Llansadwrn, Ynys Môn
Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llansadwrn[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, tua hanner y ffordd rhwng Pentraeth a Biwmares. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2668°N 4.1549°W |
Cod OS | SH561768 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
- Am y pentref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin.
Eglwys Sadwrn Sant
golyguEglwys Sadwrn Sant yw eglwys y plwyf, a sefydlwyd gan Sadwrn, a elwir hefyd yn Sadwrn Farchog, yn y 6g, er bod yr adeilad presennol yn llawer mwy diweddar. Tybir fod yr eglwys yn ganolfan i glas (cymuned neu fynachlog) ar y safle. Yn 1742 cafwyd hyd i garreg fedd yn y fynwent, sydd yn awr wedi ei gosod ym mur yr eglwys. Yn ôl Nash-Williams,[3] mae’r arysgrif arni yn darllen:
- HIC BEATUS (-) SATURNINUS SE(PULTUS) (I)ACIT ET SUA SA[NCTA] CONIU(N)X PA(X) (VOBISCUM SIT)
Gellir ei gyfieithu fel:
- Yma y claddwyd y bendigaid Saturninus a’i wraig sanctaidd. Boed heddwch iddynt.
Roedd Sadwrn yn frawd i Illtud, a fu farw rhwng 527 a 537, felly gellir dyddio’r garreg tua 530 O.C..
Pobl o Lansadwrn
golygu- William John Griffith (1875-1931). Er iddo gael ei eni yn Aberffraw, magwyd yr awdur yn y pentref.
- Wyn Roberts (1930 - 2013). Gweleidydd a newyddiadurwr
- Eifion Roberts (1927 - 2019). Barnwr a gwleidydd a brawd y gwleidydd Wyn Roberts
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
- ↑ V.E. Nash-Williams, The early Christian monuments of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele