Rowland Huw Pritchard

cyfansoddwr a aned yn 1812

Roedd Rowland Huw Prichard (15 Ionawr 1812[1][2] - 25 Ionawr 1887) yn wehydd a cherddor Cymreig.[3]

Rowland Huw Pritchard
Ganwyd15 Ionawr 1812 Edit this on Wikidata
Llangywer Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1887 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr, cerddor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHyfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Rowland Pritchard yn Graienyn, Llangywer yn fab i Richard Prichard a Catherine Rowland ei wraig. Roedd yn ŵyr i'r bardd Rolant Huw ar ochr ei fam. Cafodd ei fedyddio yn Bethel, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Bala gan Thomas Charles [4] ar 22 Ionawr 1812.[1]

Gyrfa golygu

Roedd Prichard yn gweithio fel gwehydd gan gadw siop werthu brethyn yn y Bala am sawl flwyddyn. Ym 1880 symudodd i Dreffynnon i weithio fel swyddog i gwmni gwneud gwlanen The Welsh Flannel Manufacturing Co.

Cerddor golygu

 
Hyfrydol

Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a fu yn amlwg yn ei gyfraniad i gerddoriaeth grefyddol y Methodistiaid Calfinaidd trwy ei oes. Roedd yn arwain y canu yn Sasiynau'r Bala ac yn dysgu cerddoriaeth yn yr ysgol Sul. Wedi dyfeisio'r tonic sol-ffa gan John Curwen bu Prichard yn frwd dros ei gyflwyno i'r ysgolion Sul fel modd hawdd o ddysgu cerddoriaeth ac i wella canu emynau yng ngwasanaethau ei enwad. Pan gafodd Curwen, gwahoddiad, i Gymanfa Gerddorol a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun dan nawdd William Cornwallis-West, cafodd Pritchard wahoddiad i gyfarfod ag ef i dderbyn cyfarwyddyd ar y ffordd orau o gyflwyno'r dull newydd o addysg gerddorol.[5]

Cyhoeddodd lawer am gerddoriaeth. Ym 1844 cyhoeddodd Cyfaill y Cantorion a oedd yn cynnwys tua 40 o donau. Roedd ei lyfryn Y Fasged Gerddorol, yn grynodeb o egwyddorion cerddoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyhoeddodd nifer fawr o donau i emynau ac anthemau a phrofodd yn boblogaidd iawn yn y capeli anghydffurfiol. Mae'n debyg mae ei emyn dôn fwyaf poblogaidd yw Hyfrydol sy'n cael ei ddefnyddio fel tôn i'r emynau "O! Llefara, addfwyn Iesu" (William Williams Pantycelyn) yn Gymraeg neu "Love Divine, all loves excelling" (Charles Wesley) yn Saesneg

Teulu golygu

Priododd Elisabeth Roberts ym 1840 cawsant un mab.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Nhreffynnon yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Pedr, Treffynnon. Talwyd am gofeb i nodi ei fedd trwy gasgliad cyhoeddus.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Family Search, cofnod bedydd Rowland Hugh Prichard Richards
  2. Yn ôl ei gofnod bedd fe'i ganwyd ym 1812 nid 1811, fel mae nifer o ffynonellau diweddarach yn ddweud
  3. "PRICHARD, ROWLAND HUW (1811 - 1887), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-08.
  4. "MARWOLAETH CERDDOR CYMREIG - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1887-02-02. Cyrchwyd 2019-09-08.
  5. "Y DIWEDDAR ROWLAND HUGH PRITCHARD O'R BALA - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1887-02-16. Cyrchwyd 2019-09-08.
  6. "dim teitl - Y Goleuad". John Davies. 1904-01-29. Cyrchwyd 2019-09-08.

Dolenni allanol golygu

YouTube: Bryn Terfel a chôr yn canu Marchog Iesu yn llwyddiannus ar y dôn Hyfrydol