Rosalind Elias
Mae Rosalind Elias (ganwyd 13 Mawrth 1929) yn ganwr opera o'r Unol Daleithiau. Cafodd gyrfa hir a chlodfawr fel mezzo-soprano yn y Metropolitan Opera, Dinas Efrog Newydd.[1]
Rosalind Elias | |
---|---|
Rosalind Elias yn Carmen | |
Ganwyd | 13 Mawrth 1930 Lowell |
Bu farw | 3 Mai 2020 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, canwr |
Math o lais | mezzo-soprano |
Cefndir
golyguGaned Rosalind Elias yn Lowell, Massachusetts,[2] y 13eg a'r plentyn ieuengaf o deulu o Americanaid gyda'i gwreiddiau yn Libanus. Derbyniodd ei gwersi canu cyntaf yn Lowell gan Miss Lillian Sullivan. Astudiodd yn y New England Conservatory. Ymddangosodd gyda New England Opera o 1948 i 1952. Yna, aeth i'r Eidal i gwblhau ei hastudiaethau lleisiol yn Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain, gyda Luigi Ricci a Nazzareno De Angelis.[3]
Gyrfa
golyguGwnaeth ei début yn y Metropolitan Opera fel Grimgerde yn Die Walküre gan Wagner, ar 23 Chwefror, 1954. Bu iddi ganu 687 perfformiad o 54 rôl yno, gan gynnwys:[4]
- Bersi yn Andrea Chénier gan Umburto Giordano
- Rôl y teitl yn Carmen, Georges Bizet
- Rosina yn Barbwr Sevilla, Gioachino Rossini
- Laura yn La Gioconda, Amilicare Ponchielli
- Suzuki yn Madama Butterfly Giacomo Puccini
- Siebel yn Faust, Charles Gounod
- Nancy yn Martha, Friedrich von Flotow
- Cherubino a Marcellina yn Le nozze di Figaro Wolfgang Amadeus Mozart
- Dorabella yn Così fan tutte, Mozart
- Octavian yn Der Rosenkavalier, Richard Strauss
- Olga yn Eugene Onegin, Pyotr Ilyich Tchaikovsky
- Marina yn Boris Godunov, Modest Mussorgsky
- Fenena yn Nabucco, Giuseppe Verdi
- Azucena yn Il trovatore, Verdi
- Amneris yn Aida, Verdi
- Charlotte yn Werther, Jules Massenet
- Y Wrach yn Hänsel und Gretel, Engelbert Humperdinck
Creodd rôl Erika yn opera Samuel Barber, Vanessa, ar 15 Ionawr, 1958, a rôl Charmian yn Antony a Cleopatra gan yr un cyfansoddwr, ar gyfer agor Tŷ Opera Metropolitan newydd yn y Lincoln Centre, ar 16 Medi, 1966.[5]
Perfformiodd Elias dramor hefyd, yn arbennig fel La Cenerentola gyda Opera cenedlaethol yr Alban ym 1970, fel Carmen yn Opera Fienna ym 1972, ac fel Baba y Twc yn The Rake's Progress Igor Stravinsky yn Ngŵyl Glyndebourne ym 1975.
Bu Elias yn chware rôl yr Hen Farwnes yn Vanessa, Samuel Barber. Gan berfformio'r gwaith am y tro cyntaf yn Opéra de Monte-Carlo, a Los Angeles Opera yn 2004 ac yn Opera Dinas Efrog Newydd yn 2007.
Chwaraeodd Elias rôl "Heidi Schiller" mewn adfywiad o sioe gerdd James Goldman a Stephen Sondheim Follies, yng nghanolfan John F. Kennedy yn 2011. Fe wnaeth ei début ar Broadway yn 82 mlwydd oed pan symudodd y sioe gerdd yno rhwng Awst 2011 a Ionawr, 2012.[6]
Recordio
golyguYm myd darlledu byw, enillodd perfformiad Elias fel Bathsheba o dan arweiniad Alfredo Antonini ar gyfer opera CBS o opera Ezra Laderman a David Wept, ganmoliaeth feirniadol i Ellias ym 1971
Gwnaeth nifer o recordiadau, gan gynnwys Cherubino yn Le nozze di Figaro o dan Erich Leinsdorf, Preziosilla yn La forza del destino a Laura yn La Gioconda, gyferbyn â Zinka Milanov, Giuseppe Di Stefano a Leonard Warren. Recordiodd Suzuki yn Madama Butterfly ddwywaith, yn gyntaf gyferbyn ag Anna Moffo ym 1957, ac yna gyferbyn â Leontyne Price ym 1962. Recordiodd Azucena yn Il trovatore gyferbyn â Leontyne Price, Richard Tucker a Giorgio Tozzi, yn ogystal â Maddalena yn Rigoletto, Meg Page yn Falstaff (dan Georg Solti ym 1963) a Judith yng Nghastell Bluebeard's Bartók. Hi oedd yr unawdydd mezzo / contralto mewn cyngherddau fel Roméo et Juliette Berlioz ac Offeren Dros y Meirw Verdi. Enillodd recordiad Figaro o dan Leinsdorf wobr Grammy am y Recordiad Clasurol Gorau, Cast Opera neu Choral, yn yr Ail Wobrau Grammy Blynyddol ym 1959.[7]
Ar 7 Ebrill, 2019 derbyniodd gwobr am gyfraniad arbennig yng Ngwobrau blynyddol Opera News yn Efrog Newydd.[4][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Goodwin, N., & Eliassen, M. (2013, July 25). Elias, Rosalind. Grove Music Online adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Rosalind Elias Bywgraffiad ar IMDb adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Rosalind Elias Bywgraffiad ar All Music adalwyd 1 Mai. 2019
- ↑ 4.0 4.1 The Fourteenth Annual OPERA NEWS Awards: Rosalind Elias MEZZO-SOPRANO gan F. Paul Driscoll, Ebrill 2019 Archifwyd 2019-05-02 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ .4 Major Met Opera Premieres Featuring Rosalind Elias adalwyd 2 mai 2019
- ↑ YN Times Broadway Debut After a Life of Opera gan ANTHONY TOMMASINI 23 Hydref, 2011 adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Rosalind Elias ar Discogs adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Ailyn Pérez and Rosalind Elias Among 2019 Opera News Awards Honorees adalwyd 2 Mai 2019