Richard Simcott
Mae Richard William Simcott (ganed 27 Ionawr 1977)[1] yn poliglot o Sais o Gaer sydd bellach yn byw yng ngweriniaeth Gogledd Macedonia. Mae'n galw ei hun yn "language addict".[2] Mae'n siarad dwsinnau o ieithoedd cenedlaethol a lleiafrifiedig a hefyd yr iaith a ddyfeisiwyd, Esperanto.[3] Yn 2015 enwodd y sefydliad Almaeneg, y Goethe-Institut ef yn "Llysgennad dros amlieithrwydd".[4][5] Yn wir, cyfeirir ato fel hyperglot gan ei fod yn siarad cynnifer o ieithoedd.
Richard Simcott | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ionawr 1977 Caer |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, darlithydd |
Gwefan | http://speakingfluently.com |
Cyfeiriodd cylchgrawn Harper Collins ato fel "Un o bobl fwyaf amlieithog y Deyrnas Unedig".[6] Yn ogystal â'r ieithoedd y mae'n eu siarad yn rhugl, mae hefyd wedi astudio mwy na 50 o ieithoedd yn weithredol ar ryw adeg yn ei yrfa.[6]
Mewn eitem ar BBC Cymru Fyw yn 2017 o'r enw, Y Dyn sy'n siarad 25 iaith yn rhugl, nododd ei fod yn siarad oddeutu 50 iaith gan ddweud iddo ddysgu Slofaceg "mewn dau wythnos" gan ei fod yn siarad Tsieceg a Serbeg eisoes. Nododd ei fod wedi dysgu tua 50 iaith i wahanol safon.[7]
Gyrfa
golyguGaned ef yn Lloegr ar y Gororau â Cymru, wedi dysgu Saesneg fel mamiaith frodorol, ddysgodd hefyd Cymraeg ac yna Ffrangeg yn ifanc. Ailbriododd ei dad wraig o Wlad Thai a arweiniodd at ddysgu'r iaith Thaieg yn ystod teithiau i Wlad Thai pan oedd yn ddeg oed. Ers hynny mae wedi dysgu llawer mwy o ieithoedd, gan gynnwys Tyrceg, Pwyleg, Hebraeg, Tsieinëeg, Islandeg, Macedoneg[8] ac Esperanto.[9][6]
Mae hefyd wedi cynnal cynadleddau amlieithog rhyngwladol (y 'Polyglot Conference') ac mae'n aelod blaenllaw o fwrdd y cynadleddau hynny.[10]
Bu Simcott yn gweithio gydag ieithoedd yng ngwasanaeth diplomyddol Prydain, bu'n rheolwr cynnyrch i Emoderation , yn ogystal â chyfarwyddwr iaith Polpea. Cafodd sylw yn "Word Play", y ffilm ddogfen o Ganada am polyglots [11] ynghyd ag Axel Van Hout, Alexandre Coutu a Steven Kaufmann. Mae gan Simcott ei flog ei hun, o'r enw Speaking fluently ac mae wedi cyhoeddi llyfr ar straeon byrion Ffrengig.
Podlediad
golyguYn 2023 cychwynodd bodlediad ei hun o'r enw The Language Podcast a ddarlledodd am y tro cyntaf ym mis Medi y flwyddyn honno. Ymysg ei westeion bu Len Pennie (bardd Sgoteg) a David Crystal.[12]
Siarad Cymraeg
golyguMae Simcott wedi ymddangos ar y cyfryngau Cymraeg a Chymreig sawl gwaith yn trafod amlieithrwydd neu Macedonia. Mewn eitem amdano ar BBC Cymru Fyw lle siaradodd sawl iaith wahanol, meddai yn Gymraeg, "Mae dysgu iaith newydd yn wych. Mae ganddom ni'r siawns i siarad gyda phobl newydd. mae dim ond yn agor drysau a ffenestri newydd ar y byd," [7] Dywedodd bod dysgu Cymraeg yn "bwysig iawn" gan bod ei Nain yn dod o Gaernarfon yn wreiddiol ac iddo glywed y Gymraeg ar y radio a'r teledu ac yn y ddinas wrth gael ei fagu yng Nghaer. Nododd iddo ddysgu gan bobl Cymru ei bod yn bosib magu plentyn i siarad dwy iaith. Dywed fod ei blentyn, sy'n cael ei fagu ym Macedonia, yn siarad Ffrangeg a Saesneg gydag e a Macedoneg gyda'r fam, ac "ychydig bach o Gymraeg".[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Richard William SIMCOTT - Personal Appointments". Tŷ'r Cwmnïau. Cyrchwyd 2020-01-27.
- ↑ "Richard Simcott - Life in multiple languages [EN] - PG 2017". Sianel Youtube Polyglot Gathering. 2017.
- ↑ Peter Baláž, Cynhadledd Polyglot, Ljublijana, Eŭropa Bulteno, t. 4, n-ro 187, Rhagfyr 2018.
- ↑ Polyglot conference 2018 : "Organization" Archifwyd 2019-01-22 yn y Peiriant Wayback Archifwyd 2019-01-22 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Williams, Martin "Natural born linguists: what drives ", The Guardian, 5 Medi 2013, cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 John Fotheringham, "Interview with Hyperpolyglot Richard Simcott of SpeakingFluently.com", 16 Ionawr 2015.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 "Richard Simcott: Y dyn sy'n siarad 25 iaith yn rhugl". BBC Cymru Fyw. 9 Tachwedd 2017.
- ↑ Alex Gentry, "My Favorite Language Learners Series: Richard Simcott", Medium, 9 Rhagfyr2016, cyrchwyd 21 Ionawr 2019
- ↑ Luca Lampariello, "An extraordinary story : Richard Simcott Archifwyd 2018-05-01 yn y Peiriant Wayback Archifwyd 2018-05-01 yn y Peiriant Wayback", Thepolyglotdream.com, 13 Ionawr 2013, cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
- ↑ Jimmy Mello, "Richard Simcott – A polyglot from Chester and a life-long language learner speaking Portuguese Archifwyd 2019-01-17 yn y Peiriant Wayback Archifwyd 2019-01-17 yn y Peiriant Wayback, MyPolyglot, 9 Gorffennaf 2015, cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
- ↑ Video: 16x9 - Word Play : Hyperpolyglots speak so many anguages, YouTube. Google, Inc, 7 Mai 2012, cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
- ↑ "The Language Podcast- Ep. 1 - Old English". Podlediad The Language Podcast ar Youtube. Medi 2023.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Richard Simcott Archifwyd 2019-01-22 yn y Peiriant Wayback
- @Speaking Fluently ar Twitter
- Richard Simcott ar Facebook