Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru oedd Is Dulas. Gyda chymydau'r Creuddyn ac Uwch Dulas, roedd yn ffurfio cantref Rhos.

Tirwedd sy'n nodweddiadol o gwmwd Is Dulas: Tre-pys-llygod ger Llangernyw

Dynodai afon Dulas rhan isaf y ffin rhwng Is ac Uwch Dulas, o'i aber yn y môr yn Llanddulas (ger Bae Colwyn heddiw) i fyny i'r bryniau ger Betws yn Rhos. I'r de ffiniai â chymydau Uwch Aled ac Is Aled yng nghantref Rhufoniog ac i'r dwyrain â chantref Tegeingl gyda rhan isaf afon Clwyd yn ffurfio ffin naturiol. Yn y gogledd roedd ganddo arfordir hir ar Fôr Iwerddon; yma y ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr enwog.

Y brif ganolfan eglwysig oedd Abergele, ar yr arfordir. Roedd canolfannau eraill yn cynnwys Llangernyw, Llanfair Talhaiarn a Llansannan.

Am ran helaeth yr Oesoedd Canol bu'r cwmwd yn rhan o Wynedd Is Conwy yn y Berfeddwlad. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o arglwyddiaeth Dinbych ac wedyn yr hen Sir Ddinbych. Gorwedd y rhan fwyaf o'r ardal yn Sir Ddinbych heddiw, ond mae rhannau gorlelwinol yn gorwedd yn sir Conwy.

Gweler hefyd

golygu