Sadwrn (sant)

sant o Gymro
(Ailgyfeiriad o Sant Sadwrn)

Sadwrn, a elwir hefyd yn Sadwrn Farchog (ganed tua 480) oedd sylfaenydd eglwysi Llansadwrn (Sir Gaerfyrddin) a Llansadwrn (Ynys Môn). Ffurf Ladin ei enw oedd Saturnus neu Saturninus. Cymysgir ef yn aml gyda Saturnin, sant a ddanfonwyd o Rufain i Toulouse gan y Pab Fabian yn y ganrif gyntaf O.C.

Sadwrn
Ganwyd480 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl29 Tachwedd Edit this on Wikidata
PriodSantes Canna Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad

golygu

Roedd Sadwrn yn frawd i Illtud a mab i Bican. Mae'r enw yn awgrymu iddo fod yn filwr. Dywedir iddo briodi Canna, a bu ganddynt fab, Sant Crallo.

Yn 1742 cafwyd hyd i garreg fedd o tua 550 ym mynwent eglwys Llansadwrn, Môn, sydd yn awr wedi ei gosod ym mur yr eglwys. Yn ôl V. E. Nash-Williams, mae’r arysgrif arni yn darllen:

HIC BEATUS (-) SATURNINUS SE(PULTUS) (I)ACIT ET SUA SA[NCTA] CONIU(N)X PA(X) (VOBISCUM SIT)[1]

Gellir ei gyfieithu fel:

Yma y claddwyd y bendigaid Saturninus a’i wraig sanctaidd. Boed heddwch iddynt.

Gŵyl mabsant Sant Sadwrn yw 29 Tachwedd, ond mae'n debyg fod hyn oherwydd iddo gael ei gymysgu a Sant Saturninus o Toulouse. Mae cerflun ohono ar fedd yn eglwys Biwmares sy'n ei ddangos fel marchog barfog.

Eglwysi

golygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Sant Sadwrn
 
53°12′06″N 3°27′54″W / 53.2017°N 3.46508°W / 53.2017; -3.46508 Henllan Q17741618
2 Eglwys Sant Sadwrn
 
53°15′36″N 4°10′10″W / 53.2601°N 4.16942°W / 53.2601; -4.16942 Cymuned Cwm Cadnant Q17741708
3 Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn
 
51°57′59″N 3°54′02″W / 51.966323°N 3.9004633°W / 51.966323; -3.9004633 Llansadwrn Q29489508
4 Eglwys Sant Sadwrnen
 
51°45′53″N 4°29′30″W / 51.764662°N 4.4915294°W / 51.764662; -4.4915294 Treflan Lacharn Q29502768
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Nash-Williams, V.E., The early Christian monuments of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1950).