Is-etholiad Caerfyrddin, 1966

Cynhaliwyd Is-etholiad Caerfyrddin 1966 yng Nghaerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966.

Is-etholiad Caerfyrddin, 1966
Enghraifft o'r canlynolis-etholiad Seneddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Gorffennaf 1966 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Megan Lloyd George wedi bod yn aelod seneddol dros Etholaeth Caerfyrddin ers 1957 a hi enillodd y sedd ar 31 Mawrth 1966. Fodd bynnag, ni chymerodd unrhyw ran yn yr etholiad hwnnw am ei bod yn dioddef o'r cancr a bu farw ar yr 14 Mai 1966.

Doedd dim yng nghanlyniadau yr Etholiad cyffredinol yn awgrymu beth oedd i ddod. Enillodd y Blaid Lafur 32 o'r 36 sedd yng Nghymru.

Erbyn diwedd Ebrill sylweddolwyd pa mor sâl oedd Megan Lloyd George ac aeth Plaid Cymru ati yn drefnus ac yn sensitif i baratoi at is-etholiad. Dan gyfarwyddyd Cyril Jones (Cynrychiolydd) ac Islwyn Ffowc Elis (Swyddog y Wasg) aethpwyd ati i lunio cynlluniau manwl ar gyfer yr is-etholiad.

Yn yr is-etholiad hwn llwyddodd Plaid Cymru i ennill ei sedd seneddol gyntaf erioed. Gellir dadlau i'r fuddugoliaeth yma gael dylanwad ar y pleidleisio yn yr Alban flwyddyn yn ddiweddarach pan etholwyd Winnie Ewing yn Is-etholiad Hamilton ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban.

Is-etholiad Caerfyrddin, 1966
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Gwynfor Evans 16,179 39.0 +22 (approx.)
Llafur Gwilym Prys Davies 13,743 33.1 -12 (approx.)
Rhyddfrydol Hywel Davies 8,615 20.8 -5 (approx.)
Ceidwadwyr Simon Day 2,934 7.1 -4.5
Mwyafrif 2,436 5.87
Y nifer a bleidleisiodd 41,506
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd 12