Rhestr digwyddiadau Cymru, 17g
Dyma restr o ddigwyddiadau yng Nghymru yn yr 17g.
Cronoleg
golygu- 1610au: Piwritaniaeth yn dechrau ennill tir, ar draul Anglicaniaeth
- 1617-1630 : William Vaughan yn ceisio sefydlu Cambriol, gwladfa Gymreig yn Newfoundland
- 1620 : Mae'r llong Mayflower yn hwylio i'r Amerig; ymhlith y Tadau Pererin, mae pump o Gymry
- 1621 : John Davies yn cyhoeddi Antiquae Linguae Britannicae Rudimenta
- 1630 : Cyhoeddi Y Beibl Bach gan yr esgob Richard Parry a'r Dr John Davies o Fallwyd.
- 1632 : John Davies yn cyhoeddi ei ramadeg Cymraeg-Lladin yr Antiquae Linguae Britannicae Dictionarum Duplex
- 1639 : Yr eglwys ymneilltuol gyntaf yn cael ei sefydlu yn Llanfaches
- 1641 : Dechrau Rhyfel Cartref Lloegr, fydd yn para hyd 1660
- 1644 : Y brenin Siarl I o Loegr yn caslgu milwyr yng Nghymru
- 1648 : Cipio Castell Penfro gan luoedd y Senedd; diwedd y rhyfel cartref cyntaf; yr ail ryfel yn dechrau; Brwydr San Ffagan; Cromwell yng Nghymru
- 1649 : Dienyddio'r brenin Siarl I; arglwyddiaeth Oliver Cromwell
- 1650-1653 : Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru
- 1653 : Llyfr y Tri Aderyn gan Morgan Llwyd o Wynedd
- 1660-1685 : Teyrnasiad Siarl II o Loegr, y cyntaf o frenhinllin Stuart; adfer Cyngor Cymru
- 1662-1662 : Erlid gweinidogion Piwritanaidd
- 1670 : Amcangyfrifir fod 370,000 o bobl yn byw yng Nghymru
- 1673 : Y Test and Corporation Act (yn ddeddf hyd 1828) yn gorfodi swyddogion o bob math i dyngu llw o ffydlondeb i Eglwys Loegr
- 1674 : Sefydlu'r Ymddiredolaeth Gymreig gan Thomas Gouge yn arwain at agor 87 'ysgolion elusennol' erbyn y flwyddyn ganlynol
- 1678 : Y Cynllwyn Pabaidd
- 1681 : Gorffen cyhoeddi Canwyll y Cymry. Gweithgareddau'r Ymddiredolaeth Gymreig yn gorffen
- 1682 : Crynwyr o Gymru yn ymfudo i Pennsylvania
- 1689 : Diddymu Cyngor Cymru
- 1699 : Sefydlu'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK)
- Troead y ganrif : 413,000 yw poblogaeth Cymru