Refferendwm datganoli i Gymru, 1979

Cynhaliwyd Referendwm Datganoli i Gymru ar y 1 Mawrth 1979.

Refferendwm datganoli i Gymru, 1979
Enghraifft o'r canlynolRefferendwm Edit this on Wikidata
Dyddiad1979 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata

Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967, a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Chaerffili. O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn yn niwedd Hydref 1973, ar ganol ymgyrch is-etholiad Govan, fis ar ôl rhyfel Israel-Aifft-Syria gan godi gwerth olew, ac yr oedd olew bellach wedi ei ddarganfod ar arfordir yr Alban, ac yn bwnc llosg yno. Roedd datganoli yn ôl ar yr agenda. Erbyn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974 roedd pleidlais yr SNP wedi codi i 30.4% ac fe etholwyd un ar ddeg o aelodau SNP a 3 aelod Plaid Cymru i'r senedd yn Llundain.

Sir Pleidlais Ie (%) Pleidlais Na (%)
Clwyd 12.1% 87.9%
Dyfed 28.1% 71.9%
Gwynedd 34.4% 65.6%
Gwent 12.1% 87.9%
Morgannwg Ganol 20.2% 79.8%
De Morgannwg 13.1% 86.9%
Gorllewin Morgannwg 18.7% 81.3%
Powys 18.7% 81.3%

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.