Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford
Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford (1094 – 15 Ebrill 1136) oedd mab Gilbert Fitz Richard de Clare ac Alice (Adeliza) de Claremont. Sefydlodd briordy Tonbridge. Roedd arglwyddiaeth Ceredigion ym meddiant Richard.
Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford | |
---|---|
Ganwyd | 1094 Clare |
Bu farw | 15 Ebrill 1136 Y Fenni |
Galwedigaeth | Arglwyddi'r Mers |
Tad | Gilbert Fitz Richard |
Mam | Alice de Clermont |
Priod | Alice de Meschines |
Plant | Gilbert de Clare, 1st Earl of Hertford, Roger de Clare, Alice de Tunbridge, Mabel ferch Richard de Clare, Q111442414, Rohese de Clare |
Llinach | De Clare |
Roedd gwrthryfel Cymreig yn erbyn Normaniaid de Cymru wedi torri allan. Ar 1 Ionawr 1136 enillodd y Cymry dan arweinyddiaeth Hywel ap Maredudd, arglwydd lleol yng ngorllewin Brycheiniog, fuddugoliaeth drawiadol dros luoedd arglwyddi Normanaidd Gŵyr ar safle rhwng Casllwchwr ac Abertawe. Roedd Richard i ffwrdd o'i arglwyddiaeth ar y pryd. Dychwelodd o'r Mers i dde Cymru yn Ebrill ac yna, gan anwybyddu rhybuddion o'r perygl gan Brian FitzCount o Went Uchaf, gyrrodd yn ei flaen i Geredigion gyda llu bychan. Doedd o ddim wedi mynd ymhell pan gafodd ei ladd mewn ymosodiad o'r cudd gan gwŷr Gwent dan Iorwerth ab Owain a'i frawd Morgan ab Owain, wyrion Caradog ap Gruffudd, mewn coedwig o'r enw Coed Grano, ger Abaty Llanantoni, Y Fenni.
Roedd y newydd am farwolaeth Richard yn sbardun i Owain Gwynedd, fab Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, i oresgyn arglwyddiaeth Richard yng Ngheredigion. Mewn cynghair a Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, yn ymyl Aberteifi. Cipiwyd tref Normanaidd Aberteifi a'i llosgi, ac enciliodd Adelize, gweddw Richard, i gastell y dref, a amddiffynnwyd yn llwyddiannus gan Robert fitz Martin. Cawsai'r arglwyddes ei hachub o'r diwedd gan Miles o Gaerloyw a arweiniodd lu yno i godi'r gwarchae a'i chymryd i ddiogelwch yn Lloegr.
Olynwyd Richard gan Gilbert de Clare (1115-1153), yr hynaf o'i ddau fab. Olynwyd Gilbert yn ei dro gan yr ail fab, Roger de Clare (1122-1173).
Llyfryddiaeth
golygu- John Edward Lloyd, History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (3ydd argraffiad, Llundain, 1939), cyf.2