Rhydderch Hael

Brenin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd
(Ailgyfeiriad o Rhydderch Hen)

Brenin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Rhydderch Hael, hefyd Rhydderch Hen (bu farw tua 614). Roedd yn fab i'r brenin Tudwal Tudclyd, ŵyr Dyfnwal Hen. Rheolai o gaer Allt Clud (ger Dumbarton yng nghanolbarth yr Alban).

Rhydderch Hael
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Ystrad Clud Edit this on Wikidata
Bu farw614 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddlist of kings of Strathclyde Edit this on Wikidata
TadTudwal Tudclyd Edit this on Wikidata
PlantCystennin, brenin Ystrad Clud Edit this on Wikidata
Clochoderick (Maen Rhydderch) yn Swydd Renfrew. Yn ôl traddodiad, mae'n dynodi man claddu Rhydderch Hael.

Yn Achau'r Saeson ceir cofnod amdano'n ymladd gyda Urien Rheged, Gwallawg, a Morgan yn erbyn Hussa, brenin Northumbria tua 590. Ceir cyfeiriad ato hefyd gan Adamnan yn ei waith Buchedd Colum Cille, lle dywed ei fod yn gyfaill i Colum Cille. Yn ôl Buchedd Cyndeyrn bu ef a Sant Cyndeyrn farw yr un flwyddyn. Ceir cyfeiriad ato yn Bonedd Gwŷr y Gogledd hefyd.

Yn ddiweddarch ceir cyfeiriadau ato yn y chwedlau ynghylch Myrddin a geir yng ngherddi Llyfr Du Caerfyrddin. Dywedir mai ef oedd yn fuddugol ym Mrwydr Arfderydd yn erbyn Gwenddoleu fab Ceidio. Yn y Trioedd ceir cyfeiriad at anrheithio ei lys gan Aiddan (Áedán mac Gabráin), brenin Dál Riata.

Cyfeiriadau golygu

  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991)