Rhewlifiant Hwronaidd

Ymestynnodd yr oes rewlifol Hwronaidd (neu'r Rhewlifiad Hwronaidd) o 2,400 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan 2,100 m o flynyddoedd yn ôl. Mae'n ymestyn drwy'r cyfnodau daearegol y Sideraidd a'r Rhycaidd o'r era Paleoproterosöig. Digwyddodd y Rhewlifiad Hwronaidd yn union wedi "Digwyddiad Anferthol yr Ocsigen"; digwyddiad pan welwyd cynnydd sydyn yn yr ocsigen yn yr atmosffer a lleihad yn y methan.

Rhewlifiant Hwronaidd
Enghraifft o'r canlynolcyfnod o amser, Oes yr Iâ Edit this on Wikidata
Rhan oPaleoproterozoic Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 2401. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benMileniwm 2101. CC Edit this on Wikidata
Diagram yn dangos y 4 Eon, gyda'r oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaeld ceir y 5 prif Oes Iâ.

Er ffurfio'r Ddaear ar ddechrau'r Eon Hadeaidd oerodd y Ddaear yn araf, dros gyfnod o amser a chafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: yr Hwronaidd, y Cryogenaidd (Cryogenian), yr Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw. Ar wahân i'r 5 cyfnod hwn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew yn unman ar y Ddaear yn ystod y cyfnodau eraill.[1][2]

Geirdarddiad golygu

Daw enw'r gorgyfnod hwn o ddarganfyddiadau daearegol pwysig a wnaed yn Llyn Hwron, Gogledd America: sef olion tair haen o dyddodion rhewlifol wedi'u gwahanu gan dyddodion anrhewlifol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
  2. Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. t. 289. ISBN 978-3-540-26011-0.