïau ITV a doedd gan neb arall fynediad i offer recordio fideo.

Sbardunodd cyfuniad o doriadau i wariant cyhoeddus a diffyg gwybodaeth, i Michael Russell deithio i'r Iwerddon, Cymru a Llydaw yn ystod gaeaf 1979 i ddarganfod cymaint ag y gallai am gynhyrchu rhaglenni neu ffilm yn yr ieithoedd brodorol yno, ac i weld pe bai eraill yn rhannu ei weledigaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac unioni'r anghydbwysedd yn erbyn yr ieithoedd Celtaidd. Ac yntau heb ddim byd ond brwdfrydedd, aeth Michael ymlaen â’i benderfyniad i gynnal y Gŵyl Ffilm Celtaidd (fel y'i galwodd) yn Ne Uist yn Ebrill 1980 gan roi dim ond tri mis iddo ei rhoi at ei gilydd.

Croesawodd lai na 50 o gynrychiolwyr i Neuadd Gymunedol Iochdar. Roedd rhaglen fach o seminarau, gwyliadau yn y digwyddiad ac mewn neuaddau pentref ledled Ynysoedd Heledd. Cafodd y digwyddiad lawer o gyhoeddusrwydd lleol a chenedlaethol.

Wedi llwyddiant yr ŵyl gyntaf, cytunwyd y dylid cynnal yr Ŵyl eto a chreu strwythur i hwyluso deialog rhwng y rhai a oedd yn gweithio ym myd teledu a ffilm yn y gwledydd hynny. Nid oedd radio wedi'i gynnwys eto, heb sôn am unrhyw beth digidol neu ar ap.[1]

Sianeli teledu yn ôl iaith Geltaidd

golygu
 
Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 1980, dwy flynedd cyn sefydlu S4C a heb bod sicrwydd y byddai sianel Gymraeg i'w chael

Yn yr iaith Geltaidd yn unig

golygu
Cymraeg: S4C
Llydaweg: Brezhoweb
Gaeleg: BBC Alba
Gwyddeleg: TG4

Yn rhannol mewn ieithoedd Celtaidd

golygu
Gwyddeleg: Raidió Teilifís Éireann (RTÉ)
Llydaweg: France 3 Ouest, Tébéo, TébéSud, TVR,ac hyd 2009 TV Breizh

Cadeiryddion

golygu
 
Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf 19 mlynedd cyn sefydlu TG4, y sianel iaith Gwyddeleg yn 1999
 
Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf 28 mlynedd cyn sefydlu BBC Alba yn 2008

Mae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd wedi’i chadeirio gan gynrychiolwyr o’r diwydiant darlledu:[5]

Cadeiriau Gwyddelig:

  • Alan Esslemont, TG4
  • Pádhraic Ó Ciardha, TG4
  • Neasa Ní Chinnéide, RTÉ
  • Bob Collins, RTÉ
  • Con Bushe, RTÉ
  • Muiris MacConghail, RTÉ
  • Cathal Goan, RTÉ

Cadeiryddion yr Alban:

  • Donald Waters, Teledu Grampian
  • Neil Fraser, BBC Scotland
  • Maggie Cunningham, BBC Scotland
  • Domhnall Caimbeul, MG ALBA

Cadeiryddion Cymru

Lleoliadau'r Ŵyl

golygu

Categorïau

golygu
  • Dogfennol / Ffeithiol : Cyfres Ffeithiol - Adloniant Ffeithiol - Dogfen Sengl - Hanes - Chwaraeon - Celfyddydau - Materion Cyfoes - Rhaglen Ddogfen Nodwedd
  • Drama : Drama Fer - Drama Sengl - Cyfres Ddrama
  • Categorïau Sgrin Bellach : Comedi - Animeiddio - Plant - Adloniant - Ffurf Fer - Rhaglen Cerddoriaeth Fyw
  • Sain : Gorsaf Radio'r Flwyddyn - Rhaglen Ddogfen - Hanes - Drama - Rhaglen Gerdd - Chwaraeon - Cyflwynydd y Flwyddyn - Comedi - Adloniant

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Who We Are". Gwefan Gŵyl Cyfryngau Celtaidd. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  2. 2.0 2.1 "What We Do". Gwefan Gŵyl Cyfryngau Celtaidd.
  3. "Holi actor mewn gwyl Geltaidd". BBC Cymru Newyddion Ar-lein. 6 Ebrill 2005.
  4. 4.0 4.1 "Ffeil 28/1. - Gwyl Ffilmiau: dogfennau 'The Association for Film and Television in the Celtic Countries' yn cynnwys agenda cyfarfod, Tachwedd 1982, copi". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  5. "Past Festivals". celticmediafestival.co.uk. Celtic Media Festival. Cyrchwyd 22 January 2021.
  6. Slattery, Laura (22 April 2016). "Ten TV trends at the Celtic Media Festival". The Irish Times. Cyrchwyd 27 November 2016.
  7. Spowart, Nan (16 April 2015). "Referendum coverage under spotlight at Celtic Media Festival". The National. Cyrchwyd 27 November 2016.
  8. "Gwyl Geltaidd yng Nghaerdydd". BBC Cymru. 4 Ebrill 2005.
  9. "Winners - Truro 2001". celticmediafestival.co.uk. Celtic Media Festival. Cyrchwyd 21 January 2021.
  10. "Celtic Film and Television Festival, Truro". iftn.ie. Irish Film & Television Network. 6 April 2001. Cyrchwyd 21 January 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato