Rhaglen Pobl y Goedwig
Mae Rhaglen Pobl y Goedwig (Forest Peoples Programme; FPP) yn elusen ac yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy'n hyrwyddo dull arall o reoli coedwigoedd, yn seiliedig ar barch at hawliau'r brodorion sy'n eu hadnabod orau. Gweithia'r FPP gyda phobl sy'n byw mewn coedwigoedd yn Ne America, Affrica, ac Asia, i'w helpu i sicrhau eu hawliau, adeiladu eu sefydliadau eu hunain a thrafod gyda ddatblygu a rheoli eu tiroedd mewn modd organig, cynaladwy[1]
Math o gyfrwng | sefydliad, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1990 |
Aelod o'r canlynol | Global Citizen Science Partnership |
Gweithwyr | 47, 42, 34, 28, 27 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Pencadlys | Moreton-in-Marsh |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Moreton-in-Marsh |
Gwefan | http://www.forestpeoples.org |
Amcangyfrifir bod coedwigoedd yn gorchuddio 31% o gyfanswm arwynebedd tir y blaned.[2] O hynny, mae 12% wedi'u dynodi ar gyfer cadwraeth amrywiaeth fiolegol.[2] Mae llawer o'r bobloedd, sy'n byw yn ycoedwigoedd hyn,ac sydd â hawliau iddynt, wedi datblygu ffyrdd o fyw a gwybodaeth draddodiadol sy'n parchu eu hamgylchedd.[3] Eto i gyd, mae polisïau coedwigoedd yn aml yn trin coedwigoedd fel tiroedd gwag a reolir gan y wladwriaeth ac sydd ar gael i'w 'datblygu': drwy eu gwladychu, torri coed, creu planhigfeydd enfawr, codi argaeau, mwyngloddiau, ffynhonnau olew, piblinellau nwy a busnes amaethyddol eraill [4] Mae'r tresmasu yma'n aml yn gorfodi'r brodorion allan o'u cartrefi yn eu coedwigoedd.[5] Mae llawer o gynlluniau cadwraeth i sefydlu gwarchodfeydd wrth gefn (wilderness reserves) hefyd yn gwadu hawliau pobl y goedwig.[5][6][7]
Hanes
golyguSefydlwyd Rhaglen Pobl y Goedwig (FPP) ym 1990 mewn ymateb i'r argyfwng coedwigoedd, yn benodol i gefnogi brwydrau pobl frodorol y goedwig i amddiffyn eu tiroedd a'u bywoliaeth. Cofrestrodd FPP fel cwmni hawliau dynol anllywodraethol Dutch Stichting ym 1997, ac yna'n ddiweddarach, yn 2000, fel elusen yn y DU, Rhif 1082158 a chwmni cyfyngedig trwy warant (Cymru a Lloegr) Reg. 3868836, gyda'r swyddfa gofrestredig yn y DU.
Cyhoeddiadau
golyguMae'r Forest Peoples Programme yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau, gan gynnwys adroddiadau, briffiau, llawlyfrau hyfforddi, papurau, cyflwyniadau i gyrff hawliau dynol, datganiadau, llythyrau, ceisiadau gweithredu brys, yn ogystal ag erthyglau newyddion.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Reuters AlertNet -". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06.
- ↑ 2.0 2.1 Nations, Food and Agriculture Organization of the United. "Global Forest Resources Assessment". www.fao.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-28. Cyrchwyd 2022-12-15.
- ↑ "This week in review … FFP e-newsletter highlights indigenous conservation efforts". 28 February 2012.
- ↑ "ILC Land Portal -". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-18.
- ↑ 5.0 5.1 Chatty, Dawn; Colchester, Marcus (2002). Conservation and Mobile Indigenous Peoples; Berghahn Books, Oxford. ISBN 9781571818423.
- ↑ CCMIN-AIPP. "Climate Change Monitoring and Information Network". ccmin.aippnet.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-17. Cyrchwyd 2022-12-15.
- ↑ "WRM in English - World Rainforest Movement". www.wrm.org.uy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-30.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Rhaglen Pobl y Goedwig yng Nghofrestr Ganolog Elusennau'r DU