Rhestr cyffuriau sydd wedi eu gwahardd yn y Gemau Olympaidd

Penderfynnir y rhestr cyffuriau sydd wedi eu gwahardd yn y Gemau Olympaidd[1] gan y World Anti-Doping Agency, a sefydlwyd yn 1999 er mwyn delio gyda'r broblem cynyddol o amhureddu ym myd chwaraeon. Mae'r sylweddau a'r dulliau sydd wedi eu gwahardd yn cael eu categoreiddio fel y canlynol: androgenau, amhureddu gawed, hormonau petid, symbylyddion, diwretigion, narcotigion, a channabinoidiau. Mae defnydd alcohol (ethanol) hefyd wedi ei wahardd mewn rhai chwaraeon, ond dim ond yn ystod cystadleuaeth.

Amhureddu gwaed golygu

Mae amhureddu gwaed yn golygu cwistrelliad celloedd gwaed coch neu ddeunyddiau gwaed eraill sy'n cynnwys celloedd gwaed coch, neu gynhwysydd ocsigen artiffisial. Gwneir hyn drwy alldynnu gwaed chwarawr ymhell cyn y gystadleuaeth, fel bod y corff yn gallu eu ailcyflenwi i'r lefel naturiol, cyn ail chwistrellu'r gwaed (mewn trallwysiad gwaed‎) cyn y gystadleuaeth. Mae hyn yn achosi lefel uwch an-naturiol o gelloedd gwaed coch yn y corff, sy'n gwella cludiad oscigen a dygner y chwaraewr ac felly caiff y dulliau rhain eu gwahardd.

Cyfryngau androgenic golygu

Mae'r cyfryngau androgenic sydd wedi eu gwahardd ynteu yn steroid anabolic, sy'n cynyddu testosterone a epitestosterone, ac felly'n gwella cryfder a dygner cyhyr, neu agonist beta-2 (gweler beta-agonist adrenergig). Mae andro, DHEA, stanozolol, testosterone, a nandrolone, neu eu deilliadau (gweler isod) hefyd yn steroidau anabolig ac wedi eu gwahardd. Gall agonist beta-2 weithredu fel bronchodilatorau a chynnyddu graddfa'r galon, yn ogystal â'u effeithiau androgenic gwan. Mae'r cyfryngau androgenic eraill sydd wedi eu gwahardd yn cynnwys bambuterol, clenbuterol, salbutamol, tibolone, zeranol, zilpaterol a rhai modylyddion derbynnydd androgen. Tra bod rhai o'r cyffuriau sydd wedi eu gwahardd yn rai mewndarddol, sy'n cael eu creu o fewn y corff, mae'r rhanfwyaf yn gyffuriau aildarddol a gaiff eu creu'n gemegol.

Steroidau androgenic anabolic aildarddol golygu

Dyma'r rhestr gyflawn o steroidau aildarddol (an-naturiol) a chyfryngau androgenic sydd wedi eu gwahardd (o 1 Ionawr 2008):

Caiff cyffuriau gyda strwythrau a gweithref fiolegol tebyg eu gwahardd hefyd oherwydd fod cyffuriau dylunydd yn cael eu datblygu'n gyson er mwyn gallu curo'r profion cyffuriau.

Steroidau androgenic anabolic mewndarddol golygu

Metabolion a isomerau golygu

  • 5 -androstane-3 ,17 -diol
  • 5 -androstane-3 ,17 -diol
  • 5 -androstane-3 ,17 -diol
  • 5 -androstane-3 ,17 -diol
  • Androst-4-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-4-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-4-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-4-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-5-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-5-ene-3 ,17 -diol
  • Androst-5-ene-3 ,17 -diol
  • 4-androstenediol
  • 5-androstenedione
  • epi-dihydrotestosterone
  • 3 -hydroxy-5 -androstan-17-one
  • 3 -hydroxy-5 -androstan-17-one
  • 19-norandrosterone
  • 19-noretiocholanolone

Hormonau a sylweddau eraill cysylltiedig golygu

Mae rhai hormonau peptid yn cynyddu swmp, cryfder, a nifer celloedd gwaed coch. Mae'r hormonau peptid erythropoietin (EPO), hormon twf (hGH), Ffactorau twf cyffelyb-Inswlin (IGF-1, ayb.), Ffactor twf Mechano (MGFs), chorionic gonadatrophin (wedi ei wahardd mewn dynion yn unog), somatotrophin (hormon twf), inswlin a corticotrophin, dynwaredwyr corticosteroid a'u ffactorau rhyddhau wedi eu gwahardd.

Gwrthwynebyddion beta-2 golygu

Mae'r holl wrthwynebyddion beta-2 a'u isomerau D- ac L-, wedi eu gwahardd. Ond, gellir deffnyddio formoterol, salbutamol, slmeterol, ac terbualine wrth eu anadlu yn unig gyda tystysgrif esgusodiad therapiwtig.

Gwrthwynebwyr a modylyddion hormonau golygu

Gall lefelau hormonau arbennig, megis testosteron, cael eu newid nid yn unig wrth ei weinyddu ond hefyd drwy altro'r hormonau cysylltiedig. Er enghraifft, mae'r estrogenau estrone ac estradiol yn cael eu creu'n fio-synthetig gan yr ensym aromatase, allan o androstenedione a testosteron, caiff y ddau yma eu creu o 17-hydroxyprogesterone. Felly, pan mae'r corff yn canfod lefelau isel o estrogen, mae'r cyfansoddion rhagsylweddyn 17-hydroxyprogesterone, androstenedione, a testosterone yn cael eu cynyddu. Yn yr un modd, drwy ymyrryd gyda derbynnydd hormon gellir cynyddu faint o'r hormon a gynhyrchir gan y corff. Oherwydd fod y hormonau yn gyd-ddibynol, caiff pob atalydd aromatase, yn cynnwys ond nid yn gyfyngdig i anastrozole, letrozole, aminoglutethimide, exemestane, formestane, a testolactone eu gwahardd. Mae modylyddion derbynyddion estrogen deeisol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngdig i raloxifene, tamoxifen a toremifene hefyd yn cael eu gwahardd. Mae clomiphene, cyclofenil, fulvestrant, a sylweddau gwrth-estrogenaidd eraill hefyd wedi eu gwahardd, yn ogystal ag atalyddion myostatin.

Symbylyddion golygu

Mae symbylyddion yn effeithio'r system nerfol canolig yn uniongyrchol, drwy gynnyddu llif y gwaed a graddfa'r galon. Mae'r symbylyddion a ceir eu gwahardd yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol:

Diwretigion a chyfryngau masgio golygu

Mae diwretigion, sy'n cynyddu cynhyrchiad wrin, a chyfryngau masgio, cyfansoddion cemegol sy'n ymyrryd gyda phrofion cyffuriau, yn cael eu gwahardd am ddau reswm. Yn gyntaf, drwy leihau dargadwad dŵr ac felly lleihau pwysau chwaraewr, gall gael cryn effaith mewn rhai chwaraeon, drwy gynyddu cyflymder y chwaraewr. Yn ail, gall gynyddu cynhyrchiad wrin leihau crynhodiad cyffuriau a'u metabolion yn y corff, gan ei wneud yn anoddach i'w datgelu. Mae cyfryngau masgio yn gweithio drwy wneud profion cyffuriau yn aneffeithlon gan arwain at ganlyniadau negatif-ffug.

Diwretigion golygu

Caiff y diwretigion, a chemegau eraill â strwythr tebyg neu adwaith fiolegol tebyg, eu gwahardd:

Narcotigion a channabinoids golygu

Mae poenliniaryddon narcotig yn lleihau'r synhwyriad a geir gyda anafiadau difrifol, gan alluogi i chwaraewyr barhau i hyfforddi neu gystadlu wedi derbyn anaf. Tra caniateir rhai cyffuriau lleddfu poen, gan gynnwys codeine, caiff y canlynol eu gwahardd:

Mae'r cannabinoids marijuana a hashish wedi eu gwahardd hefyd.

Glucocorticoids golygu

Mae glucocorticoids yn fath o corticosteroids sy'n effeithio metabolaeth carbohydrads, braster, a phrotinau, ac yn rheoli lefelau glycogen a phwysedd gwaed. Maent yn rhoi effaith pendant gwrth-enynnol sy'n achosi newid yn y meinwe cyswllt mewn ymateb i anafiadau. Gall effeithiau'r glucocorticoids felly guddio anafiad, gan arwain at anafiadau mwy difrifol mewn chwaraewyr. Oherwydd hyn a rheolaeth y metabolaeth, mae gweinyddiad unrhyw glucorticoid mewn unrhyw fodd yn cael ei wahardd ac mae angen tystysgrif esgusodiad therapiwtig i allu eu defnyddio. Nid oes angen esgusodiad ar gyfer ei ddefnyddio mewn modd argroenol.

Beta blockers golygu

Caiff beta blockers eu gwahardd yn ystod cystadleuaeth yn unig (gyda rhai eithriadau), mewn rhai chwaraeon. Maent yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol:

Nodiadau golygu