Dic Jones

bardd ac amaethwr

Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Dic Jones (30 Mawrth 1934[1]18 Awst 2009[2]). Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd.

Dic Jones
Ganwyd30 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Tre'r-ddôl Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 2009 Edit this on Wikidata
Blaenannerch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffermwr, bardd Edit this on Wikidata
PlantBrychan Llŷr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Richard Lewis Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion, a threuliodd ran helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, 5 milltir i'r gogledd o Aberteifi.[2] Dysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie.[1]

Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol yn ystod yr 1950au. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym 1960.[1]

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i awdl Cynhaeaf.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd Alan Llwyd a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau.

Cyhoeddodd hanes ei fywyd hyd 1973 yn ei gyfrol Os Hoffech Wybod ym 1989.[1]

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol. Oherwydd ei salwch, dim ond mewn un eisteddfod y cafodd weinyddu.[3]

Bu farw ei ferch Esyllt, plentyn Syndrom Down, yn ddim ond tri mis oed.[1] Roedd yn dad i'r cerddor a chyflwynydd Brychan Llŷr, yr actores a'r gantores Delyth Wyn.[4]

Bu farw Dic Jones, yn 75 mlwydd oed, ar 18 Awst 2009 yn ei gartref ym Mlaenannerch, Ceredigion. Goroeswyd ef gan ei dri mab, dwy ferch a'i wraig Siân.[1] Cynhaliwyd angladd breifat ddydd Sadwrn yng Nghapel Blaenannerch. Cynhaliwyd Oedfa Goffa yng Nghapel Tabernacl, Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 5 Medi 2009 am 2 o'r gloch.[5]

Llyfryddiaeth

golygu

Cerddi

golygu

Hunangofiant

golygu

Llyfryddiaeth amdano

golygu

Ffynonellau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5  Dic Jones: Archdruid of Wales and master poet in the strict metres of Welsh prosody. The Independent (21 Awst 2009).
  2. 2.0 2.1  Archdderwydd Cymru wedi marw. BBC Cymru (18 Awst 2009).
  3. "Dic Jones wedi marw". Golwg360. 2009-08-18. Cyrchwyd 2024-08-15.
  4. Angladd breifat i'r Archdderwydd , BBC Cymru, 22 Awst 2009. Cyrchwyd ar 22 Mai 2016.
  5. "Click here to view the tribute page for RICHARD JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-15.

Dolen allanol

golygu