R. Gerallt Jones
bardd, nofelydd (1934-1999)
(Ailgyfeiriad o Robert Gerallt Jones)
Llenor Cymraeg oedd Robert Gerallt Hamlet Jones, yn ysgrifennu fel R. Gerallt Jones (11 Medi 1934 - 9 Ionawr 1999).[1]
R. Gerallt Jones | |
---|---|
Ganwyd | 11 Medi 1934 Nefyn |
Bu farw | 9 Ionawr 1999 Dôl-y-bont |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Nefyn, Gwynedd, yn fab i ficer Anglicanaidd. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, gan ysgrifennu traethawd M.A. ar waith Robert Graves. Tra'r oedd yno, lansiodd gylchgrawn Yr Arloeswr gyda Bedwyr Lewis Jones. Bu'n brifathro Coleg Athrawon Mandeville yn Jamaica o 1965 hyd 1967, yna'n Warden Coleg Llanymddyfri hyd 1976, cyn dod yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth hyd 1989. O 1989 hyd 1995, bu'n warden Plas Gregynog.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1977 a 1979.
Cyhoeddiadau
golygu- Ymysg y Drain (1959), cerddi
- Y Foel Fawr (1960), nofel
- Yn Frawd i'r Eos Druan (1961), ysgrifau llenyddol
- Cwlwm (1962), cerddi
- Nadolig Gwyn (1962), nofel
- Gwared y Gwirion (1966), straeon byrion
- Jamaican Landscape (1969), cerddi Saesneg
- Cysgodion (1972), cerddi
- Ansawdd y Seiliau (1972), ysgrifau llenyddol
- Triptych (1977), nofel
- Jamaican Interlude (1977), hunangofiant Saesneg
- Gwyntyll y Corwynt (1978), nofel
- Cafflogion (1979), nofel
- T. H. Parry-Williams, cyfres Writers of Wales (1980), astudiaeth lenyddol
- Dyfal Gerddwyr y Maes (1981), cerddi
- Eliot, cyfres Y Meddwl Modern (1982), astudiaeth lenyddol
- Cerddi 1955-89 (1989)
- Seicoleg Cardota (1989), ysgrifau llenyddol
- T. H. Parry-Williams, cyfres Dawn Dweud (1999), cofiant
Cyhoeddiadau ar ôl marwolaeth
golygu- Dyddiaduron India (2003), llyfr taith
- O Wythnos i Wythnos (2010), detholiad o ysgrifau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (13 Ionawr 1999). Obituary: R. Gerallt Jones. The Independent. Adalwyd ar 21 Mai 2013.