Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

(Ailgyfeiriad o Ysgol Gyfun Ystylafera)

Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Mae'r ysgol wedi ei leoli ar dri campws yn Ystalyfera a Phort Talbot. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei llwyddiannau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, yn ogystal â'r academaidd.

Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur
Arwyddair Dysgu Gorau Dysgu Byw
Sefydlwyd 1969 Ysgol Gyfun Ystalyfera

2017 Ysgol Gymraeg Ystalyfera

Math Ysgol pob oed 3-18
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mrs Laurel Davies
Cadeirydd Cyng Alun Llywelyn
Lleoliad Glan yr Afon, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA9 2JJ
AALl Castell-nedd Port Talbot
Disgyblion tua 1300
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–18
Llysoedd Gwenllian, Hywel, Llywelyn
Lliwiau Glas a du
(du ar gyfer y chweched ddosbarth)
Gwefan www.ysgolystalyferabrodur.cymru

Yn Medi 2017 trawsnewidiodd yr ysgol yn ysgol pob oed drwy ymuno ag Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern, ac o Fehefin 2018 bydd y ddwy adran ar yr un campws ym mhentref Ystalyfera. Yn Medi 2018, bydd safle yn ne'r sir yn agor gyda disgyblion o ysgolion cynradd Cymraeg Rhosafan, Tyle'r Ynn a Chastell-nedd yn mynychu, Ysgol Gymraeg Bro Dur.

Sefydlwyd yr ysgol ym 1969, tra'n rhannu safle a staff ag Ysgol Sir Ystalyfera, a sefydlwyd yn 1896, yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Roedd dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Faesteg yn y de-ddwyrain i Benrhyn Gŵyr yn y de cyn i ysgolion Llanhari ac Ysgol Gyfun Gŵyr agor. Tan ddiwedd y 1990au, bu Ysgolion Ystalyfera a Gŵyr yn rhannu chweched dosbarth ar safle Ystalyfera. Enw'r chweched dosbarth yw 'Canolfan Gwenallt', er clod i'r prifardd D. Gwenallt Jones (1899-1968), a fynychodd yr Ysgol Sir yno.

Mae dalgylch presennol yr ysgol yn rhannu ffiniau â bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, gyda nifer o ddisbylion o Aber-crâf ac Ystradgynlais yn ne-orllewin sir Powys hefyd yn mynychu'r ysgol.

Fel ysgol benodedig Gymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg y mae'r mwyafrif o'r gwersi'n cael eu cynnal, er bod modd dilyn rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg.

Cyn-ddisgyblion o nôd

golygu
Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera

Dolenni allanol

golygu