Rudolf Hilferding
Gwleidydd Awstriaidd-Almaenig oedd Rudolf Hilferding (10 Awst 1877 – Chwefror 1941) a oedd yn un o ladmeryddion Awstro-Farcsiaeth. Gwasanaethodd yn swydd gweinidog ariannol yr Almaen ym 1923 ac ym 1928.
Rudolf Hilferding | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1877 Fienna |
Bu farw | 11 Chwefror 1941 Paris |
Dinasyddiaeth | Awstria, Gweriniaeth Weimar |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd, llenor, meddyg |
Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, Reich Minister of Finance, Reich Minister of Finance |
Adnabyddus am | Finance Capital |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria |
Priod | Margarete Hilferding, Rose Hilferding |
Plant | Peter Milford-Hilferding, Karl Hilferding |
Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig rhyddfrydol. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna, ac yno cyfarfu â nifer o sosialwyr a Marcswyr, gan gynnwys Otto Bauer, Karl Kautsky, ac August Bebel. Ym 1906 cafodd Hilferding waith mewn ysgol hyfforddi dan nawdd Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD) ym Merlin.[1]
Hilferding oedd awdur y gyfrol gyntaf – Böhm-Bawerks Marx-Kritik (1904) – yng nghyfres Marx Studien (1904–22) yr Awstro-Farcswyr. Ei brif waith yw Das Finanzkapital (1910), sydd yn trafod rôl y bancwyr a'r arianwyr mewn imperialaeth economaidd a rhyfel. Hilferding oedd golygydd gwleidyddol Vorwärts, prif gylchgrawn yr SPD, o 1907 i 1915. Cafodd ei alw i'r fyddin Awstriaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd yn feddyg ar ffrynt yr Alpau. Derbyniodd ddinasyddiaeth Almaenig ym 1920. Am gyfnod bu'n olygydd Die Freiheit, cylchgrawn y Democratiaid Cymdeithasol Annibynnol.[1]
Gwasanaethodd yn ddirprwy yn y Reichstag o 1924 nes i Adolf Hitler esgyn i rym ym 1933. Ffoes Hilferding o'r Almaen Natsïaidd, ac ym 1934 sefydlodd gynllun ar gyfer sosialwyr Almaenig alltud.[1] Cafodd ei arestio gan awdurdodau Vichy ym 1940 a'i drosglwyddo i'r Gestapo. Bu farw yn y ddalfa ym Mharis yn 63 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rudolf Hilferding. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2020.